Gosod a gorffen concrit

URN: COSVR45
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a gorffen concrit gan gynnwys paratoi a chywasgu slabiau, sylfeini a seiliau concrit, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar cysylltiedig

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1   dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2   cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal  arferion gwaith diogel ac iach

P3   dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4   cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5   cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6   cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal  â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*
Arferion gwaith diogel
K4   deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso
K5   pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a phryd i'w defnyddio
K6   sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K7   beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K10   sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

*
Meini Prawf Perfformiad 3
*
Dewis adnoddau
K11   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro  diffygion
K12   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K13   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K14   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

**

Meini Prawf Perfformiad 4**
Lleihau'r risg o ddifrod
K15   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K16   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K17   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K18   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
K19   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at  derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1   dehongli lluniadau, cynlluniau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth  gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2   osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r canlynol
        2.1   dulliau gweithio
        2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
        2.3   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
        2.4   defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
        2.5   risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3
3   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
        3.1   deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
        3.2   offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4
4   diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5   cynnal lle gweithio clir a thaclus
6   gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth

Meini Prawf Perfformiad 5
7   dangos sgiliau mesur, marcio, gosod, cywasgu, gorffen, lleoli a sicrhau
8   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer
9   gosod, cywasgu a gorffen concrit yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer y canlynol
        9.1   slabiau a seiliau concrit (sylfeini, troshaenau neu lwybrau)
        9.2   ffurfio ymylon slabiau (wedi'u trywelu)
        9.3   atgyfnerthu safle
        9.4   ffurfio gorffeniad arwyneb (wedi'i dampio, ei lyfnu, ei frwsio a'i drywelu)

Meini Prawf Perfformiad 6
10   cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill  a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a  chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
        2.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau
        2.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaetho

Diffoddwyr tân
3   dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau

Peryglon
4   y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr a  chyflenwyr, ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math,  sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
        5.1   mesurau diogelu ar y cyd
        5.2   system awyru a gwacáu leol
        5.3   cyfarpar diogelu personol
        5.4   cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth
6   lluniadau, cynlluniau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr,  cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol  sy'n gysylltiedig â gosod a gorffen concrit

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
7   cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan  lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio  deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw
8   gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer

Dulliau gweithio
9   cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y  maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
        9.1   trin, cludo a phrofi concrit
        9.2   cludo, gosod, cywasgu a gorffen concrit
        9.3   caledu ac amddiffyn
        9.4   gosod atgyfnerthiad
        9.5   nodi cymarebau cymysgedd concrit
        9.6   gosod concrit mewn ffurfwaith ac estyllod
        9.7   ffurfio ymylon slabiau gan gynnwys newid lefelau ac uniadau
        9.8   nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
        9.9   nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
        9.10   gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
        9.11   cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu
        9.12   defnyddio offer llaw a phŵer
        9.13   gweithio ar uchder
        9.14   defnyddio cyfarpar mynediad
10   gwaith tîm a chyfathrebu
11   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a gorffen concrit

Problemau
12   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio:
        12.1   eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
        12.2   gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
13   mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
14   y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
15   gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

**

Diogelu gwaith**
16   diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd  garw

Adnoddau
17   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau  safonol ac arbenigol o'r canlynol
        17.1   concrit, atgyfnerthu, pren, pren haenog, ymylon slabiau perchnogol a gosodiadau
        17.2   offer llaw a phŵer
18   ffyrdd o gadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r datganiad dull a'r gofynion
19   dulliau o gyfrifo nifer, hyd ac arwynebedd y deunyddiau, yn ogystal â'r deunyddiau a fydd yn cael eu gwastraffu,  mewn cysylltiad â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod a gorffen concrit

Gweithdrefnau diogelwch
20   safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1   Gweithio’n ddiogel: ystyried eich diogelwch eich hun a’r bobl o’ch cwmpas, herio ymddygiad anniogel

2   Cyfathrebu’n effeithiol: ar lafar, yn ysgrifenedig, yn electronig,
     gwrando, iaith y corff, cyflwyno

3   Parch: cymhwyso egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a
     chynhwysiant wrth ddelio ag eraill

4   Gweithio fel tîm: gweithio’n effeithiol ac yn ddiogel gydag eraill heb lawer o oruchwyliaeth

5   Gweithio’n annibynnol: cymryd cyfrifoldeb am gwblhau’ch gwaith eich hun yn ddiogel

* Meddwl yn rhesymegol:* meddwl mewn ffordd glir a dilys wrth
     wneud penderfyniadau er mwyn dilyn y cyfarwyddiadau gwaith yn ddiogel

7   Gweithio’n effeithiol: gwneud y gwaith mewn ffordd ddibynadwy, diogel a chynhyrchiol

8   Rheoli amser: defnyddio’ch amser eich hun yn effeithiol er mwyn cwblhau’r gwaith mewn pryd, cymryd yr amser i fod yn ddiogel

9   Bod â’r gallu i addasu: gallu addasu i newidiadau i’r cyfarwyddiadau gweithio, rhoi diogelwch yn gyntaf


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR45

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Adeiladu , Adeiladu a Chynnal a Chadw Ffyrdd

Cod SOC

8142, 8149

Geiriau Allweddol

Cywasgu; Slabiau concrit; Sylfeini; Atgyfnerthu; Wedi’i lyfnu; Wedi’i dampio; Wedi’i drywelu