Saernïo rhannau o ddur atgyfnerthu ymlaen llaw
URN: COSVR535
Sectorau Busnes (Suites): Gosod Dur (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar:
31 Mai 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â saernïo rhannau o ddur atgyfnerthu ymlaen llaw er mwyn ffurfio strwythurau concrit, cryfhau rhannau parod o ddur atgyfnerthu a pharatoi i'w codi a'u symud er mwyn eu gosod, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol gosod dur a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â deddfwriaeth benodol, berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Meini Prawf Perfformiad 1** **Dehongli gwybodaeth** K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am **wybodaeth** amhriodol ac **adnoddau** anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o **wybodaeth** sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad i ddatrys **problemau** â'r **wybodaeth** a pham mae'n bwysig eu dilyn |
**Meini Prawf Perfformiad 2** **Arferion gwaith diogel** K4 faint o'r **canllawiau swyddogol a deddfwriaeth berthnasol a chyfredol** y mae'n rhaid i weithwyr eu deall a sut i'w cymhwyso K5 sut y dylid ymateb i **argyfyngau** a phwy ddylai ymateb K6 beth yw **gweithdrefnau diogelwch** y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio **cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â **deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol** |
**Meini Prawf Perfformiad 3** **Dewis adnoddau** K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr **adnoddau** a sut y dylid cywiro diffygion K11 sut y dylid defnyddio'r **adnoddau** a sut i adrodd am unrhyw **broblemau** sy'n gysylltiedig â nhw K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad i ddewis **adnoddau**, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K13 pa **beryglon** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** a'r **dulliau gweithio** a sut i ddelio â'r rhain |
**Meini Prawf Perfformiad 4** **Lleihau'r risg o ddifrod** K14 sut i **ddiogelu gwaith** rhag difrod a phwrpas diogelu K15 pam y dylid **gwaredu gwastraff** yn ddiogel a sut i wneud hyn |
**Meini Prawf Perfformiad 5** **Bodloni gofynion y contract** K16 sut i ymgymryd â **dulliau gweithio** i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am **broblemau** K17 sut i **gynnal a chadw** offer a chyfarpar |
**Meini Prawf Perfformiad 6** **Amser a neilltuwyd** K18 beth yw'r **rhaglen** i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
|
Gwybodaeth Cwmpas
**Gwaredu gwastraff** 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
**Argyfyngau** 2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol |
**Peryglon** 3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol ac mewn canllawiau swyddogol |
**Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** 4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 4.1 mesurau diogelu ar y cyd 4.2 cyfarpar diogelu personol 4.3 cyfarpar diogelu anadlol 4.4 system awyru a gwacáu leol |
**Gwybodaeth** 5 lluniadau, gofynion, cyfarwyddiadau'r safle, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau sefydliadola chanllawiau swyddogol sy'n gysylltiedig â saernïo rhannau o ddur atgyfnerthu ymlaen llaw |
**Gweithdrefnau'r sefydliad a chanllawiau swyddogol** 6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol |
**Cynnal a chadw** 7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol |
**Dulliau gweithio** 8 cymhwyso gwybodaeth am arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull gweithio a'r deunyddiau a ddefnyddir i 8.1 tynnu manylion o restrau, lluniadau gosod dur a dyluniadau gwaith dros dro (copïau caled neu systemau digidol) 8.2 cwblhau gwaith i oddefiannau penodol ac yn unol â'r meini prawf ansawdd y cytunwyd arnynt 8.3 nodi a dewis dur ffurfiedig yn unol â rhestrau plygu 8.4 saernïo dur atgyfnerthu ymlaen llaw o gydrannau plyg ac a dorrwyd ymlaen llaw er mwyn ffurfio rhannau trawstiau neu golofnau, seiliau neu slabiau a waliau 8.5 dilyn trefn y gwaith adeiladu, gan gynnwys dyluniadau gwaith dros dro 8.6 nodi defnydd a nodweddion clymau syml, clymau cyfrwy, clymau croes, clymau sbleis, clymau cylch, clampiau a bolltiau U 8.7 gosod rhwyll, barrau dur, trawstiau, darnau gwahanu, blociau gorchuddio a chlymau 8.8 gosod, sicrhau a symud barrau adeiladu dros dro 8.9 gosod a sicrhau cryfhad er mwyn symud rhannau 8.10 gosod a sicrhau pwyntiau codi er mwyn symud rhannau 8.11 ymgorffori gosodiadau mewn rhannau parod o ddur 8.12 ymgorffori cysylltyddion atgyfnerthu a systemau atgyfnerthiad parhaus 8.13 symud a lleoli dur 8.14 gosod rhannau parod o ddur atgyfnerthu ar gyfer elfennau llorweddol a fertigol 8.15 trefnu, storio a diogelu dur a gosodiadau 8.16 rhoi gwybodaeth ar gyfer systemau digidol 8.17 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol 8.18 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt 8.19 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar 8.20 gweithio ar uchder 8.21 defnyddio cyfarpar mynediad 9 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu 10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â saernïo rhannau o ddur atgyfnerthu ymlaen llaw |
**Problemau** 11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad |
**Rhaglen** 12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 13 gweithdrefnau'r sefydliad i adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
**Diogelu gwaith** 14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
**Adnoddau** 15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol neu arbenigol o 15.1 cydrannau plyg ac a dorrwyd ymlaen llaw, dur atgyfnerthu, clymau gwifren a darnau gwahanu 15.2 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar 16 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion 17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull neu'r weithdrefn ar gyfer saernïo rhannau o ddur atgyfnerthu ymlaen llaw |
**Gweithdrefnau diogelwch** 18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Mai 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
CITB
URN gwreiddiol
COSVR535
Galwedigaethau Perthnasol
Crefftau Adeiladu
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
Dur; Atgyfnerthu; Strwythurau concrit; Trawstiau; Seiliau; Colofnau; Slabiau; Waliau; Barrau adeiladu dros dro; Cryfhad; Pwyntiau codi