Slingio llwythi a signalu i symud llwythi crog

URN: COSVR402
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Deifio Adeiladu, Gweithrediadau Adeiladu a Gwasanaethau Peirianneg Sifil, Rheoli Gweithrediadau Codi (Adeiladu), Ffurfwaith (Adeiladu), Dulliau Adeiladu Arloesol/Modern, Asffaltio Mastig (Adeiladu), Gosod Dur (Adeiladu), Gwaith Saer Maen (Adeiladu), Insiwleiddio Thermol (Adeiladu), Teilsio Waliau a Lloriau (Adeiladu), Dymchwel, Gweithrediadau Drilio, Galwedigaethau Coed (Adeiladu), Gweithrediadau Cyrraedd a Rigio (Adeiladu), Galwedigaethau Cladio (Adeiladu), Gosod Concrit a Rag-gastiwyd (Adeiladu), Gweithrediadau Pyst Sylfaen (Adeiladu), Gosod Peiriannau (Adeiladu), Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu), Logisteg Safleoedd (Adeiladu), Galwedigaethau Gosod Arbenigol (Adeiladu), Galwedigaethau Gwaith Isadeiledd (Adeiladu), Galwedigaethau Gwaith Uwchadeiledd (Adeiladu), Gweithrediadau Twnnel (Adeiladu), Rheoli Traffig Dros Dro (Adeiladu), Gwaredu Gwastraff Peryglus a Gwastraff nad yw’n Beryglus (Adeiladu), Gweithrediadau Concrit Arbenigol (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Wedi'i gymeradwyo: 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis cydrannau a chyfarpar, paratoi ategolion codi ar gyfer slingio, cysylltu a sicrhau llwythi, signalu i symud llwythi crog a'u harwain i gyrchfan y cytunwyd arno a gadael y llwyth mewn cyflwr diogel

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol neu mewn tîm i baratoi a slingio llwythi a signalu gweithredwyr peiriannau sy'n codi ac yn trosglwyddo llwythi crog i'w symud. Gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ddefnyddio'r safon hon


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a chadarnhau ei pherthnasedd

P2 trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith

P3 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach

P4 dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r gweithrediadau i'w cyflawni

P5 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P6 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P7 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill

K4 sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd

K5 sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a wnaed yn y gwaith

K6 pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith

*
Meini Prawf Perfformiad 3
*
Arferion gwaith diogel

K7 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K8 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K9 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol

K10 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K11 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K12 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 4
Dewis adnoddau

K13 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K14 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K15 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K16 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

*
Meini Prawf Perfformiad 5
*
Lleihau'r risg o ddifrod

K17 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K18 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

*
Meini Prawf Perfformiad 6
*
Bodloni gofynion y contract

K19 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K20 sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

*
Meini Prawf Perfformiad 7
*
Amser a neilltuwyd

K21 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull (cynlluniau codi) a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud 

Meini Prawf Perfformiad 2
2 trefnu'ch gwaith eich hun

3 cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill

Meini Prawf Perfformiad 3
4 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch sy'n ymwneud ag o leiaf bump o'r dilynol

4.1 dulliau gweithio

4.2 defnyddio mesurau rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

4.3 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel

4.4 defnyddio, storio a thrin ategolion codi'n ddiogel

4.5 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

4.6 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 4
5 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

5.1 ategolion codi, cymhorthion codi, offer llaw a chyfarpar ategol

5.2 cyfarpar signalu a chyfathrebu

Meini Prawf Perfformiad 5
6 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

7 atal difrod a chynnal lle gweithio glân

8 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 6
9 dangos sgiliau mesur, bwrw amcan, amcangyfrif, cyfrifo, ffitio, gosod, profi, cydbwyso, dehongli, archwilio, barnu, esbonio, paratoi, nodi, hysbysu, cyfarwyddo, arwyddo, lleoli, addasu, ffurfweddu, symud, sicrhau, signalu a throsglwyddo

10 defnyddio a chynnal a chadw ategolion codi, cymhorthion codi a chyfarpar signalu a chyfathrebu

11 archwilio a pharatoi ategolion codi cyn slingio

12 slingio o leiaf dri o'r llwythi dilynol fel rhan o alwedigaeth benodol neu bob un o'r llwythi dilynol fel galwedigaeth a signalu peiriannau i'w codi a'u symud yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
12.1 cytbwys

12.2 anghytbwys

12.3 llac

12.4 wedi'u bwndelu

12.5 cynhwysydd

12.6 drwm

12.7 llwyth lle na all gweithredwr y peiriant weld ei lwybr symud llawn

13 arwain a symud llwythi crog i gyrchfannau y cytunwyd arnynt, yn ogystal â'u gosod ynddynt, yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir drwy ddefnyddio signalau llaw a'r dulliau dilynol hefyd pan mai slingio a signalu yw'r alwedigaeth
13.1 cyfarpar signalu â llaw

13.2 cyfarpar cyfathrebu electronig

Meini Prawf Perfformiad 7
14 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu
1 trafodaethau, brasluniau, data electronig, sesiynau briffio, signalu a chyfathrebu ar radio

Gwaredu gwastraff
2 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
3 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
4 y rhai hynny a nodir drwy asesiadau risg/asesiadau Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 system awyru a gwacáu leol
5.3 cyfarpar diogelu personol
5.4 cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, cynlluniau codi, cyfarwyddiadau gweithio, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a gweithdrefnau a Chodau Ymarfer cymeradwy
**

Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol**
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw
8 gofal y gweithiwr am ategolion codi, cymhorthion codi a chyfarpar signalu a chyfathrebu

Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1 nodi'r gwahaniaethau rhwng slingio a signalu, cyfarwyddo ac arwain cerbydau a pheiriannau a chyfarwyddo ac arwain peiriannau nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer codi
9.2 cadarnhau'r awdurdod, y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a roddwyd
9.3 nodi nodweddion cyfarpar ac ategolion codi
9.4 nodi a dehongli tystysgrifau dilys ar gyfer cynnal a chadw, arolygu ac archwilio'n drylwyr
9.5 codi a throsglwyddo pobl
9.6 slingio llwythi cytbwys, anghytbwys, llac, byw, wedi'u bwndelu, cynhwysydd a drwm a llwythi na all gweithredwr y cyfarpar eu gweld
9.7 cyfathrebu drwy ddefnyddio signalau llaw, cyfarpar signalu â llaw (goleuadau, ffyn, menig fflworoleuol a baneri) a chyfarpar cyfathrebu electronig (cyrn siarad yn uchel a radios)
9.8 cadarnhau dulliau cyfathrebu
9.9 nodi mannau dall, parthau mathru posibl a phethau eraill sy'n cyfyngu ar allu'r gyrrwr i weld
9.10 ystyried nodweddion y llwyth gan gynnwys craidd disgyrchiant a phwyntiau codi i bennu'r dull slingio
9.11 pennu ac edrych ar lwybr y llwyth cyn ac wrth iddo gael ei godi gan gynnwys pellteroedd, cliriadau a'r lle glanio
9.12 dewis, trin, archwilio a defnyddio (cydosod, gosod ac addasu) ategolion a chymhorthion codi
9.13 nodi'r meini prawf ar gyfer datddefnyddio ategolion codi
9.14 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth benodol
9.15 cysylltu ategolion codi a slingio llwythi'n ddiogel
9.16 sicrhau bod llwythi'n gytbwys ac nad ydynt yn siglo
9.17 cysylltu a defnyddio cyfarpar arwain llwythi (rhaffau)
9.18 arwain a gosod llwythi crog drwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu cydnabyddedig a dilyn gweithdrefnau gweithredu y cytunwyd arnynt
9.19 glanio a lleoli llwythi'n ddiogel
9.20 tynnu, dadosod a storio ategolion codi
9.21 defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â slingio llwythi a signalu i symud llwythi crog

Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o
16.1 ategolion codi
16.2 cyfarpar signalu a chyfathrebu
16.3 offer llaw a chyfarpar ategol
17 nodi pwysau, niferoedd, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer slingio llwythi a signalu i symud llwythi crog

**

Gweithdrefnau diogelwch**
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Sgiliau
19 eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r gwaith


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR402

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrru a Gweithredu Peiriannau Symudol

Cod SOC

8229

Geiriau Allweddol

Cyfathrebu ar radio; Cyfarpar codi; Cymhorthion codi; Cyfarpar signalu a chyfathrebu; Cyfarpar signalu â llaw