Gosod allan strwythurau gwaith maen

URN: COSVR41W
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Trywel,Sgiliau Treftadaeth
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon ynglŷn â dehongli gwybodaeth, defnyddio arferion gwaith iach a diogel, dethol deunyddiau, cydrannau a chyfarpar a gosod allan bricwaith a blocwaith a/neu strwythurau o ddeunyddiau ac arddulliau lleol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1   Dehongli'r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â'r gwaith ac adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol
P2   Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol a roddwyd i wneud eich gwaith a chadw arferion gwaith iach a diogel
P3   Dethol faint o adnoddau ac ansawdd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y dulliau gwaith
P4   Cydymffurfio gyda gweithdrefnau i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o amgylch
P5   Cydymffurfio â'r wybodaeth gontract a roddwyd i wneud y gwaith yn effeithlon i'r fanyleb ofynnol
P6   Cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a glustnodwyd, yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Maen Prawf Perfformiad 1
*
*
Dehongli gwybodaeth
*
G1   Y gweithdrefnau sefydliadol a ddatblygwyd i wneud adroddiad am a chywiro *
gwybodaeth
amhriodol ac adnoddau anaddas, a sut i'w gweithredu
G2   Y mathau o wybodaeth, eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
G3   Y gweithdrefnau sefydliadol i ddatrys problemau gyda'r wybodaeth a pham ei bod yn bwysig eu dilyn

Maen Prawf Perfformiad 2
*
*
Arferion gwaith diogel

G4   Lefel y ddealltwriaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei chael o wybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, cyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w defnyddio
G5   Sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
G6   Y gweithdrefnau diogelu sefydliadol ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
G7   Y drefn ar gyfer gwneud adroddiad am ddamwain a phwy sy'n gyfrifol am wneud yr adroddiad
G8   Pam, pryd a sut y dylid defnyddio c*yfarpar rheoli iechyd a diogelwch*

Maen Prawf Perfformiad 3

Dethol adnoddau

G9   Nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yn gysylltiedig gyda'r adnoddau a sut y dylid unioni diffygion
G10   Sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i wneud adroddiad am unrhyw broblemau yn gysylltiedig gyda'r adnoddau
G11   Y gweithdrefnau sefydliadol i ddewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
G12   Y peryglon yn gysylltiedig gyda'r adnoddau a'r dulliau gwaith a sut i'w goresgyn

Maen Prawf Perfformiad 4
*
*
Lleihau'r risg o ddifrod

G13   Sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a diben diogelu
G14   Pam y dylid cael gwared â gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hynny

Maen Prawf Perfformiad 5

Cyflawni manyleb y contract

G15 Sut i wneud dulliau gwaith i gyflawni'r fanyleb, a gwneud adroddiad am broblemau
G16 Sut i gynnal-a-chadw offer a chyfarpar

Maen Prawf Perfformiad 6
*
*
Amser a glustnodwyd

G17   Beth yw'r rhaglen ar gyfer y gwaith i gael ei wneud, yr amser a amcangyfrifwyd ac a glustnodwyd  a pham y dylid cadw at amserlenni


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Maen Prawf Perfformiad 1

1   Dehongli darluniadau, asesiadau risg, datganiadau dull, manylebion, rhestri a gwybodaeth gwneuthurwyr yn cyfeirio at y gwaith i gael ei wneud

Maen Prawf Perfformiad 2

2   Osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â'r dilynol:
2.1   dulliau gwaith
2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3   defnyddio a storio deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.4   risgiau penodol i iechyd

Maen Prawf Perfformiad 3

3   Dethol adnoddau yn gysylltiedig â'ch gwaith eich hun:
3.1   offer llaw
3.2   deunyddiau, cydrannau a gosodion
3.3   cyfarpar gosod allan

Maen Prawf Perfformiad 4

4 Diogelu'r gwaith a'r ardal o amgylch rhag difrod
5 Lleihau difrod a chadw gofod gwaith glân
6 Cael gwared â gwastraff yn unol â deddfwriaeth

Maen Prawf Perfformiad 5

7 Arddangos sgiliau gwaith i fesur, marcio allan, lefelu, plymio, lleoli a diogelu
8 Defnyddio a chynnal-a-chadw offer llaw a chyfarpar gosod allan
9 Gosod allan strwythurau siâp rheolaidd i gyfarwyddiadau gwaith a roddwyd ar gyfer o leiaf un o'r dilynol:
9.1 bric
9.2 bloc
9.3 deunyddiau lleol

Maen Prawf Perfformiad 6

10 Cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amcangyfrif o amser a glustnodwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cwsmer


Gwybodaeth Cwmpas

Cael gwared â gwastraff

1   Cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2   Ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol â chaniatâd sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â:
2.1   tanau, arllwysiadau, anafiadau
2.2   argyfyngau'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

3   Y peryglon a ddynodir gan asesiad risg, dull gwaith, gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

4   Dynodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a diben pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol:
4.1   mesurau diogelu torfol
4.2   cyfarpar diogelu personol (PPE)
4.3   cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
4.4   awyriad ecsôst lleol (LEV)

Gwybodaeth

5   Darluniadau, manylebion, asesiadau risg, datganiadau dull, rhestri, gwybodaeth gwneuthurwyr a rheoliadau'n ymwneud â llywodraethu adeiladau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6   Mae hyn yn cyfeirio at gyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau a pheryglon iechyd posibl wrth weithio yn y gweithle, dan lefel y ddaear, ar uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, wrth symud/storio deunyddiau ac wrth godi a chario â llaw ac yn fecanyddol

Cynnal-a-chadw

7   Gofal y gweithiwr o offer llaw a chyfarpar gosod allan

Dulliau gwaith

8   Defnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion gwaith iach a diogel, gweithdrefnau a sgiliau yn ymwneud â'r dull/ardal waith a'r deunyddiau a ddefnyddir i:
8.1   gosod allan bric, traddodiadol a blociau uniad tenau a strwythurau o ddeunyddiau lleol ar ddaear lefel ac ar osgo
8.2   adeiladu proffiliau cornel
8.3   plymio o leiniau anelu
8.4   lefelau trosglwyddo (lefel wirod, ymyl syth, lefelau dŵr a lefel laser)
8.5   defnyddio offer llaw a chyfarpar gosod allan.
9   Gwaith tîm a chyfathrebu.
10   Anghenion galwedigaethau eraill yn gysylltiedig â gosod allan strwythurau gwaith maen

Problemau

11   Problemau'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gwaith:
11.1   eich awdurdod eich hun i unioni
11.2   gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

12   Mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amcangyfrif o amser.
13   Gweithdrefnau ar gyfer gwneud adroddiadau am amgylchiadau fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

14   Diogelu gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd anffafriol

Adnoddau

15   Deunyddiau, cydrannau a chyfarpar yn ymwneud â mathau, swm, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol y dilynol:
15.1   lefelau, leiniau, proffiliau, tapiau mesur, pegiau, sgwariau a gosodion
15.2   offer llaw a chyfarpar gosod allan.
16   Dulliau o gyfrif pellterau, hyd, lefelau a chroeslinau, swm ac arwynebedd yn gysylltiedig gyda'r dull/gweithdrefn i osod allan strwythurau gwaith maen

Trefniadau diogelwch

17   Safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills / SgiliauAdeiladu

URN gwreiddiol

VR41

Galwedigaethau Perthnasol

Bricwyr a Seiri maen

Cod SOC

5312

Geiriau Allweddol

Bricwaith; Blocwaith; Arddull leol; Proffiliau cornel; Lefel ddŵr; Lefel laser