Rhoi fframiau dur oer at ei gilydd

URN: COSVR499
Sectorau Busnes (Suites): Adeiladu gan ddefnyddio Darnau a Weithgynhyrchwyd Oddi ar y Safle
Datblygwyd gan: CITB
Cymeradwy ar: 04 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, paratoi a rhoi fframiau dur oer sy’n cynnal a/neu ddim yn cynnal pwysau at ei gilydd
 
 Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes adeiladu gan ddefnyddio darnau a weithgynhyrchwyd oddi ar y safle a gellir ei defnyddio gan weithredwyr, goruchwylwyr a rheolwyr


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth benodol sy'n ymwneud â'r gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol benodol a'r canllawiau swyddogol, i gyflawni eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis nifer ac ansawdd angenrheidiol yr adnoddau ar gyfer y dulliau gwaith
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal gyfagos
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth benodol ar gyfer y contract i gyflawni'r gwaith yn effeithlon yn unol â'r fanyleb ofynnol
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd, yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 gweithdrefnau’r sefydliad a ddatblygwyd i adrodd a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut y cânt eu gweithredu
K2 y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut y cânt eu dehongli
K3 gweithdrefnau’r sefydliad i ddatrys problemau gyda'r wybodaeth a pham ei bod yn bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 lefel y ddealltwriaeth y mae’n rhaid i weithredwyr ei chael o wybodaeth am ddeddfwriaeth a chanllawiau swyddogol perthnasol, cyfredol a sut y cânt eu cymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau adrodd ynghylch damweiniau a phwy sy'n gyfrifol am baratoi’r adroddiad
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio offer rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i gydymffurfio ag arferion gwaith amgylcheddol gyfrifol i fodloni deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K10 y nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut mae unrhyw broblemau
yn gysylltiedig â'r adnoddau yn cael eu hadrodd
K12 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut y cânt eu defnyddio
K13 y peryglon sy'n gysylltiedig ag adnoddau a dulliau gwaith
a sut y cânt eu goresgyn

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut y caiff ei gyflawni

Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni manyleb y contract
K16 sut mae dulliau gweithio, i fodloni'r fanyleb, yn cael eu cyflawni a phroblemau yn cael eu hadrodd
K17 sut y caiff offer a chyfarpar eu cynnal a’u cadw

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
K18 beth yw'r rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith o fewn yr amcangyfrif o’r amser a neilltuwyd a pham y dylid cadw at ddyddiadau cau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, manylebau, gwybodaeth ddigidol, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gan y gweithgynhyrchwr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth benodol sy'n ymwneud â'r canlynol
2.1 dulliau gwaith
2.2 defnyddio offer rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio offer mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â’ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
3.3 nwyddau traul

Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal gyfagos rhag difrod
5 cadw’r ardal waith yn glir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau gwaith i fesur, marcio allan, alinio, torri, gosod, gorffen, ei roi yn ei le a’i wneud yn ddiogel
8 defnyddio a chynnal offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol
9 paratoi a rhoi dur oer ar gyfer o leiaf un o'r canlynol at ei gilydd yn unol â chyfarwyddiadau gwaith penodol
9.1 fframiau wal
9.2 fframiau llawr
9.3 strwythurau cynnal
9.4 toeau

Meini Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amcangyfrif o’r amser a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau a/neu gleientiaid eraill


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gan y gweithgynhyrchwr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2 ymateb gweithredwr i sefyllfaoedd yn unol â chymeradwyaeth y sefydliad a sgiliau personol pan fydd yn ymwneud â
2.1 thanau, gollyngiadau, anafiadau
2.2 argyfyngau yn ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
3 y rhai a nodwyd drwy asesiad risg, dulliau gwaith, gwybodaeth dechnegol gan y gweithgynhyrchwr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Offer rheoli iechyd a diogelwch
4 a nodwyd drwy egwyddorion atal at ddefnydd galwedigaethol, mathau a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu cyfunol
4.2 awyru a gwacáu lleol (LEV)
4.3 cyfarpar diogelu personol (PPE)
4.4 cyfarpar diogelu resbiradol (RPE)

Hysbysrwydd
5 lluniadau, manylebau, amserlenni, gwybodaeth ddigidol a modelu 3D, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth dechnegol gan y gweithgynhyrchwr, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n llywodraethu adeiladau mewn perthynas â rhoi fframiau dur oer at ei gilydd

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 mae’n ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, islaw lefel y ddaear, mewn mannau cyfyng, ar uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, wrth symud a storio deunyddiau trwy godi â llaw a chodi mecanyddol

Cynnal a chadw
7 gofal gan weithredwyr am offer llaw, offer pŵer cludadwy ac offer ategol

Dulliau gwaith
8 cymhwyso gwybodaeth ar gyfer arferion gwaith diogel ac iach, gweithdrefnau a sgiliau sy'n ymwneud â'r dull a'r maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir
8.1 darparu gwybodaeth ar gyfer Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM)
8.2 paratoi a rhoi fframiau wal sy’n cynnal / ddim yn cynnal pwysau at ei gilydd, fframiau llawr, strwythurau cynnal a thoeau yn unol â’r fanyleb benodol
8.3 gwneud y lle’n barod cyn rhoi’r darnau gwaith at ei gilydd
8.4 gwybod a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ac adrodd yn unol â hynny
8.5 nodi a dilyn y gofynion o ran ansawdd y gwaith gosod
8.6 gweithio gyda, o gwmpas ac yn agos at beiriannau ac offer
8.7 cyfarwyddo ac arwain y gwaith o ddefnyddio a symud peiriannau ac offer
8.8 defnyddio offer llaw, offer a chyfarpar pŵer cludadwy
8.9 gwaith ar uchder
8.10 defnyddio offer mynediad
8.11 defnyddio dŵr yn ddarbodus, adrodd ynghylch gollyngiadau a chau’r tapiau
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â rhoi fframiau dur oer at ei gilydd

Problemau
11 y rhai sy'n deillio o wybodaeth, adnoddau a dulliau gwaith
11.1 awdurdod ei hun i gywiro
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
12 math o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
13 sut mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
14 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer adrodd ynghylch amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
15 diogelu’r gwaith rhag difrod yn sgil gwaith cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau ac offer sy'n ymwneud â mathau, nifer, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd y safon a/neu arbenigedd
16.1 cydrannau dur ar gyfer waliau, lloriau, strwythurau cynnal a thoeau, deunyddiau inswleiddio, gosodiadau, ffitiadau a deunyddiau llenni
16.2 offer llaw, offer a chyfarpar pŵer cludadwy
16.3 nwyddau traul
17 cadarnhau bod adnoddau a deunyddiau yn cydymffurfio â'r fanyleb
18 dull o gyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn i roi fframiau dur oer at ei gilydd

Gweithdrefnau diogelwch
19 safle, gweithle, cwmni, gweithredwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

03 Mai 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR499

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr Adeiladu

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

Cynnal pwysau; Ddim yn cynnal pwysau; Dur; Fframiau llawr; fframiau wal; Toeau; Strwythurau cynnal