Defnyddio offer, unedau pŵer neu gyfarpar, peiriannau neu offer cyffredin

URN: COSVR400
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Adeiladu a Gwasanaethau Peirianneg Sifil, Dymchwel, Dulliau Arloesol/Modern o Adeiladu, Gweithrediadau Twnelu (Adeiladu), Gweithrediadau Pyst Sylfaen (Adeiladu), Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu), Logisteg Safleoedd (Adeiladu), Galwedigaethau Concrit Arbenigol (Adeiladu), Galwedigaethau Gosod Arbenigol (Adeiladu), Galwedigaethau Gwaith Isadeiledd (Adeiladu), Galwedigaethau Gwaith Uwchadeiledd (Adeiladu), Rheoli Traffig Dros Dro (Adeiladu), Gwaredu Gwastraff Peryglus a Gwastraff nad yw’n Beryglus (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Wedi'i gymeradwyo: 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a pharatoi offer pŵer a chyfarpar ategol, defnyddio offer, unedau pŵer neu gyfarpar, peiriannau neu offer cyffredin

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio’n annibynnol neu mewn tîm i ddefnyddio offer, unedau pŵer neu gyfarpar, peiriannau neu offer cyffredin, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1   dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a chadarnhau ei pherthnasedd

P2   cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach


P3   dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4   cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas

P5   cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion

P6   cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel

K4   faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5   pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a phryd i'w defnyddio

K6   sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7   beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10   sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau

K11   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K15   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract

K17   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd

K19   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1   dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, gwybodaeth weithredu a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

*
*

Meini Prawf Perfformiad 2

2   osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r canlynol

2.1   dulliau gweithio

2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 

2.4   defnyddio, storio a thrin deunyddiau'n ddiogel

2.5   defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel

2.6   risgiau penodol i iechyd

*
*

Meini Prawf Perfformiad 3

3   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1   ffynhonnell bŵer/tanwydd

3.2   ireidiau

3.3   deunyddiau traul

*
*

Meini Prawf Perfformiad 4

4   diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5   atal difrod a chynnal lle gweithio glân

6   gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

*
*

Meini Prawf Perfformiad 5

7   dangos sgiliau cychwyn, stopio, ailgyflenwi, rheoli a glanhau

8   defnyddio a chynnal a chadw unedau pŵer a chyfarpar ategol

9   gweithredu a monitro offer, uned bŵer, neu , peiriannau neu gyfarpar, peiriannau neu offer cyffredin yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

9.1   gweithredu parhaus

9.2   diffodd

9.3   glanhau

10   dychwelyd offer, unedau pŵer neu gyfarpar, peiriannau neu offer cyffredin i gyflwr gweithredu diogel ar ôl cwblhau'r gwaith

11   datgymalu a/neu lanhau offer, unedau pŵer neu gyfarpar, peiriannau neu offer cyffredin

*
*

Meini Prawf Perfformiad 6

12   cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient 



Gwybodaeth Cwmpas


Gwaredu gwastraff

1   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân

3   dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau

Peryglon

4   y rhai hynny a nodir drwy asesiadau risg/asesiadau Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

5.1   mesurau diogelu ar y cyd

5.2   system awyru a gwacáu leol

5.3   cyfarpar diogelu personol

5.4   cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth

6   lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, deddfwriaeth, Codau Ymarfer, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyfarwyddiadau gweithredu

*
*

*
*

*
*

*
*

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7   mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

8   gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy, offer a pheiriannau cyffredin, a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio

9   cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1   paratoi, lleoli a gosod ar gyfer gwaith

9.2   rhoi ategolion ac atodiadau offer yn sownd

9.3   cynnal gwiriadau swyddogaethol a gwirio cyn defnyddio gwybodaeth a gweithdrefnau gwneuthurwyr a chyflenwyr

9.4   cynnal gwiriadau cyn cychwyn ac ar ôl stopio

9.5   adnabod nodweddion yr offer, y peiriannau a'r cyfarpar

9.6   nodi gofynion gweithredu a diogelwch penodol ar gyfer y dasg a'r gwaith

9.7   nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth benodol

9.8   gweithredu, defnyddio a rheoli

9.9   monitro a chynnal a chadw

9.10   ailgyflenwi deunyddiau traul

9.11   diffodd a diogelu

9.12   datgymalu a glanhau

9.13   cludo a storio

10   gwaith tîm a chyfathrebu

11   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu offer, cyfarpar ac unedau pŵer

*
*

*
*

Problemau

12   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

12.1   eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

12.2   gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13   mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

14   gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

15   diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

16   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o

16.1   ffynhonnell bŵer/tanwyddau

16.2   deunyddiau traul, ireidiau

17   nodi niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer defnyddio cyfarpar, offer ac unedau pŵer

Gweithdrefnau diogelwch

18   safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR400

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Offer arbenigol; Offer pŵer; Unedau pŵer; Offer cyffredin a weithredir