Saernïo a chynnal a chadw ffurfwaith pren a pherchnogol

URN: COSVR509
Sectorau Busnes (Suites): Ffurfwaith
Datblygwyd gan: CITB
Cymeradwy ar: 01 Medi 2023

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â saernïo a chynnal a chadw ffurfwaith pren a pherchnogol yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, manylebau dylunio a gweithdrefnau sefydliadol drwy greu mowldiau lle mae concrit cyfnerth neu ddeunyddiau tebyg yn cael eu castio

Bydd y safon hon hefyd yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, gwneud cyn lleied o ddifrod â phosibl, a gweithio o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol ffurfwaith a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
• lluniadau
• manylebau
• amserlenni (rhaglenni gwaith)
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• gwybodaeth gwneuthurwyr
• cyfarwyddiadau

Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:
• dulliau gweithio gan ddefnyddio’r sgiliau, y wybodaeth, y profiad a’r ymddygiadau cysylltiedig
• dangos yr hyfforddiant angenrheidiol
• defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
• defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
• defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer, a chyfarpar yn ddiogel
• risgiau penodol i iechyd
• risgiau penodol sy’n gysylltiedig â sylweddau peryglus

Dewis adnoddau
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau canlynol ar gyfer y dulliau gweithio:
• deunyddiau
• cydrannau a gosodiadau
• offer a chyfarpar

Lleihau'r risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:
• diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod
• cadw'r ardal waith yn ddiogel, yn glir, ac yn daclus
• gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Bodloni manyleb y contract
P5 cydymffurfio â gwybodaeth y contract i saernïo a chynnal a chadw ffurfwaith pren a pherchnogol yn effeithlon yn unol â’r fanyleb ofynnol drwy wneud y canlynol:
• dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:

  • cynllunio
  • mesur
  • marcio allan
  • torri
  • lleoli
  • diogelu
  • rhoi’r gorffeniadau
  • tynnu
  • diogelu a storio
    • defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
    • defnyddio a chynnal a chadw o leiaf ddau o’r llifau canlynol:
  • llawlif
  • llif gylchol
  • llif fainc
  • llif fwrdd
  • llif jigio
    • saernïo a chynnal a chadw tair o’r systemau ffurfwaith pren canlynol yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio:
  • paneli
  • cydrannau
  • blychau
  • capiau stopio
  • blychau bolltau
  • cicwyr
    • cydosod a chynnal a chadw systemau ffurfwaith perchnogol gan ychwanegu’r mathau canlynol o saernïaeth at y cyfarwyddiadau gweithio:
  • colofnau
  • waliau
  • soffitiau
  • paneli
  • cydrannau cysylltiedig
  • cydrannau
  • blychau
  • capiau stopio
  • blychau bolltau
  • cicwyr

Amser a neilltuwyd
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith

K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
• lluniadau
• gofynion gwaith dros dro
• manylebau
• amserlenni (rhaglenni gwaith)
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
• gwneuthurwr
• deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau swyddogol cyfredol sy’n llywodraethu’r gweithle

K3 pwysigrwydd rhoi gwybod am wybodaeth amhriodol a'i chywiro

K4 yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio

P2 Arferion gwaith diogel
K5 gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae’n cael ei chymhwyso

K6 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
• tanau, gan gynnwys defnyddio diffoddyddion tân:

  • dŵr
  • CO2
  • ewyn
  • powdr
    • gollyngiadau, anafiadau
    • argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
    • nodi deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt
    • nodi a rheoli sylweddau peryglus gan gynnwys llwch coed a llwch silica

K7 gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol, mewn perthynas â’r canlynol:
• staff y safle
• safle
• ardaloedd gwaith cyfyngedig
• cerbydau
• cwmni
• cleientiaid
• ymwelwyr â’r safle
• y cyhoedd

K8 y risgiau a’r peryglon a nodwyd gan y canlynol:
• dulliau gweithio
• asesiadau risg
• asesiadau personol
• gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol
• Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

K9 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau a damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am lunio’r adroddiad

K10 pam, pryd, a sut dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
• mesurau diogelu ar y cyd
• cyfarpar diogelu personol (PPE)
• cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
• awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)

K11 sut mae cydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol cyfredol

K12 gweithdrefn y sefydliad wrth ddelio â damweiniau, digwyddiadau a pheryglon iechyd posibl a’r effaith ar yr amgylchedd wrth weithio:
• dan lefel y ddaear
• mewn mannau cyfyng
• mewn mannau uchel
• gydag offer a chyfarpar
• gyda deunyddiau a sylweddau
• gyda symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
• o amgylch symudiadau cerbydau
• defnyddio systemau ffurfwaith a ffugwaith

P3 Dewis adnoddau
K13 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion

K14 y gweithdrefnau sefydliadol a'r broses gymeradwyo i ddewis yr adnoddau cywir, pam y cawsant eu datblygu, sut maent yn cael eu defnyddio, a chyfyngiadau eich rôl

K15 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb

K16 sut dylid defnyddio a storio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau mewn perthynas â’r canlynol:
• pren, dalennau pren a deunyddiau dalen nad ydynt wedi eu gwneud o bren
• systemau ffurfwaith perchnogol a chydrannau cysylltiedig
• systemau clymu, milwyr a waliadau
• araenau diogelu gan gynnwys cyfryngau rhyddhau
• ffitiadau a gosodiadau
• cyfarpar mynediad
• offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
• cyfarpar digidol

K17 sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain

K18 dulliau o gyfrifo’r niferoedd, yr hyd, yr arwynebedd a’r gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer saernïo a chynnal a chadw ffurfwaith pren a pherchnogol

P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K19 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

K20 sut mae lleihau’r difrod i adeiledd presennol yr adeilad

K21 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus

K22 pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol:
• cyfrifoldebau amgylcheddol
• gweithdrefnau’r sefydliad
• gwybodaeth gweithgynhyrchwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol

P5 Bodloni manyleb y contract
K23 sut i fodloni manyleb y contract mewn perthynas â’r canlynol:
• sut mae saernïo a chynnal a chadw’r ffurfweithiau pren a pherchnogol canlynol:

  • colofnau
  • waliau
  • trawstiau
  • soffitiau
  • cicwyr
  • systemau dringo
  • paneli
    • sut mae defnyddio a chynnal a chadw’r llifiau canlynol:
  • llawlif
  • llif gylchol
  • llif fainc
  • llif fwrdd
  • llif jigio
    • sut mae lleoli ac atodi milwyr a waliadau
    • sut mae adeiladu’r canlynol:
  • cydrannau
  • blychau
  • blychau bolltau
  • capiau stopio
    • sut mae gosod a diogelu systemau clymu
    • sut mae defnyddio a storio deunyddiau araen ddiogelu, gan gynnwys cyfryngau rhyddhau
    • sut i sylwi pan fo angen atgyweirio ffurfwaith
    • sut mae gosod a thynnu dyfeisiau codi diogel
    • pwy sy’n gyfrifol am godi a symud ffurfwaith pren a pherchnogol wedi’i saernïo
    • sut mae storio ffurfwaith pren a pherchnogol
    • pam ei bod yn bwysig nodi a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol, a sut i adrodd yn briodol ynghylch hyn
    • sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
    • sut i ddefnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
    • sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
    • sut i adnabod gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol, adeiladau anodd eu trin ac arwyddocâd hanesyddol
    • y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cynnal a chadw a gofalu am yr holl offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol

K24 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu

K25 pwysigrwydd ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles

K26 pwysigrwydd defnyddio Tegwch, Cynhwysiant a Pharch wrth ddelio ag eraill

K27 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â saernïo a chynnal a chadw ffurfwaith pren a pherchnogol

P6 Amser a neilltuwyd
K28 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd a pham ei bod yn bwysig cadw at derfynau amser

K29 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni, amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Medi 2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR509 v3

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau Adeiladu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ffurfwaith; Saernïo; Cynnal a Chadw; Pren; Perchnogol;