Gosod cladin wedi’i wneud o frics a blociau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a gosod cladin wedi'i wneud o frics, blociau a/neu ddeunyddiau lleol ar strwythurau a osodwyd ymlaen llaw, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Trywel a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
**
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
**
Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
**
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol **a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
**
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw
broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio
a sut i ddelio â'r rhain
*
Meini Prawf Perfformiad 4
*
**Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i **ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
*
Meini Prawf Perfformiad 5
*
**Bodloni gofynion y contract
K16 sut i ymgymryd â **dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
*
Meini Prawf Perfformiad 6
*
**Amser a neilltuwyd
K18 beth yw'r **rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
*Meini Prawf Perfformiad 1
*
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
**Meini Prawf Perfformiad 2
**2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
*
Meini Prawf Perfformiad 3
*
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
**Meini Prawf Perfformiad 4
**4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal lle gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
**Meini Prawf Perfformiad 5
**7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, lleoli, lefelu, plymio, ffitio, gosod a sicrhau
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
9 gosod cladin wedi'i wneud o frics, blociau a/neu ddeunyddiau lleol, gan gynnwys ffurfio agoriadau a gorffen uniadau, ar o leiaf un o'r dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 strwythur ffrâm bren a osodwyd ymlaen llaw
9.2 strwythur concrit a osodwyd ymlaen llaw
9.3 strwythur dur a osodwyd ymlaen llaw
9.4 strwythur presennol wedi'i wneud o frics a blociau
**Meini Prawf Perfformiad 6
**10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
*Gwaredu gwastraff
*
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
**Argyfyngau
**2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
**Peryglon
*3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
*
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
**
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 cyfarpar diogelu personol
4.3 cyfarpar diogelu anadlol
4.4 system awyru a gwacáu leol
*
Gwybodaeth
*
5 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â gosod cladin wedi'i wneud o frics a blociau
*
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
*
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
**Cynnal a chadw
**7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
**Dulliau gweithio
**8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
8.1 gosod cladin wedi'i wneud o frics, blociau a blociau uniad tenau ar strwythurau ffrâm bren, concrit a dur a osodwyd ymlaen llaw a strwythurau presennol
8.2 cladio strwythurau drwy ddefnyddio deunyddiau lleol
8.3 gosod argaenau brics
8.4 lleoli a sicrhau clymau waliau, gan gynnwys eu gwahanu, yn enwedig o gwmpas agoriadau a chwyddgymalau
8.5 ffurfio ceudodau a chynnal eu cyfanrwydd
8.6 gosod rhwystrau tân a chynnal eu cyfanrwydd
8.7 gorffen uniadau
8.8 ffurfio agoriadau
8.9 lleoli, lefelu, plymio, gosod ac integreiddio systemau soffitiau brics
8.10 gosod onglau cynnal bricwaith a blocwaith
8.11 propio a chynnal strwythurau
8.12 symud strwythurau dros dro
8.13 lleoli a gosod rhwystrau atal lleithder, systemau clogyn a hambyrddau ceudod
8.14 ffurfio a gosod tyllau diferu a fentiau
8.15 lleoli, bondio a thapio deunyddiau inswleiddio
8.16 gosod pyst gwynt
8.17 cymysgu morter
8.18 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
8.19 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
8.20 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
8.21 defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
8.22 gweithio ar uchder
8.23 defnyddio cyfarpar mynediad
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod cladin wedi'i wneud o frics a blociau
**Problemau
**11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
**Rhaglen
**12 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
13 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
*
Diogelu gwaith
*
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
**Adnoddau
**16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu
arbenigol o
16.1 brics, blociau, morterau, fframiau, deunydd inswleiddio, rhwystrau atal lleithder, argaenau brics, systemau clogyn, caewyr ceudodau, rhwystrau tân, linteli, gosodiadau a chlymau
16.2 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
17 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
18 dulliau o gyfrifo nifer, hyd ac arwynebedd y deunyddiau, yn ogystal â'r deunyddiau a fydd yn cael eu gwastraffu, mewn cysylltiad â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod cladin wedi'i wneud o frics a blociau
**Gweithdrefnau diogelwch
**19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau