Codi ac arwasgu ffurfwaith pren a pherchnogol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chodi ac arwasgu ffurfwaith pren a pherchnogol yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, manylebau dylunio a gweithdrefnau sefydliadol drwy osod y mowldiau lle mae concrit cyfnerth neu ddeunyddiau tebyg yn cael eu castio a’u tynnu i ffwrdd
Bydd y safon hon hefyd yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol ffurfwaith a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
• lluniadau
• manylebau
• amserlenni (rhaglenni gwaith)
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• gwybodaeth gwneuthurwyr
• cyfarwyddiadau
Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:
• dulliau gweithio gan ddefnyddio’r sgiliau, y wybodaeth, y profiad a’r ymddygiadau cysylltiedig
• dangos yr hyfforddiant angenrheidiol
• defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
• defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
• defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer, a chyfarpar yn ddiogel
• risgiau penodol i iechyd
• risgiau penodol sy’n gysylltiedig â sylweddau peryglus
Dewis adnoddau
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau canlynol ar gyfer y dulliau gweithio:
• deunyddiau
• cydrannau a gosodiadau
• offer a chyfarpar
Lleihau'r risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:
• diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod
• cadw'r ardal waith yn ddiogel, yn glir, ac yn daclus
• gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Bodloni manyleb y contract
P5 cydymffurfio â gwybodaeth y contract i godi ac arwasgu ffurfwaith pren a pherchnogol yn effeithlon yn unol â’r fanyleb ofynnol drwy wneud y canlynol:
• dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:
- cynllunio
- mesur
- marcio allan
- torri
- lleoli
- diogelu
- rhoi’r gorffeniadau
- tynnu
- diogelu a storio
• defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
• codi ac arwasgu ffurfwaith pren yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio ar gyfer o leiaf ddau o’r canlynol: - waliau
- colofnau
- trawstiau
- soffitiau
- gwaelodion
- blychau
- cicwyr
• codi ac arwasgu ffurfwaith perchnogol yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio ar gyfer o leiaf ddau o’r canlynol: - dringo
- neidio
- slip ffurfio
- systemau paneli
- paneli
- milwyr
- waliadau
- ffugwaith
- diogelu a gosod
Amser a neilltuwyd
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
• lluniadau
• gofynion gwaith dros dro
• manylebau
• rhestrau
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• gwybodaeth gwneuthurwyr a chyflenwyr
• cyfarwyddiadau
• deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau swyddogol cyfredol sy’n llywodraethu’r gweithle
K3 pwysigrwydd rhoi gwybod am wybodaeth amhriodol a'i chywiro
K4 yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio
P2 Arferion gwaith diogel
K5 gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae’n cael ei chymhwyso
K6 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
• tanau, gan gynnwys defnyddio diffoddyddion tân:
- dŵr
- CO2
- ewyn
- powdr
• gollyngiadau, anafiadau
• argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
• nodi deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt
• nodi a rheoli sylweddau peryglus gan gynnwys llwch coed a llwch silica
K7 gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol, mewn perthynas â’r canlynol:
• staff y safle
• safle
• ardaloedd gwaith cyfyngedig
• cerbydau
• cwmni
• cleient
• ymwelwyr â’r safle
• y cyhoedd
K8 y risgiau a’r peryglon a nodwyd gan y canlynol:
• dulliau gweithio
• asesiad risg
• asesiad personol
• gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol
• Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
K9 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau a damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am lunio’r adroddiad
K10 pam, pryd, a sut dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
• mesurau diogelu ar y cyd
• cyfarpar diogelu personol (PPE)
• cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
• awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)
K11 sut mae cydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol cyfredol
K12 gweithdrefn y sefydliad wrth ddelio â damweiniau, digwyddiadau a pheryglon iechyd posibl a’r effaith ar yr amgylchedd wrth weithio:
• dan lefel y ddaear
• mewn mannau cyfyng
• mewn mannau uchel
• gydag offer a chyfarpar
• gyda deunyddiau a sylweddau
• gyda symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
• o amgylch symudiadau cerbydau
• defnyddio systemau ffurfwaith a ffugwaith
P3 Dewis adnoddau
K13 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion
K14 y gweithdrefnau sefydliadol a'r broses gymeradwyo i ddewis yr adnoddau cywir, pam y cawsant eu datblygu, sut maent yn cael eu defnyddio, a chyfyngiadau eich rôl
K15 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb
K16 sut dylid defnyddio a storio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau mewn perthynas â’r canlynol:
• pren, dalennau pren a deunyddiau dalen nad ydynt wedi eu gwneud o bren
• systemau ffurfwaith perchnogol a chydrannau cysylltiedig
• systemau clymu, milwyr a waliadau
• systemau diogelu
• araenau diogelu gan gynnwys cyfryngau rhyddhau
• ffitiadau a gosodiadau
• cyfarpar mynediad
• offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
• cyfarpar digidol
K17 sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain
K18 dulliau o gyfrifo’r niferoedd, yr hyd, yr arwynebedd a’r gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer codi ac arwasgu ffurfwaith pren a pherchnogol
P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K19 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
K20 sut mae lleihau’r difrod i adeiledd presennol yr adeilad
K21 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
K22 pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol:
• cyfrifoldebau amgylcheddol
• gweithdrefnau’r sefydliad
• gwybodaeth gweithgynhyrchwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol
P5 Bodloni manyleb y contract
K23 sut i fodloni manyleb y contract mewn perthynas â’r canlynol:
• sut i godi ac arwasgu’r ffurfwaith canlynol:
- waliau
- colofnau
- trawstiau
- soffitiau
- gwaelodion
- cicwyr
- systemau dringo
• sut i godi ac arwasgu’r systemau ffurfwaith canlynol: - dringo
- neidio
- slip ffurfio
- panel
- ffugwaith
- diogelu a gosod
• sut mae cysylltu milwyr a waliadau a’u tynnu i ffwrdd
• sut mae gosod a thynnu dyfeisiau codi diogel
• sut mae codi ac arwasgu’r canlynol: - blychau
- blychau bolltau
- gwiriadau growt
- rheolyddion lefel
- nodweddion a ffiledi ongl
- capiau stopio
- cydrannau
• sut mae gosod, diogelu systemau clymu a’u tynnu i ffwrdd a’u storio
• sut mae defnyddio a storio cyfryngau rhyddhau
• pam ei bod yn bwysig nodi a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol, a sut i adrodd yn briodol ynghylch hyn
• sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
• sut i ddefnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
• sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
• sut i adnabod gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol, adeiladau anodd eu trin ac arwyddocâd hanesyddol
• y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cynnal a chadw a gofalu am yr holl offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
K24 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu
K25 pwysigrwydd ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles
K26 pwysigrwydd defnyddio Tegwch, Cynhwysiant a Pharch wrth ddelio ag eraill
K27 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chodi ac arwasgu ffurfwaith pren a pherchnogol
P6 Amser a neilltuwyd
K28 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd a pham ei bod yn bwysig cadw at derfynau amser
K29 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni, amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith