Codi a datgysylltu offer (craeniau a rigiau)
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis deunyddiau, cydrannau, offer, offer llaw a chyfarpar ategol, paratoi ar gyfer codi a datgysylltu craeniau symudol a rigiau drilio, gosod seilbyst a dymchwel gan weithredwr neu gyda chymorth gweithredwr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a chadarnhau ei pherthnasedd
P2 trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn |
Meini Prawf Perfformiad 2 K4 sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd K5 sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a wnaed yn y gwaith K6 pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith |
Meini Prawf Perfformiad 3 K7 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso K8 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K9 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol K10 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K11 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K12 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol * * * |
Meini Prawf Perfformiad 4 K13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul ac adnoddau eraill |
Meini Prawf Perfformiad 5 K14 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion K15 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw K16 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K17 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain |
Meini Prawf Perfformiad 6 K18 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K19 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn |
Meini Prawf Perfformiad 7 K20 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau K21 sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar |
Meini Prawf Perfformiad 8 K22 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
* *Meini Prawf Perfformiad 1 1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud |
Meini Prawf Perfformiad 2 2 trefnu'ch gwaith eich hun 3 cyfleu'r gweithrediadau a/neu'r gwaith sydd i'w wneud i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill |
Meini Prawf Perfformiad 3 4 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch sy'n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol 4.1 dulliau gweithio 4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 4.3 defnyddio a storio offer yn ddiogel 4.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel 4.5 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 4.6 risgiau penodol i iechyd |
Meini Prawf Perfformiad 4 5 dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul, deunyddiau ac adnoddau eraill |
Meini Prawf Perfformiad 5 6 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 6.1 atodiadau, offer llaw a chyfarpar ategol |
Meini Prawf Perfformiad 6 7 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 8 atal difrod a chynnal lle gweithio glân 9 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol |
* * * Meini Prawf Perfformiad 7 10 dangos sgiliau dadlwytho, llwytho, pennu safle, mesur, marcio allan, gosod allan, ffitio, lleoli, cysylltu, ffurfweddu, datgysylltu, symud, addasu, sicrhau, gwirio ac archwilio 11 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy, cyfarpar ategol a pheiriannau 12 paratoi, codi a datgysylltu offer yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer o leiaf un o'r canlynol 12.1 craen symudol 12.2 craen tŵr symudol 12.3 cyfarpar hunan-godi 12.4 rig drilio 12.5 rig gosod seilbyst 12.6 rig dymchwel |
Meini Prawf Perfformiad 8 13 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
Cyfathrebu 1 trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio |
Gwaredu gwastraff 2 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
Argyfyngau 3 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol |
Peryglon 4 y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch 5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 5.1 mesurau diogelu ar y cyd 5.2 system awyru a gwacáu leol 5.3 cyfarpar diogelu personol 5.4 cyfarpar diogelu anadlol |
Gwybodaeth 6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr |
Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol 7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol |
Cynnal a chadw 8 gofal y gweithiwr am offer llaw ac offer pŵer cludadwy, offer a chyfarpar ategol |
Dulliau gweithio 9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i 9.1 codi a datgysylltu o leiaf un o'r canlynol: craen symudol, craen tŵr symudol, rig drilio, rig gosod seilbyst, rig dymchwel 9.2 ystyried cyflwr y tir a'r ardal waith 9.3 gosod cyfarpar, ei roi'n sownd a'i ddiogelu 9.4 datgysylltu a thynnu cyfarpar 9.5 adnabod y gofynion ar gyfer rheoli, cyfarwyddo ac arwain symudiadau a gweithrediadau offer a pheiriannau 9.6 nodi tystysgrifau dilys ar gyfer cynnal a chadw, arolygu ac archwilio'n drylwyr 9.7 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth benodol 9.8 cynnal gwiriadau swyddogaethol 9.9 defnyddio offer llaw, offer pŵer, offer a chyfarpar 9.10 cofnodi ac adrodd 10 gwaith tîm a chyfathrebu 11 defnyddio cyfarpar mynediad 12 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chodi a datgysylltu offer |
* * Problemau 13 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 13.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 13.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad |
Rhaglen 14 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
Diogelu gwaith 16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
Adnoddau 17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o 17.1 offer 17.2 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar 18 nodi pwysau, cynhaliad, gwasgedd, swm, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer codi a datgysylltu offer |
Gweithdrefnau diogelwch 19 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr |
Sgiliau 20 eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r gwaith |