Cynhyrchu pren a chynhyrchion pren drwy ddefnyddio peiriannau rheolaeth rifiadol gyfrifiadurol/rheolaeth rifiadol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â
1 dehongli gwybodaeth
2 mabwysiadu arferion gwaith diogel ac iach
3 dewis deunyddiau, cydrannau a chyfarpar
4 paratoi, gosod, gweithredu a chynnal a chadw peiriannau rheolaeth rifiadol gyfrifiadurol/rheolaeth rifiadol i gynhyrchu pren a chynhyrchion pren
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel
P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr
adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Noder: ym maen prawf perfformiad 5, gall y wybodaeth a roddir yn y contract olygu lluniadau, gofynion, amserlenni, rhestrau deunyddiau, gwybodaeth y gweithgynhyrchydd a chyfarwyddiadau ar lafar
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r
wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
**
Meini Prawf Perfformiad 2**
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam a phryd y dylid defnyddio cyfarpar diogelu personol
K9 sut i ddefnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
*
Meini Prawf Perfformiad 3*
Dewis adnoddau
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
*
Meini Prawf Perfformiad 4*
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith a chyfarpar rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
*
Meini Prawf Perfformiad 5*
Bodloni gofynion y contract
K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
**
Meini Prawf Perfformiad 6**
Amser a neilltuwyd
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, rhestrau deunyddiau, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth statudol gyfredol a Chodau Ymarfer cymeradwy i wneud y gweithgaredd yn ddiogel
3 defnyddio cyfarpar diogelu personol yn ddiogel i wneud y gweithgaredd
4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
Meini Prawf Perfformiad 3
5 dewis a thrin adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
5.1 deunyddiau a chydrannau
5.2 offer a chyfarpar
5.3 cymhorthion rheolaeth ddimensiynol fel y bo'n briodol
Meini Prawf Perfformiad 4
6 diogelu'r gwaith, y cyfarpar a'r ardal o'u cwmpas rhag difrod
7 lleihau difrod a chynnal lle gweithio glân
8 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth
Meini Prawf Perfformiad 5
9 dangos sgiliau mesur, marcio allan, addasu, ffitio, gorffen, lleoli a sicrhau
10 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a chyfarpar ategol
11 paratoi, gosod, gweithredu a chynnal a chadw'r peiriannau rheolaeth rifiadol gyfrifiadurol/rheolaeth rifiadol dilynol (un o restr A neu ddau o restr B) i gynhyrchu pren a chynhyrchion pren yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
11.1 Rhestr A: plaen cafnu cyflym; canolwr ffenestri
11.2 Rhestr B: tenonwr un pen; tenonwr deuben; llif banel; peiriant morteisio; turn; plaeniwr pedair ochrog; peiriant sandio; peiriant tyllu; peiriant siapio; peiriant bandinau ymyl; mowldiwr gwerthyd; llif drawst
12 gosod a newid offer priodol i fodloni'r gofynion
**
Meini Prawf Perfformiad 6**
13 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Argyfyngau
1 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
1.1 tanau, gollyngiadau, anafiadau a damweiniau
Cyfarpar
2 offer, peiriannau, cymhorthion diogelwch, gardiau diogelwch fel y bo'n briodol, cymhorthion rheolaeth ddimensiynol a dyfeisiau echdynnu
Peryglon
3 y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Gwybodaeth
4 lluniadau, gofynion, amserlenni, rhestrau deunyddiau, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau sy'n ymwneud â saernïo coed â pheiriannau
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
5 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl a pheryglon i iechyd wrth weithio yn y gweithle, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw
6 gofal y gweithiwr am offer llaw a chyfarpar ategol
Dulliau gweithio
7 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
7.1 paratoi a gosod y peiriant rheolaeth rifiadol gyfrifiadurol/rheolaeth rifiadol
7.2 gweithredu'r peiriant rheolaeth rifiadol gyfrifiadurol/rheolaeth rifiadol
7.3 cynnal a chadw'r peiriant rheolaeth rifiadol gyfrifiadurol/rheolaeth rifiadol
7.4 nodi a ellir defnyddio deunyddiau â pheiriannau
7.5 nodi sut y gellir osgoi difrodi deunyddiau a pheiriannau
7.6 nodi sut i ddefnyddio ireidiau'n gywir
7.7 nodi'r cymhorthion rheolaeth ddimensiynol perthnasol a'u defnyddiau
7.8 nodi ac adrodd am ddiffygion deunyddiau a pheiriannau a gwahaniaethau rhyngddynt
7.9 gosod a newid offer priodol
7.10 nodi mathau o offer a'u haddasrwydd
7.11 nodi'r hyn y gall ac na all y peiriant ei wneud
7.12 dewis y peiriant priodol ar gyfer y gwaith sydd i'w wneud
7.13 defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
8 gwaith tîm a chyfathrebu
9 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chynhyrchu pren a chynhyrchion pren drwy ddefnyddio peiriannau rheolaeth rifiadol gyfrifiadurol/rheolaeth rifiadol
Cyfarpar diogelu personol
10 defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math a sefyllfaoedd gwaith
Problemau
11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle a galwedigaethau eraill
**
Gwaredu gwastraff**
15 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd a meintiau mathau safonol a/neu arbenigol o
16.1 peiriannau rheolaeth rifiadol gyfrifiadurol
16.2 peiriannau rheolaeth rifiadol
16.3 pren
16.4 cynhyrchion pren
16.5 ireidiau
16.6 offer llaw a chyfarpar ategol
17 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer cynhyrchu pren a chynhyrchion pren drwy ddefnyddio peiriannau rheolaeth rifiadol gyfrifiadurol/rheolaeth rifiadol
Gweithdrefnau diogelwch
18 gweithle, cwmni a gweithiwr