Gosod dur yn ei briod le
URN: COSVR534
Sectorau Busnes (Suites): Gosod Dur (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar:
31 Mai 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod dur atgyfnerthu a rhannau parod o ddur atgyfnerthu yn eu priod leoedd er mwyn ffurfio strwythurau concrit, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol gosod dur a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth benodol, berthnasol a chyfredol a'r canllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Meini Prawf Perfformiad 1** **Dehongli gwybodaeth** K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am **wybodaeth** amhriodol ac **adnoddau** anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o **wybodaeth** sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad i ddatrys **problemau** â'r **wybodaeth** a pham mae'n bwysig eu dilyn |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 2** **Arferion gwaith diogel** K4 faint o **wybodaeth** y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â **deddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol** a sut i'w chymhwyso K5 sut y dylid ymateb i **argyfyngau** a phwy ddylai ymateb K6 beth yw **gweithdrefnau diogelwch** y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio **cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â **deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol** |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 3** **Dewis adnoddau** K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr **adnoddau** a sut y dylid cywiro diffygion K11 sut y dylid defnyddio'r **adnoddau** a sut i adrodd am unrhyw **broblemau** sy'n gysylltiedig â nhw K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad i ddewis **adnoddau**, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K13 pa **beryglon** sy'n gysylltiedig â'r **adnoddau** a'r **dulliau gweithio** a sut i ddelio â'r rhain |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 4** **Lleihau'r risg o ddifrod** K14 sut i **ddiogelu gwaith** rhag difrod a phwrpas diogelu K15 pam y dylid **gwaredu gwastraff** yn ddiogel a sut i wneud hyn |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 5** **Bodloni gofynion y contract** K16 sut i ymgymryd â **dulliau gweithio** sy'n bodloni'r gofynion a sut i adrodd am **broblemau** K17 sut i **gynnal a chadw** offer a chyfarpar |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 6** **Amser a neilltuwyd** K18 beth yw'r **rhaglen** i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**Meini Prawf Perfformiad 1** 1 dehongli lluniadau, manylebu, rhestrau, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 2** 2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ydilynol 2.1 dulliau gweithio 2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau'n ddiogel 2.5 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel 2.6 risgiau penodol i iechyd |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 3** 3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau 3.2 offer, peiriannau a chyfarpar |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 4** 4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5 cynnal lle gweithio clir a thaclus 6 gwaredu gwastraff yn unol â **gweithdrefnau cyfredol y sefydliad a chanllawiau swyddogol** |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 5** 7 dangos sgiliau nodi, dewis, mesur, marcio allan, ffitio, lleoli, cryfhau a sicrhau 8 defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar 9 gosod dur atgyfnerthu yn ei briod le i ffurfio'r strwythurau concrit dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir 9.1 trawstiau neu golofnau 9.2 seiliau neu slabiau 9.3 waliau 10 gosod dur atgyfnerthu drwy ddefnyddio'r dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir 10.1 cwlwm syml 10.2 cwlwm cyfrwy 10.3 cwlwm croes 10.4 cwlwm sbleis 10.5 cwlwm cylch |
** ** **Meini Prawf Perfformiad 6** 11 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill neu'r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
**Gwaredu gwastraff** 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, gweithdrefnau cyfredol y sefydliad a chanllawiau swyddogol | ||||||
** ** **Argyfyngau** 2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol | ||||||
** ** **Peryglon** 3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr a gweithdrefnau cyfredol y sefydliad ac mewn canllawiau swyddogol | ||||||
** ** **Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch** 4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 4.1 mesurau diogelu ar y cyd 4.2 system awyru a gwacáu leol 4.3 cyfarpar diogelu personol 4.4 cyfarpar diogelu anadlol | ||||||
** ** **Gwybodaeth** 5 lluniadau, gofynion, cyfarwyddiadau'r safle, manylebau, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau cyfredol a chanllawiau swyddogol sy'n gysylltiedig â gosod dur yn ei briod le | ||||||
** ** **Gweithdrefnau'r sefydliad a chanllawiau swyddogol** 6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol | ||||||
**
**
**Cynnal a chadw**
7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
|
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Mai 2025
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
CITB
URN gwreiddiol
COSVR534
Galwedigaethau Perthnasol
Crefftau Adeiladu
Cod SOC
5319
Geiriau Allweddol
Dur; Parod; Atgyfnerthu; Strwythurau concrit; Trawstiau; Seiliau; Colofnau; Slabiau; Waliau