Leinio strwythurau simneiau a ffliwiau â leininau hyblyg
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi gwasanaethau a systemau simneiau, gan osod systemau leinio metelig hyblyg, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â’r ardal waith a gweithdrefnau’r sefydliad sy’n cyfateb i’r dogfennau a’r manylebau statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
 
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol Simneiau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
 
Mae modd gweld disgrifiad o'r termau sydd mewn testun trwm yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn yr Eirfa, y dylid ei defnyddio fel pwynt cyfeirio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1  dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
•   dogfennau a manylebau
•   lluniadau
•   rhestrau
•   gwybodaeth y contract
•   arolygon cyn gosod
•   asesiadau risg
•   datganiadau dull
Arferion gwaith diogel
P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol, canllawiau swyddogol a gweithdrefnau’r sefydliad i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol am y canlynol:
•   dulliau gweithio
•   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel, sy’n berthnasol i’r dasg sy’n cael ei chyflawni a’r amgylchedd gwaith
•   defnyddio cyfarpar mynediad a phlatfformau gweithio’n ddiogel
•   defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
•   risgiau penodol i iechyd gan gynnwys iechyd meddwl
•   risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau sy’n cynnwys asbestos
•   risgiau penodol sy’n gysylltiedig â llwch silica, morterau a deunyddiau selio
Dewis adnoddau
P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd angenrheidiol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio:
•   deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
•   offer a chyfarpar
•   cyfarpar mynediad
Lleihau'r risg o ddifrod
P4  cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:
•   diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod
•   cadw'r ardal waith yn ddiogel, yn glir ac yn daclus
•   gwaredu gwastraff yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol ac arferion gorau’r diwydiant
Bodloni manyleb y contract
P5  cydymffurfio â'r wybodaeth yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion drwy’r canlynol:
•   dangos sgiliau tynnu, mesur, torri, cymysgu, lleoli, diogelu a gorffen
•   asesu addasrwydd a nodi gwaith atgyweirio adferol
•   archwilio, paratoi a gosod leininau simneiau hyblyg yn unol â chyfarwyddiadau gweithio
•   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw ac offer pŵer a chyfarpar ategol
Amser a neilltuwyd
P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1  pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu i roi gwybod am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas a’u cywiro, a sut mae'r rhain yn cael eu rhoi ar waith
K2  mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
•   dogfennau a manylebau
•   lluniadau
•   rhestrau
•   gwybodaeth y contract
•   arolygon cyn gosod
•   asesiadau risg
•   datganiadau dull
K3 yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio
K4 pwysigrwydd gweithdrefnau’r sefydliad o ran rhoi gwybod am broblemau a’u datrys â’r wybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
P2 Arferion gwaith diogel
K5  gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae’n cael ei chymhwyso
K6 y mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn, powdr
K7  sut dylid ymateb i argyfyngau a rhoi gwybod amdanynt yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
•   tanau, gollyngiadau ac anafiadau
•   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
•   nodi deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt
K8  gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol, mewn perthynas â’r canlynol:
•   gweithiwr
•   safle
•   gweithle
•   cerbydau
•   cwmni
•   cyfarpar mynediad
•   peiriannau
•   cwsmer
•   y cyhoedd
•   galwedigaethau eraill yn y gweithle
K9  sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
•   dulliau gweithio
•   asesiad risg
•   asesiad personol
•   gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr
•   rheoliadau statudol
•   canllawiau swyddogol
•   Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
K10 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11 pam, pryd a sut dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
•   mesurau diogelu ar y cyd
•   cyfarpar diogelu personol (PPE)
•   cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
•   awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)
K12 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd o ran gweithio:
•   yn y gweithle
•   dan lefel y ddaear
•   mewn mannau cyfyng
•   mewn mannau uchel
•   gydag offer a chyfarpar
•   gyda deunyddiau a sylweddau
•   wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
P3 Dewis adnoddau
K13 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion
K14 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio
K15 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb
K16 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau mewn perthynas â’r canlynol:
•   leininau hyblyg
•   ôl-lenwi
•   deunyddiau inswleiddio
•   tywod, morterau, smentiau a chyfansoddion
•   gosodiadau a ffitiadau
•   cydrannau cynhaliaeth
•   platiau cau
•   addasyddion
•   offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
K17 sut mae nodi addasrwydd a’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain
K18 sut mae cyfrifo niferoedd, hyd a gwastraff
P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K19 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod i adeiledd presennol yr adeilad
K20 pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol:
•   cyfrifoldebau amgylcheddol
•   gweithdrefnau’r sefydliad
•   gwybodaeth gweithgynhyrchwyr
•   rheoliadau statudol
•   canllawiau swyddogol
K21 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P5 Bodloni manyleb y contract
K22 sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol sy’n ymwneud â’r dull a’r maes gwaith mewn perthynas â:
•   sut a pham ei bod yn bwysig archwilio a pharatoi strwythurau simneiau a nodi’r gwaith adfer
•   sut mae gosod leininau metelig hyblyg ar gyfer mathau o danwydd dynodedig
•   sut mae darparu cynhaliad parhaol a dros dro
•   pam ei bod yn bwysig darparu cynhaliad parhaol a dros dro
•   pam ei bod yn bwysig dewis y diamedr cywir ar gyfer y ffliw
•   pam ei bod yn bwysig bod y ffliw yn dod i ben yn y lleoliad priodol
•   pwysigrwydd dynodiad y ffliw a sut mae gwneud yn siŵr bod y ffliw yn gydnaws â’r darn o offer a sut bwriedir ei ddefnyddio
•   sut mae darparu mynediad ar gyfer archwilio a chynnal a chadw
•   sut i dynnu a newid potiau simnai
•   perthnasedd asesiad o arwyddocâd a sut i adnabod gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol, adeiladau anodd eu trin ac arwyddocâd hanesyddol
•   sut mae gweithio’n ddiogel gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
•   sut i ddefnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
•   sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
•   sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr offer llaw a’r offer pŵer a’r cyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
K23 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu, gweithdrefnau’r sefydliad o ran ymddygiad ar y safle a sut mae rhoi gwybod am ymddygiad amhriodol ar y safle
K24 anghenion galwedigaethau eraill sy’n gysylltiedig â leinio strwythurau simneiau a ffliwiau â leininau hyblyg
P6 Amser a neilltuwyd
K25 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
K26 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithdrefnau’r sefydliad
Y Sefydliad
Yswiriant - atebolrwydd cyflogwyr, cynnyrch a chyhoeddus, indemniad proffesiynol
Dogfennau'r cwmni
contract gwaith, cynllun rheoli diogelwch, dylunio a rheoli adeiladu, polisi amgylcheddol, gweithdrefn gwyno, polisi diogelwch a phreifatrwydd gwybodaeth, strwythur rheoli
Ardal waith
Yr ardal lle bydd y cyfarpar yn cael eu gosod a'r holl ardaloedd y bydd y gwaith yn effeithio arnynt, gan gynnwys nodweddion topograffig ac amodau meteorolegol
Gwasanaethau a systemau
Systemau simneiau a ffliwiau, offer, systemau awyru a chyfleustodau priodol
Dogfennau a manylebau
Cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwyr ar gyfer yr holl gyfarpar sy’n rhan o'r gwaith
cynlluniau’r pensaer a dogfennau penodol i’r safle
rheolau a rheoliadau adeiladu lleol
Deddfwriaeth waliau cydrannol
Deddf Aer Glân
Deddf yr Amgylchedd
Parthau rheoli mwg
Datblygu a ganiateir
Ardaloedd cadwraeth
Statws treftadaeth
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
anghenion penodol tanysgrifenwyr yswiriant
Rheoliadau adeiladu yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig ADJ ond hefyd ADA, ADB, ADF, ADL ac AD7
Llawlyfr Technegol Safonau Adeiladu yn yr Alban
Llyfrynnau Technegol yng Ngogledd Iwerddon, yn enwedig B, D, E, F1, F2, K ac L
BSENs, yn enwedig 8303, 15287, 1856, 16510, 1251, 3376, 4834, 12815, 13229, 13240, 15250
Noder: Mae’n bosibl y bydd dogfennau technegol a BSEN yn cael eu tynnu’n ôl neu eu disodli yn ystod rhaglenni adolygu. Felly mae’n bwysig gwirio pa mor gyfredol a dilys yw pob dogfen o'r fath i sicrhau eich bod yn cyfeirio at y fersiwn gywir.
Offer
Offer llosgi tanwydd solet gydag allbwn o hyd at 50kW gan gynnwys y canlynol, ond nid y rhain yn unig:
•   tanau agored
•   gwresogyddion ystafelloedd sy’n sefyll ar eu pen eu hunain
•   gwresogyddion ystafelloedd wedi’u mewnosod
•   poptai sy’n sefyll ar eu pen eu hunain
•   boeleri annibynnol
•   stofiau sy’n rhyddhau gwres yn araf