Gosod brics a blociau i ffurfio nodweddion pensaernïol ac addurniadol

URN: COSVR49
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Trywel (Adeiladu),Sgiliau Treftadaeth (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gosod strwythurau wedi'u gwneud o frics, blociau a/neu ddeunyddiau lleol, ymgorffori bwâu, cromliniau, simneiau a nodweddion addurniadol ac ar oleddf, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Trywel a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Meini Prawf Perfformiad 1


Dehongli gwybodaeth
**
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
**
Meini Prawf Perfformiad 2


Arferion gwaith diogel
**
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol **a chanllawiau swyddogol


Meini Prawf Perfformiad 3


Dewis adnoddau
**
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw

broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K14 sut i *ddiogelu gwaith* **rhag difrod a phwrpas diogelu

K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
*
Meini Prawf Perfformiad 5
*

**Bodloni gofynion y contract

K16 sut i ymgymryd â **dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
*
Meini Prawf Perfformiad 6
*

**Amser a neilltuwyd

K18 beth yw'r **rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal lle gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7 dangos sgiliau mesur, edrych, marcio allan, gosod, lleoli a sicrhau
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
9 gosod brics, blociau a/neu ddeunyddiau lleol i ffurfio o leiaf dri o'r nodweddion pensaernïol ac addurniadol dilynol, gan gynnwys gorffen uniadau, yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 bwa (brics garw, brics wedi'u bwyellu, brics mesuredig)
9.2 corn simnai
9.3 lle tân
9.4 wal â nodweddion cyfwyneb, ymestynnol neu addurniadol
9.5 wal grom mewn cynllun
9.6 wal grom mewn gweddlun
9.7 wal sblae mewn cynllun

Meini Prawf Perfformiad 6

10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 cyfarpar diogelu personol
4.3 cyfarpar diogelu anadlol
4.4 system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

5 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gosod brics a blociau i ffurfio nodweddion pensaernïol ac addurniadol

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer a chyfarpar

Dulliau gweithio

8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
8.1 gosod waliau ceudod a waliau solet drwy ddefnyddio brics, blociau a blociau uniad tenau
8.2 gosod waliau yn ôl yr arddull leol drwy ddefnyddio deunyddiau
lleol
8.3 gosod waliau drwy bwyso drosodd i'r ochr arall i'w cwblhau
8.4 lleoli, gosod a sicrhau gosodiadau a chrampiau
8.5 lleoli a sicrhau clymau waliau, gan gynnwys eu gwahanu, yn enwedig o gwmpas agoriadau a chwyddgymalau
8.6 ffurfio ceudodau a chynnal eu cyfanrwydd
8.7 gosod onglau cynnal bricwaith a blocwaith
8.8 ffurfio a gosod tyllau diferu a fentiau
8.9 ffurfio bwâu (brics garw, brics wedi'u bwyellu, brics mesuredig)
8.10 ffurfio cyrn simnai
8.11 ffurfio lleoedd tân
8.12 gosod waliau â nodweddion cyfwyneb, ymestynnol ac
addurniadol
8.13 gosod waliau crwm mewn cynlluniau drwy ddefnyddio
hirgylchwyr, templedi a mowldiau bae
8.14 gosod waliau sblae mewn cynlluniau drwy ddefnyddio templedi a
mowldiau bae
8.15 gosod waliau crwm ac ar oleddf mewn gweddluniau drwy eu gosod allan a defnyddio hirgylchwyr a phroffiliau
8.16 propio a chynnal strwythurau
8.17 gosod chwyddgymalau
8.18 gosod pyst gwynt
8.19 torri brics, blociau a deunyddiau lleol
8.20 cwblhau a symud gwaith dros dro
8.21 gorffen uniadau
8.22 dewis a gosod atgyfnerthiadau fertigol a llorweddol
8.23 lleoli a gosod rhwystrau atal lleithder, systemau clogyn a hambyrddau ceudod
8.24 lleoli, bondio a thapio deunyddiau inswleiddio
8.25 gosod rhwystrau tân a chynnal eu cyfanrwydd
8.26 cymysgu morter
8.27 rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu
8.28 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
8.29 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
8.30 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
8.31 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
8.32 defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
8.33 gweithio ar uchder
8.34 defnyddio cyfarpar mynediad
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod brics a blociau i ffurfio nodweddion pensaernïol ac addurniadol

Problemau

11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

12 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
13 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu
arbenigol o
16.1 brics, blociau, morterau, fframiau, deunydd inswleiddio, rhwystrau atal lleithder, systemau clogyn, linteli a chlymau
16.2 cydrannau a gosodiadau
16.3 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
17 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
18 dulliau o gyfrifo nifer, hyd ac arwynebedd y deunyddiau, yn ogystal â'r deunyddiau a fydd yn cael eu gwastraffu, mewn cysylltiad â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod brics a blociau i ffurfio nodweddion pensaernïol ac addurniadol

Gweithdrefnau diogelwch

19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Construction Skills

URN gwreiddiol

COSVR49

Galwedigaethau Perthnasol

Gosod Brics a Saernïo

Cod SOC

5312

Geiriau Allweddol

Bwâu; Cyrn simnai; Lleoedd tân; Nodweddion ar oleddf; Nodweddion addurniadol; Pyst gwynt; Brics; Blociau; Clymau waliau; Sblae mewn cynlluniau; Crwm mewn cynlluniau