Gosod a datgysylltu sgaffaldiau ffugwaith
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi, gosod a datgysylltu sgaffaldiau ffugwaith, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym meysydd galwedigaethol Sgaffaldiau, Llwyfannau a Rigiau, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
*Dehongli gwybodaeth*
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
*
Meini Prawf Perfformiad 2
*Arferion gwaith diogel
K4 deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
*K9 sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r *ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
*Dewis adnoddau*
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
*
*
*
*
Meini Prawf Perfformiad 4
*Lleihau'r risg o ddifrod*
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 5
*Bodloni gofynion y contract*
K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
*K17 sut i *gynnal a chadw offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 6
*Amser a neilltuwyd*
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli cynlluniau, lluniadau a brasluniau, datganiadau dull, asesiadau risg, gofynion, amserlenni a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun:
3.1 deunyddiau, cydrannau, gosodiadau, angorau a chlymau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal man gwaith clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau mesur, gosod allan, cydosod, trwsio, gosod, sicrhau a symud
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a chyfarpar ategol
9 gosod a datgysylltu systemau sgaffaldiau tiwbiau a ffitiadau yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir i ffurfio sgaffaldiau ffugwaith (llwythi byw)
Meini Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol pan mae'n ymwneud â'r canlynol:
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a
phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol:
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 system awyru a gwacáu leol
4.3 cyfarpar diogelu personol
4.4 cyfarpar diogelu anadlol
Gwybodaeth
5 cynlluniau, lluniadau a brasluniau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, safonau, rheoliadau a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â gwaith sgaffaldiau
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 cyfrifoldebau y gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw
7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i wneud y canlynol:
8.1 nodi gofynion fformiwla a lluniadau sgaffaldiau
8.2 cadarnhau'r ardal i osod sgaffaldiau ffugwaith
8.3 cadarnhau bod sefydlogrwydd y sylfaen a'r strwythur y bydd y sgaffald yn cael ei osod a'i sicrhau arnynt wedi cael ei ystyried
8.4 cyfrifo dosbarthiad pwysau a chydbwysedd llwythi (llwythi byw)
8.5 cadarnhau'r deunyddiau a'r cydrannau (tiwbiau a ffitiadau, sgaffald systemau)
8.6 gosod strwythur y sgaffald allan a pharatoi ar ei gyfer
8.7 gosod a sicrhau'r sgaffaldiau at ddefnydd galwedigaethau eraill
8.8 datgysylltu a thynnu strwythurau sgaffaldiau ffugwaith
8.9 cynnal archwiliad gweledol o gyfarpar diogelu rhag cwympo
8.10 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
8.11 defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol
8.12 gweithio ar uchder
8.13 defnyddio cyfarpar mynediad
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a datgysylltu sgaffaldiau ffugwaith
Problemau
11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
**
Adnoddau**
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol:
15.1 tiwbiau a ffitiadau
15.2 sgaffald systemau
15.3 deunyddiau cysylltiedig (propiau, rhaffau, angorau, clymau, byrddau, platiau, trawstiau, ysgolion, cydrannau perchnogol)
15.4 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
16 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
17 dulliau o gyfrifo nifer, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod a datgysylltu sgaffaldiau ffugwaith
Gweithdrefnau diogelwch
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr, cerbydau