Gweithredu offer neu beiriannau o long arnofiol
Trosolwg
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a chadarnhau ei pherthnasedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn |
* Meini Prawf Perfformiad 2 K4 sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd K5 sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a wnaed yn y gwaith K6 pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith |
* Meini Prawf Perfformiad 3 K7 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso K8 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a phryd i'w defnyddio K9 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K10 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol K11 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K12 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K13 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol |
* * * Meini Prawf Perfformiad 4 K14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul ac adnoddau eraill |
* Meini Prawf Perfformiad 5 K15 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion K16 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw K17 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnodd*au*, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K18 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain |
* Meini Prawf Perfformiad 6 K19 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K20 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn |
* Meini Prawf Perfformiad 7 Bodloni gofynion y contract K21 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau K22 sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar |
* Meini Prawf Perfformiad 8 K23 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1 1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, cynlluniau codi, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â gweithrediadau llong arnofiol a'r gwaith sydd i'w wneud |
* Meini Prawf Perfformiad 2 2 trefnu'ch gwaith eich hun 3 cyfleu gweithrediadau llong arnofiol a'r gwaith sydd i'w wneud i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill |
* Meini Prawf Perfformiad 3 4 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch sy'n ymwneud â'r canlynol 4.1 dulliau gweithio 4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 4.3 defnyddio a storio offer neu beiriannau yn ddiogel ar longau arnofiol 4.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel 4.5 risgiau penodol i iechyd 5 defnyddio diffoddwyr tân yn ddiogel, fel sy'n briodol i'r tân |
* Meini Prawf Perfformiad 4 6 dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul, deunyddiau ac adnoddau eraill |
* Meini Prawf Perfformiad 5 7 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 7.1 offer, peiriannau, atodiadau, offer llaw a chyfarpar ategol |
* Meini Prawf Perfformiad 6 8 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 9 atal difrod a chynnal lle gweithio glân 10 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol |
* * * Meini Prawf Perfformiad 7 11 dangos sgiliau gwirio, gosod, addasu, cyfathrebu, gweithredu, symud, rheoli, lleoli a diogelu ar y môr 12 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol, ategolion a/neu ategolion codi 13 cyflawni gweithrediadau offer o long arnofiol yn unol â chyfarwyddiadau gweithio, protocolau a Chodau Ymarfer, sy'n ymwneud â symud a gweithredu o leiaf chwech o'r gweithgareddau canlynol 13.1 codi 13.2 trosglwyddo 13.3 echdynnu 13.4 cloddio 13.5 adeiladu 13.6 ffurfio 13.7 derbyn 13.8 cyrraedd 13.9 dosbarthu 13.10 dymchwel 13.11 prosesu 14 diffodd a diogelu offer neu beiriannau |
* Meini Prawf Perfformiad 8 15 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
Cyfathrebu 1 trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio |
* Gwaredu gwastraff 2 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
* Argyfyngau 3 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol 3.3 dyn yn y môr |
* Diffoddwyr tân 4 dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau |
* Peryglon 5 y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
* Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch 6 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol 6.1 mesurau diogelu cyfun (gan gynnwys cyfarpar achub bywyd morol) 6.2 system awyru a gwacáu leol 6.3 cyfarpar diogelu personol (PPE gan gynnwys siacedi achub) 6.4 cyfarpar diogelu anadlol |
* * * * Gwybodaeth 7 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, cynlluniau codi, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud â rheoli gweithrediadau o long arnofiol a gyda hi |
* Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol 8 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol |
* Cynnal a chadw 9 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer, peiriannau, a chyfarpar ategol |
* Dulliau gweithio 10 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i 10.1 cychwyn a diffodd offer ar gyfer gweithrediadau llongau sy'n arnofio 10.2 nodi'r cyfyngiadau ar offer a pheiriannau wrth weithredu ar long arnofiol 10.3 gwrthsefyll effeithiau symudiad llong arnofiol yn ystod gweithrediadau peiriannau ac offer 10.4 cynnal gwiriadau swyddogaethol ar gyfer rheoli offer a pheiriannau ar y llong arnofiol 10.5 cadarnhau'r ardal waith ar gyfer y gweithrediad 10.6 cydnabod cyfyngiadau gweithredol a gostwng 10.7 cadarnhau gofynion diogelwch 10.8 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth benodol 10.9 cydamseru symudiadau gydag offer a pheiriannau eraill ar long arnofiol 10.10 paratoi, symud, lleoli, diogelu ar y môr a gosod offer a pheiriannau ar gyfer gweithrediadau 10.11 stopio, diffodd gweithrediadau a diogelu offer a pheiriannau 10.12 defnyddio offer llaw a chyfarpar 11 gwaith tîm a chyfathrebu 12 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithrediadau offer a pheiriannau o long arnofiol |
* Problemau 13 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio 13.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 13.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad |
* Rhaglen 14 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig 15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
* Diogelu gwaith 16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
* Adnoddau 17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o 17.1 longau arnofiol 17.2 deunyddiau traul, ireidiau, tanwyddau 17.3 atodiadau 17.4 offer llaw, ategolion a chyfarpar ategol 18 nodi pwysau, balast, swm, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu offer a pheiriannau o longau arnofiol |
* Gweithdrefnau diogelwch 19 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr |
* Sgiliau 20 eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r gwaith |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
**Adeiladu:** rhoi sylweddau neu rannau at ei gilydd yn systematig er mwyn gwneud neu adeiladu (adeilad, pont, ac ati), cydosod, rhywbeth sydd wedi'i ffurfio neu ei adeiladu'n systematig ** ** **Ffurfio:** rhoi siâp i rywbeth, neu ddod â rhywbeth i fodolaeth, ei wneud neu ei adeiladu ** ** **Prosesu:** dull o wneud neu gynhyrchu rhywbeth, trosi swmp o ddeunyddiau crai yn ffurf ymarferol, gweithgareddau sy'n cynhyrchu gwasanaeth neu gynnyrch penodol i gwsmeriaid |