Gosod a datgysylltu sgaffaldiau uwchben

URN: COSVR406
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Cyrraedd a Rigio (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi, gosod a datgysylltu sgaffaldiau uwchben, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym meysydd galwedigaethol Sgaffaldiau, Llwyfannau a Rigiau, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​​P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal  arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal  â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel

K4 deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i gydymffurfio ag arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni'r ddeddfwriaeth gyfredol a  chanllawiau swyddogol

*
Meini Prawf Perfformiad 3
*
Dewis adnoddau

K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

**

Meini Prawf Perfformiad 4**
Lleihau'r risg o ddifrod

K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract

K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd

K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at  derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli cynlluniau, lluniadau a brasluniau, datganiadau dull, asesiadau risg, gofynion, amserlenni a gwybodaeth  gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy ddilyn yr wybodaeth a roddir am y canlynol:
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun:
3.1 deunyddiau, cydrannau, gosodiadau, angorau a chlymau
3.2 offer a chyfarpar
3.3 cyfarpar mynediad

Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal lle gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau mesur, gosod allan, cydosod, trwsio, gosod, sicrhau a symud
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a chyfarpar mynediad
9 gosod a datgysylltu tiwbiau a ffitiadau a/neu sgaffaldiau systemau yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir er  mwyn ffurfio o leiaf ddau o'r canlynol:
9.1 sgaffaldiau gollwng
9.2 sgaffaldiau wedi'u hongian
9.3 sgaffaldiau i rychwantu bylchau (pontio)
9.4 sgaffald sy'n cynnal llwythi
9.5 sgaffaldiau gyda mynediad cyfyngedig neu gyfyngiadau adeiladu
9.6 trawstiau allan

**

Meini Prawf Perfformiad 6**
10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a  chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol pan mae'n ymwneud â'r  canlynol:
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac  mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a
 phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol:
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 system awyru a gwacáu leol
4.3 cyfarpar diogelu personol
4.4 cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth
5 cynlluniau, lluniadau a brasluniau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth  gweithgynhyrchwyr, safonau, rheoliadau a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â gwaith sgaffaldiau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan  lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio  deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw
7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy, cyfarpar ategol a chyfarpar mynediad

Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel mewn perthynas â'r dull, y maes  gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i wneud y canlynol:
8.1 nodi gofynion fformiwla a lluniadau dylunio sgaffaldiau
8.2 cadarnhau'r ardal i osod y sgaffald uwchben
8.3 cadarnhau bod sefydlogrwydd y sylfaen a'r strwythur y bydd y sgaffald yn cael ei osod a'i sicrhau arnynt wedi cael ei  ystyried
8.4 cyfrifo dosbarthiad pwysau a chydbwysedd llwythi
8.5 cadarnhau'r deunyddiau a'r cydrannau (tiwbiau a ffitiadau, sgaffald systemau)
8.6 gosod strwythur y sgaffald allan a pharatoi ar ei gyfer
8.7 gosod a sicrhau'r sgaffaldiau canlynol: sgaffaldiau gollwng, hongian a sy'n cynnal llwythi, sgaffaldiau gyda  chyfyngiadau mynediad ac adeiladu cyfyngedig, trawstiau allan
8.8 gosod a sicrhau sgaffaldiau at ddefnydd galwedigaethau eraill
8.9 datgysylltu a thynnu sgaffaldiau uwchben
8.10 cynnal archwiliad gweledol o gyfarpar diogelu rhag cwympo
8.11 gosod clymau a phrofi angorau
8.12 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
8.13 defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol
8.14 gweithio ar uchder
8.15 defnyddio cyfarpar mynediad
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod a datgysylltu strwythurau sgaffaldiau uwchben

Problemau
11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau  safonol ac arbenigol o'r canlynol:
15.1 tiwbiau a ffitiadau
15.2 sgaffald systemau
15.3 deunyddiau cysylltiedig (propiau, rhaffau, angorau, clymau, byrddau, platiau, trawstiau, ysgolion, cydrannau  perchnogol)
15.4 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
16 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
17 dulliau o gyfrifo nifer, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod a datgysylltu  strwythurau sgaffaldiau uwchben

*
Gweithdrefnau diogelwch
*
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr, cerbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR406

Galwedigaethau Perthnasol

Sgaffaldio, Llwyfannu a Rigio

Cod SOC

8141

Geiriau Allweddol

Sgaffaldiau; Gollwng uwchben; Hongiau uwchben; Rhaffau; Platiau; Strwythur sgaffald; Dosbarthiad pwysau; Cynnal llwythi; Trawstiau allan