Atgyweirio a chynnal a chadw gorchuddion to treftadaeth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag atgyweirio a chynnal a chadw gorchuddion to treftadaeth, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy'n cyfateb i'r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu'n rhagori arnynt
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol sgiliau treftadaeth a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau fel sy’n berthnasol i leoliad daearyddol a’r amodau hinsawdd i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
- rheoliadau, deddfwriaeth, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol
Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel am y canlynol:
- dulliau gweithio
- defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar mynediad neu godi yn ddiogel
- defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
- defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
- risgiau penodol i iechyd a diogelwch galwedigaethol gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
- risgiau penodol sy’n gysylltiedig â deunyddiau peryglus neu rai sy’n cynnwys asbestos
- risgiau penodol sy’n gysylltiedig â gwres, gronynnau, nwy a thrydan sy’n gysylltiedig â phrosesau, cyfarpar a deunyddiau
Dewis adnoddau
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio ar gyfer y canlynol:
- deunyddiau a chydrannau
- offer a chyfarpar
Lleihau'r risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:
- gymryd camau perthnasol i ddiogelu’r mannau gwaith rhag difrod damweiniol neu anfwriadol
- gweithio gydag ymwybyddiaeth o’r amgylchedd mewn cysylltiad â galwedigaethau eraill
- cadw'r man gwaith yn lân ac yn daclus
- gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Bodloni gofynion y contract
P5 cydymffurfio â gwybodaeth y contract i atgyweirio a chynnal a chadw gorchuddion to treftadaeth yn effeithlon yn unol â’r fanyleb ofynnol drwy wneud y canlynol:
dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:
- cofnodi tystiolaeth o fanylion toi
- tynnu
- glanhau
- stacio
- storio
- paratoi
- mesur
- marcio allan
- lleoli a diogelu
- gosod
- gorffeniad
defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a chyfarpar ategol
defnyddio technegau mesur gwahanol, gan ddefnyddio tâp mesur modern a ffyn marcio traddodiadol, i o leiaf ddau o'r canlynol:
- system fformiwla i ben-lapiad wedi’i ddiffinio a lleihau’r ymylon
- lapio llechi ddwywaith gan leihau’r pen-lapiad a lleihau’r ymylon
- gosod llechi mewn traeanau gyda llai o ymylon
- gosod pinau tri a hanner gyda llai o ymylon
- lapiad sengl
- patrwm diemwnt
atgyweirio gorchuddion to presennol a chynnal a chadw toeau a drychiadau yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio ar gyfer o leiaf ddau o’r canlynol:
- toeau traddodiadol a dulliau toi sy’n perthyn i ardaloedd daearyddol neilltuol (megis pegiau Caint, llechi cerrig Swydd Efrog)
- addoldai
- plastai
- adeiladau cyhoeddus
- adeiladau hanesyddol
- cestyll neu adeiladau caerog
- ardaloedd cadwraeth
adeiladau rhestredig
atgyweirio a chynnal a chadw toeau yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio ar gyfer y canlynol:
- llechi naturiol
- llechi cerrig naturiol
- teils clai
atgyweirio a chynnal a chadw toeau yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio ar gyfer o leiaf dri o’r canlynol:
- estyll stribed
- gorchuddion ymyl fain a chrib
- seliau plwm
- clirio a thrin rhwystrau mewn cafnau, allfeydd a mannau draenio eraill
- pwyntio o dan lechi
Amser a neilltuwyd
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, gan ystyried yr amodau hinsawdd, yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
- lluniadau
- manylebau
- rhestrau
- datganiadau dull
- asesiadau risg
- gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr
- gwybodaeth gytundebol
- deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau swyddogol a thrwyddedau cyfredol, gan gynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt
- cynlluniau ac adroddiadau cadwraeth
- cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig neu electronig
K3 pwysigrwydd gweithdrefnau sefydliadol o ran datrys problemau â gwybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
K4 gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gyfredol, canllawiau swyddogol a gofynion penodol i safle a sut mae’n cael ei rhoi ar waith
P2 Arferion gwaith diogel
K5 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
- tanau a’r mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a phryd y cânt eu defnyddio o ran dŵr, CO2, ewyn a phowdr
- gollyngiadau ac anafiadau
- argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
- nodi ac adrodd am sylweddau peryglus gan gynnwys deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a charbonad plwm, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny
K6 y gweithdrefnau diogelwch sefydliadol a phenodol i safle ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar mewn perthynas â’r canlynol:
- safle
- gweithle
- cerbydau
- cwmni
- gweithwyr
- cleientiaid
- y cyhoedd
K7 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
- dulliau gweithio
- asesiadau risg
- asesiad personol
- gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
K8 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
- mesurau diogelu ar y cyd
- cyfarpar diogelu personol (PPE)
- cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
K10 sut mae cydymffurfio ag arferion gwaith sy’n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a’r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â’r canlynol:
- lleoedd cyfyng
- gweithio mewn mannau uchel
- offer, peiriannau a chyfarpar
- deunyddiau a sylweddau
- symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
P3 Dewis adnoddau
K11 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, addasrwydd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid rhoi gwybod am ddiffygion
K12 pam y dylid mabwysiadu arferion gwaith a deunyddiau cynaliadwy a moesegol
K13 y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio
K14 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb
K15 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau ynglŷn â’r canlynol:
- estyll, byrddau nenfwd, tywod, sment, calch, haenau gwaelodol, teils, llechi naturiol a llechi carreg, ffitiadau, seliau plwm, deunyddiau inswleiddio, gosodiadau ac eitemau ategol cysylltiedig
- offer llaw a chyfarpar ategol
- cyfarpar digidol
K16 sut mae nodi ac adrodd ar y peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut maent yn cael eu rheoli mewn perthynas â datganiadau dull ac asesiadau risg
K17 dulliau o gyfrifo’r niferoedd, yr hyd, yr arwynebedd a’r gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw gorchuddion to treftadaeth
P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K18 sut mae diogelu gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, gweithrediadau eraill a thywydd garw a sut mae lleihau difrod
K19 pa mor bwysig yw gwaredu gwastraff yn ddiogel, a sut mae gwneud hynny, yn unol â’r canlynol:
- cyfrifoldebau amgylcheddol
- gweithdrefnau’r sefydliad
- gwybodaeth gwneuthurwyr
- gwybodaeth cyflenwyr
- rheoliadau statudol
- canllawiau swyddogol
K20 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P5 Bodloni manyleb y contract
**K21 sut mae’r dulliau gweithio i fodloni’r fanyleb yn cael eu cyflawni a sut mae problemau’n cael eu nodi a’u hadrodd drwy ddefnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel, iach ac amgylcheddol sy’n ymwneud â’r canlynol:
- pam ei bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng gwaith atgyweirio tebyg am debyg a gwaith atgyweirio gonest, gan gynnwys marcio dyddiadau
- sut mae cofnodi tystiolaeth o fanylion toi
- sut mae tynnu, glanhau, stacio, storio ac achub gorchuddion to presennol y mae modd eu hailddefnyddio
- y gwahanol systemau mesur, gan ddefnyddio tapiau mesur modern a ffyn marcio traddodiadol, a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar fanylion traddodiadol fel cafnau
- pam ei bod yn bwysig nodi ac atgyweirio mannau lle mae’r to’n gollwng dŵr a lle mae dŵr yn cael ei rwystro, yn ogystal â gwneud atgyweiriadau cyffredin, mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r gorchuddion to presennol
- sut mae gosod teils llechi, carreg neu glai ar arwynebau wedi’u byrddio (byrddau nenfwd)
- pam ei bod yn bwysig canfod a gweithredu gwaith adfer a chynnal a chadw ataliol
- sut mae cymysgu a defnyddio morter i fodloni gofynion y contract
- sut i bwyntio o’r tu mewn
- pam ei bod yn bwysig dilysu ffyrdd priodol y dylid gwneud y gwaith
- sut i adnabod meysydd sensitif
- sut i gynnal treftadaeth a chyfanrwydd archaeolegol
- pam ei bod yn bwysig cynnal egwyddorion ymyrraeth sylfaenol a newidiadau gwrthdroadwy
- pam ei bod yn bwysig rhoi’r gorau i weithio pan fyddwch chi’n dechrau dyfalu a rhoi gwybod am eich canfyddiadau
- pam fod angen cofnodi gwaith a wneir (mewn fformat ysgrifenedig a digidol)
- sut mae adnabod a rhoi gwybod am blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl ac wedi’u gwarchod
- sut i symud deunyddiau sydd wedi dirywio a rhai amhriodol
- sut i gynnal y strwythur presennol
- pam ei bod yn bwysig cynnal y strwythur presennol
- sut i ddefnyddio pob math o offer llaw a chyfarpar ategol
- sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw ar gyfer gwaith a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
- sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
- perthnasedd asesiad o arwyddocâd
sut mae nodi gofynion penodol ar gyfer y canlynol:
- strwythurau o ddiddordeb arbennig
- adeiladwaith traddodiadol
- adeiladau anodd eu trin
- arwyddocâd hanesyddol
sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
safle, a chydnabod a sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch o fewn yr amgylchedd
gwaith, a sut i roi sylw i ymddygiad amhriodol ar y safle a rhoi gwybod amdano
K23 pwysigrwydd dulliau gweithio, cysylltiadau rhyngbersonol a chyfathrebu ac anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig ag atgyweirio â chynnal a chadw gorchuddion to treftadaeth
P6 Amser a neilltuwyd
K24 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd, a pham y dylid cadw at derfynau amser neu roi gwybod os ydych yn debygol o fethu cadw atynt
K25 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifiwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith