Gwneud gwaith gwrth-ddŵr strwythurol

URN: COSVR492
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Gwaith Isadeiledd (Adeiladu)
Datblygwyd gan: CITB
Cymeradwy ar: 31 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a gwneud gwaith strwythurol gwrth-ddŵr gan ddefnyddio hylif, dalenni, ceudod a ddraeniwyd, sgrîd a rendrad

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio fel gweithredwyr gwaith gwrth-ddŵr strwythurol ym maes galwedigaethau gwaith isadeiledd yn adfer cyflwr y tir, a gall gweithredwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â’u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i’w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau’r sefydliad i ddatrys problemau â'r wybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae’n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i’w chymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau i adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i’w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â’r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn





Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni manyleb y contract
K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni’r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, meini prawf dylunio, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod
5 cynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau mesur, gosod allan, paratoi, defnyddio, diogelu, gorffen, gwarchod a phrofi
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
9 gwneud gwaith gwrth-ddŵr strwythurol ar arwynebau gan ddefnyddio pilen hylifol (drwy chwistrellu, brwsio neu ddefnyddio roler) gan gynnwys resinau neu len-bilenni neu geudod wedi’i ddraenio, concrit, sgrid neu rendrad yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio a roddir, gan gynnwys y canlynol
9.1 uniadau
9.2 mannau treiddio
9.3 mynedfeydd gwasanaethau
9.4 terfynau

Meini Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau’ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu’r cleient





Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a’r amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 systemau awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth
4.3 cyfarpar diogelu personol (PPE)
4.4 cyfarpar diogelu anadlol (RPE)

Gwybodaeth
5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau a chanllawiau swyddogol sy’n gysylltiedig â gwaith gwrth-ddŵr strwythurol

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw
7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
8.1 nodi gofynion ansawdd ar gyfer gosod
8.2 bodloni gofynion y cytunwyd arnynt
8.3 cadarnhau gofynion manylion
8.4 lleoli a gwirio’r gwaith o baratoi arwynebau ac uniadau gan gynnwys arwynebau ac uniadau symud, ehangu, anwythol, mewndro ac o’r llawr i’r wal
8.5 paratoi deunyddiau a chyfarpar
8.6 systemau amlbecyn cymysg
8.7 preimio arwynebau a rhoi hylif gwrth-ddŵr arnynt
8.8 gosod llen-bilenni
8.9 lleoli a gosod dalenni, gan sicrhau eu bod yn gorgyffwrdd, uniadau diogelu a selio gan gynnwys allwthiadau a threiddiadau
8.10 cymysgu, trin a defnyddio concrit, sgridiau a rendrau
8.11 gosod systemau ceudod wedi’u draenio
8.12 gosod draeniau, swmpau ac ategion pwmpio
8.13 nodi a defnyddio meini prawf caledu a diogelu ar gyfer preimars a hylifau gwrth-ddŵr, gan gynnwys resinau, uniadau dalen, sgridiau a rendradau
8.14 archwilio diffygion yn weledol
8.15 cynnal profion llifogydd ac uniondeb
8.16 gorffen a diogelu deunydd gwrth-ddŵr
8.17 atgyweirio systemau gwrth-ddŵr strwythurol
8.18 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol ychwanegol
8.19 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
8.20 gweithio ar uchder
8.21 defnyddio cyfarpar mynediad
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy’n gysylltiedig â gwaith gwrth-ddŵr strwythurol

Problemau
11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau’r sefydliad i adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o
15.1 cyfarpar gosod allan
15.2 gosodiadau, ffitiadau, preimars
15.3 hylifau gwrth-ddŵr, dalennau, pilenni draenio ceudod neu goncrit smentaidd, sgridiau a rendrau
15.4 cymysgwyr, pympiau, draeniau, swmpau ac ategion pwmpio
15.5 offer profi
15.6 deunyddiau gorffen ac amddiffyn
15.7 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
16 nodi niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer gwneud gwaith gwrth-ddŵr strwythurol

Gweithdrefnau diogelwch
17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr



Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR492

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu

Cod SOC

8159

Geiriau Allweddol

System bwmpio; Preimars; Cymysgwyr; Offer profi; Ceudod wedi’i ddraenio; Sgridau; Rendrau; Pwyntiau treiddio; Mynedfeydd gwasanaethau; Terfyniadau