Codi cladin gwaith maen
Trosolwg
Mae'r safon hon ynglŷn â dehongli gwybodaeth, defnyddio arferion gwaith iach a diogel, dethol deunyddiau, cydrannau a chyfarpar a pharatoi a chodi bricwaith a blocwaith a/neu ddeunyddiau lleol ar gyfer strwythurau a godwyd ymlaen llaw
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 Dehongli’r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â’r gwaith ac adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol
P2 Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol a roddwyd i wneud eich gwaith a chadw arferion gwaith iach a diogel
P3 Dethol faint o adnoddau ac ansawdd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y dulliau gwaith
P4 Cydymffurfio gyda gweithdrefnau i leihau’r risg o ddifrod i’r gwaith a’r ardal o amgylch
P5 Cydymffurfio â’r wybodaeth gontract a roddwyd i wneud y gwaith yn effeithlon i’r fanyleb ofynnol
P6 Cwblhau’r gwaith o fewn yr amser a glustnodwyd, yn unol â’r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Maen Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
G1 Y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i wneud adroddiad am a chywiro gwybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut i’w gweithredu
G2 Y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut i’w dehongli
G3 Y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau gyda’r wybodaeth a pham ei bod yn bwysig eu dilyn
Maen Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
G4 Lefel y ddealltwriaeth y mae’n rhaid i weithwyr ei chael o wybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, cyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i’w defnyddio
G5 Sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
G6 Y gweithdrefnau diogelu sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
G7 Y drefn ar gyfer gwneud adroddiad am ddamwain a phwy sy’n gyfrifol am wneud yr adroddiad
G8 Pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
Maen Prawf Perfformiad 3
Dethol adnoddau
G9 Nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yn gysylltiedig gyda’r adnoddau a sut y dylid unioni diffygion
G10 Sut y dylid defnyddio’r adnoddau a sut i wneud adroddiad am unrhyw broblemau yn gysylltiedig gyda’r adnoddau
G11 Y gweithdrefnau sefydliadol i ddewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i’w defnyddio
G12 Y peryglon yn gysylltiedig gyda’r adnoddau a’r dulliau gwaith a sut i’w goresgyn
Maen Prawf Perfformiad 4
Lleihau’r risg o ddifrod
G13 Sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a diben diogelu
G14 Pam y dylid cael gwared â gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hynny
Maen Prawf Perfformiad 5
Cyflawni manyleb y contract
G15 Sut i wneud dulliau gwaith i gyflawni’r fanyleb, a gwneud adroddiad am broblemau
G16 Sut i gynnal-a-chadw offer a chyfarpar
Maen Prawf Perfformiad 6
Amser a glustnodwyd
G17 Beth yw’r rhaglen ar gyfer y gwaith i gael ei wneud, yr amser a amcangyfrifwyd ac a glustnodwyd a pham y dylid cadw at amserlenni
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Maen Prawf Perfformiad 1
1 Dehongli darluniadau, asesiadau risg, datganiadau dull, manylebion, rhestri a gwybodaeth gwneuthurwyr yn cyfeirio at y gwaith i gael ei wneud
Maen Prawf Perfformiad 2
2 Osgoi risg drwy gydymffurfio â’r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â’r dilynol:
2.1 dulliau gwaith
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio a storio deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Maen Prawf Perfformiad 3
3 Dethol adnoddau yn gysylltiedig â’ch gwaith eich hun:
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodion
3.2 offer a chyfarpar
Maen Prawf Perfformiad 4
4 Diogelu’r gwaith a’r ardal o amgylch rhag difrod
5 Lleihau difrod a chadw gofod gwaith glân
6 Cael gwared â gwastraff yn unol â deddfwriaeth
Maen Prawf Perfformiad 5
7 Arddangos sgiliau gwaith i fesur, marcio allan, gosod, lleoli a diogelu
8 Defnyddio a chynnal-a-chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
9 Codi bric a bloc a/neu gladin deunydd lleol i gyfarwyddiadau gwaith a roddwyd, gan gynnwys ffurfio agoriadau drws a ffenestr a gorffeniadau uniad, ar gyfer o leiaf un o’r strwythurau dilynol:
9.1 ffrâm bren a godwyd ymlaen llaw
9.2 concrit a godwyd ymlaen llaw
9.3 dur a godwyd ymlaen llaw
9.4 presennol
Maen Prawf Perfformiad 6
10 Cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amcangyfrif o amser a glustnodwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cwsmer
Gwybodaeth Cwmpas
Cael gwared â gwastraff
1 Cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 Ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol â chaniatâd sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â:
2.1 tanau, arllwysiadau, anafiadau
2.2 argyfyngau’n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
3 Y peryglon a ddynodir gan asesiad risg, dull gwaith, gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 Dynodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a diben pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol:
4.1 mesurau diogelu torfol
4.2 cyfarpar diogelu personol (PPE)
4.3 cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
4.4 awyriad ecsôst lleol (LEV)
Gwybodaeth
5 Darluniadau, manylebion, asesiadau risg, datganiadau dull, rhestri, gwybodaeth gwneuthurwyr a rheoliadau’n ymwneud â llywodraethu adeiladau
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 Mae hyn yn cyfeirio at gyfrifoldebau’r gweithiwr am ddamweiniau a pheryglon iechyd posibl wrth weithio yn y gweithle, dan lefel y ddaear, ar uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, wrth symud/storio deunyddiau ac wrth godi a chario â llaw ac yn fecanyddol
Cynnal-a-chadw
7 Gofal y gweithiwr o offer llaw a/neu offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
Dulliau gwaith
8 Defnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion gwaith iach a diogel, gweithdrefnau a sgiliau yn ymwneud â’r dull/ardal waith a’r deunyddiau a ddefnyddir i:
8.1 codi cladin bric, traddodiadol a bloc uniad tenau i strwythurau ffrâm bren, concrit, dur a strwythurau presennol
8.2 rhoi cladin ar strwythurau yn defnyddio deunyddiau lleol
8.3 gosod briciau, blociau (traddodiadol ac uniad tenau)
8.4 ffurfio gorffeniadau uniad
8.5 ffurfio agoriadau ar gyfer drysau a ffenestri
8.6 ategu a chynnal strwythurau
8.7 cwblhau a symud strwythurau dros dro
8.8 lleoli rhwystrau atal lleithder
8.9 cymysgu morter
8.10 defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
8.11 gweithio gydag offer a pheiriannau
8.12 gweithio ar uchder
8.13 defnyddio cyfarpar mynediad
9 Gwaith tîm a chyfathrebu
10 Anghenion galwedigaethau eraill yn gysylltiedig â chodi cladin gwaith maen
Problemau
11 Problemau’n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gwaith:
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
12 Mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amcangyfrif o amser
13 Gweithdrefnau ar gyfer gwneud adroddiadau am amgylchiadau fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
14 Diogelu gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd anffafriol
Adnoddau
15 Deunyddiau, cydrannau a chyfarpar yn ymwneud â mathau, swm, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol y dilynol:
15.1 Briciau, blociau, morter, fframiau, inswleiddiad, rhwystrau atal lleithder, lintel, gosodion a chlymau
15.2 offer llaw a/neu bŵer a chyfarpar
16 Dulliau o gyfrif pellterau, swm, hyd, arwynebedd a gwastraff yn gysylltiedig gyda’r dull/gweithdrefn i godi cladin gwaith maen
Trefniadau diogelwch
17 Safle, gweithle, cwmni a gweithiwr