Gosod strwythurau wedi’u gwneud o frics a blociau allan

URN: COSVR41
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Trywel (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod strwythurau wedi'u gwneud o frics, blociau a deunyddiau lleol allan, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Trywel a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Meini Prawf Perfformiad 1


Dehongli gwybodaeth
**
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
**
Meini Prawf Perfformiad 2


Arferion gwaith diogel
**
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol **a chanllawiau swyddogol


Meini Prawf Perfformiad 3
*
*
Dewis adnoddau

K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr **adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw

broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio

a sut i ddelio â'r rhain
**
Meini Prawf Perfformiad 4


Lleihau'r risg o ddifrod
**
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
*
Meini Prawf Perfformiad 5
*

**Bodloni gofynion y contract

K16 sut i ymgymryd â **dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

**Meini Prawf Perfformiad 6


Amser a neilltuwyd
**
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod

*Meini Prawf Perfformiad 1
*

1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

**Meini Prawf Perfformiad 2

**2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol

2.1 dulliau gweithio

2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5 risgiau penodol i iechyd

**Meini Prawf Perfformiad 3

**3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau

3.2 offer a chyfarpar

**Meini Prawf Perfformiad 4

**4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5 cynnal lle gweithio clir a thaclus

6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
*
Meini Prawf Perfformiad 5
*

7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, lefelu, plymio, lleoli,

trosglwyddo, trawsosod, gosod a sicrhau

8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar

gosod allan

9 nodi dimensiynau a lleoliadau drwy ddefnyddio llinellau a lefelau a mesur dyfnder, arwynebedd, uchder ac onglau i ddangos o leiaf bedwar o'r llinellau dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

9.1 onglau syth (180 gradd)

9.2 onglau sgwâr (90 gradd)

9.3 onglau aflym (rhwng 90 a 180 gradd gan gynnwys goleddfau)

9.4 onglau llym (rhwng 0 a 90 gradd)

9.5 cromliniau mewn cynlluniau

9.6 cromliniau mewn gweddluniau

9.7 agoriadau
*
Meini Prawf Perfformiad 6
*

10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

*Gwaredu gwastraff
*

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

**Argyfyngau

**2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
*
Peryglon
*

3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

**Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

**4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

4.1 mesurau diogelu ar y cyd

4.2 cyfarpar diogelu personol

4.3 cyfarpar diogelu anadlol

4.4 system awyru a gwacáu leol
*
Gwybodaeth
*

5 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gosod strwythurau wedi'u gwneud o frics a blociau allan
*
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
*

6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
*
Cynnal a chadw
*

7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer a chyfarpar gosod allan
*
Dulliau gweithio
*

8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

8.1 mesur a gosod strwythurau wedi'u gwneud o frics a blociau allan ar dir gwastad a llethrog

8.2 nodi a marcio pwyntiau datwm

8.3 gwneud hirgylchwyr, templedi a phroffiliau

8.4 marcio onglau syth, onglau sgwâr, onglau aflym, cromliniau mewn cynlluniau a gweddluniau ac agoriadau

8.5 gosod allan drwy ddefnyddio hirgylchwyr, templedi a phroffiliau

8.6 plymio llinellau syth

8.7 symud llinellau a lefelau (lefelau gwirod, ymylon syth a lefelau laser)

8.8 nodi cromliniau amgrwm a cheugrwm drwy ddefnyddio pegiau a llinellau

8.9 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

8.10 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod

8.11 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

8.12 defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar gosod allan

8.13 gweithio ar uchder

8.14 defnyddio cyfarpar mynediad

9 gwaith tîm a chyfathrebu

10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod strwythurau wedi'u gwneud o frics a blociau allan

**Problemau

**11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
*
Rhaglen
*

12 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni

13 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif

14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

**Diogelu gwaith

*15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
*

Adnoddau
**
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu

arbenigol o

16.1 lefelau, llinellau, hirgylchwyr, templedi, proffiliau, tapiau mesur, pegiau, sgwariau a gosodiadau

16.2 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar gosod allan

17 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

18 dulliau o gyfrifo nifer, hyd ac arwynebedd y deunyddiau, yn ogystal â'r deunyddiau a fydd yn cael eu gwastraffu, mewn cysylltiad â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod strwythurau wedi'u gwneud o frics a blociau allan
*
Gweithdrefnau diogelwch
*

19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Construction Skills

URN gwreiddiol

COSVR41

Galwedigaethau Perthnasol

Gosod Brics a Saernïo

Cod SOC

5312

Geiriau Allweddol

Brics; Blociau; Cromliniau mewn cynlluniau; Cromliniau mewn gweddluniau; Pwyntiau datwm; Hirgylchwyr