Gweithio ar brosiectau cadwraeth ac adfer

URN: COSVR546
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio ar brosiectau cadwraeth ac adfer, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt


Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gwybodaeth

P1 dehongli'r wybodaeth am y gwaith a'r adnoddau fel sy'n berthnasol i leoliad daearyddol a'r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
  • rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol


Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel 
  • defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
  • defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
  • defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
  • risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
  • risgiau penodol sy'n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy'n cynnwys asbestos
  • risgiau penodol sy'n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy'n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau


Dewis
adnoddau

P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:

  • deunyddiau a chydrannau
  • offer a chyfarpar


Lleihau'r
risg o ddifrod

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas drwy:

  • cymryd camau perthnasol i ddiogelu'r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
  • gweithio gydag ymwybyddiaeth o'r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
  • cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
  • gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol


Bodloni gofynion y contract

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth gontract i weithio ar brosiectau cadwraeth ac adfer yn effeithlon yn unol â'r fanyleb ofynnol drwy:

  • ddangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:

    • mesur
    • marcio allan
    • addasu
    • alinio
    • rhoi
    • tacluso
    • cynnal a chadw
    • atgyweirio
    • cadw
    • adfer neu wella
    • gorffen
    • lleoli a diogelu
  • defnyddio a chynnal a chadw offer llaw ac offer pŵer a chyfarpar ategol

  • defnyddio sgiliau ar gyfer prosiectau adfer a chadwraeth hanesyddol a threftadaeth i samplo, dewis, paratoi, cyfateb, cynnal a chadw ac atgyweirio yn unol â chyfarwyddiadau gweithio, ar gyfer o leiaf un o'r canlynol:

    • toi
    • gwaith plwm a thoi gyda metel caled
    • gwaith brics
    • strwythurau pridd
    • meini sychion
    • gwaith maen
    • galwedigaethau addurnol
    • plastro
    • teilsio waliau a lloriau
    • gwaith saer ac asiedydd
    • gwaith haearn neu fetel
    • toi gwellt
    • gweithiwr calch


Amser a neilltuwyd

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

P1 Dehongli gwybodaeth

K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:

  • lluniadau
  • manylebau
  • rhestrau
  • datganiadau dull
  • asesiadau risg
  • gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
  • gwybodaeth gytundebol
  • deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
  • cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
  • cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig

K3 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

K4 gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith


P2 Arferion gwaith diogel

K5 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:

  • tanau a'r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
  • gollyngiadau ac anafiadau
  • argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
  • nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy'n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny

K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â'r canlynol:

  • safle
  • gweithle
  • cerbydau
  • cwmni
  • gweithwyr
  • cleientiaid
  • y cyhoedd

K7 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:

  • dulliau gweithio
  • asesiadau risg
  • asesiad personol
  • gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol
  • Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K8 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio'r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â'r canlynol:

  • mesurau diogelu ar y cyd
  • cyfarpar diogelu personol (PPE)
  • cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
  • awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K10 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â'r canlynol:

  • dan lefel y ddaear
  • lleoedd cyfyng
  • gweithio mewn mannau uchel
  • offer, peiriannau a chyfarpar
  • deunyddiau a sylweddau
  • symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol


P3
Dewis adnoddau

K11 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion

K12 pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol

K13 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio

K14 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K15 sut dylid defnyddio'r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â'r canlynol:

  • cadw ac adfer deunyddiau a chydrannau strwythurol
  • offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
  • offer digidol

K16 sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg

K17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer gweithio ar brosiectau cadwraeth ac adfer


P4 Lleihau'r risg o ddifrod

K18 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod

P19 pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â'r canlynol:

  • cyfrifoldebau amgylcheddol
  • gweithdrefnau'r sefydliad
  • gwybodaeth gwneuthurwyr
  • gwybodaeth cyflenwyr
  • rheoliadau statudol
  • canllawiau swyddogol

K20 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus


P5 Bodloni manyleb y contract

K21 sut mae'r dulliau gweithio i fodloni'r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau'n cael eu nodi a'u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach a chynaliadwy sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • sut mae dilysu ffyrdd priodol o wneud y gwaith
  • sut i adnabod meysydd sensitif
  • sut i gynnal treftadaeth a chyfanrwydd archaeolegol
  • sut i gynnal egwyddorion ymyrraeth leiaf a newidiadau gwrthdroadwy
  • pam fod angen rhoi'r gorau i weithio pan fyddwch chi'n dechrau dyfalu a rhoi gwybod am eich canfyddiadau
  • pam fod angen cofnodi gwaith a wneir (mewn fformat ysgrifenedig a digidol)
  • sut mae adnabod a rhoi gwybod am blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl ac wedi'u gwarchod
  • pryd i symud deunyddiau sydd wedi dirywio a rhai amhriodol
  • sut mae symud, atgyweirio, adfer a newid ffabrig, deunyddiau a chydrannau strwythurol
  • sut mae atgyweirio ffabrig, deunyddiau neu gydrannau strwythurol yn y fan a'r lle
  • effeithiau newid yn yr hinsawdd ar brosiectau
  • mesurau addasu y gellir eu defnyddio yn y prosiect
  • mesurau ôl-osod y gellir eu defnyddio ar y prosiect
  • pam fod angen cynnal y strwythur presennol
  • sut mae integreiddio cydrannau a gorffeniadau adeiladol presennol a newydd priodol
  • sut mae diogelu ffabrigau, deunyddiau a chydrannau strwythurol y gellir eu hachub yn y fan a'r lle a'u storio, gan gynnwys ailgylchu ac ailddefnyddio i leihau gwastraff
  • sut a phryd i ddefnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
  • sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw a phŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a'u cadw
  • perthnasedd asesiad o arwyddocâd
  • sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:

    • strwythurau o ddiddordeb arbennig
    • adeiladwaith traddodiadol
    • adeiladau anodd eu trin
    • arwyddocâd hanesyddol
  • sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

K22 gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano

K23 pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithio ar brosiectau cadwraeth neu adfer


P6 Amser a neilltuwyd

K24 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt

K25 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifiwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR546

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Adeiladu

Cod SOC

1234

Geiriau Allweddol

Cydweddu; Cynnal a Chadw; Atgyweirio; Toi; Gwaith plwm; Gwaith brics; Strwythurau pridd; Cerrig sychion; Gwaith maen; Galwedigaethau addurnol; Plastro; Teilsio waliau a lloriau; Gwaith Saer; Gwaith Asiedydd; Gwaith metel; Gwaith toi gwellt;Gweithiwr calch