Gosod strwythurau wedi’u gwneud o frics a blociau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod strwythurau wedi'u gwneud o frics a blociau a/neu strwythurau wedi'u gwneud o ddeunyddiau lleol ac yn ôl yr arddull leol, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Trywel a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
**
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
**
Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
**
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol **a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
**
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw
broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio
a sut i ddelio â'r rhain
*
Meini Prawf Perfformiad 4
*
**Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i **ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
*
Meini Prawf Perfformiad 5
*
**Bodloni gofynion y contract
K16 sut i ymgymryd â **dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
*
Meini Prawf Perfformiad 6
*
**Amser a neilltuwyd
K18 beth yw'r **rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
*Meini Prawf Perfformiad 1
*
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
**Meini Prawf Perfformiad 2
**2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
**Meini Prawf Perfformiad 3
**3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
**Meini Prawf Perfformiad 4
**4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal lle gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
**Meini Prawf Perfformiad 5
**7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, gosod, lleoli, plymio, lefelu a sicrhau
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
9 gosod brics, blociau a/neu ddeunyddiau lleol i ffurfio'r dilynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 waliau ceudod
9.2 blocwaith
9.3 waliau solet
9.4 agoriadau ffurfwaith
9.5 gorffeniadau uniad
9.6 siliau, capiau a chopinau
**Meini Prawf Perfformiad 6
**10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
*Gwaredu gwastraff
*
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
**Argyfyngau
**2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
**Peryglon
**3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
**Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
**4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 cyfarpar diogelu personol
4.3 cyfarpar diogelu anadlol
4.4 system awyru a gwacáu leol
**Gwybodaeth
*5 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gosod strwythurau wedi'u gwneud o frics a blociau
*
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
**
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
**Cynnal a chadw
*7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
*
Dulliau gweithio
**
8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
8.1 gosod waliau ceudod a waliau solet drwy ddefnyddio brics, blociau a deunyddiau lleol
8.2 gosod waliau yn ôl yr arddull leol
8.3 gosod blociau (traddodiadol ac uniad tenau)
8.4 nodi bondiau brics a blociau
8.5 ffurfio ceudodau a chynnal eu cyfanrwydd
8.6 gosod linteli
8.7 gosod chwyddgymalau
8.8 gosod pyst gwynt
8.9 torri brics, blociau a deunyddiau lleol
8.10 gorffen uniadau, gan gynnwys defnyddio systemau pwyntio mecanyddol
8.11 ffurfio agoriadau
8.12 lleoli, lefelu, plymio, gosod ac integreiddio systemau soffitiau brics
8.13 lleoli a gosod siliau, copinau a chapiau
8.14 gosod onglau cynnal bricwaith a blocwaith
8.15 propio a chynnal strwythurau
8.16 cwblhau a symud gwaith dros dro
8.17 lleoli, bondio a thapio deunyddiau inswleiddio
8.18 lleoli a gosod rhwystrau atal lleithder, systemau clogyn a hambyrddau ceudod
8.19 ffurfio a gosod tyllau diferu a fentiau
8.20 gosod rhwystrau tân a chynnal eu cyfanrwydd
8.21 lleoli a sicrhau clymau waliau, gan gynnwys eu gwahanu, yn enwedig o gwmpas agoriadau a chwyddgymalau
8.22 cymysgu morter
8.23 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
8.24 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
8.25 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
8.26 defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
8.27 gweithio ar uchder
8.28 defnyddio cyfarpar mynediad
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod strwythurau wedi'u gwneud o frics a blociau
**Problemau
**11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
**Rhaglen
**12 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
13 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
**Diogelu gwaith
**15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
**Adnoddau
**16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu
arbenigol o
16.1 brics, blociau, morterau, fframiau, deunydd inswleiddio, rhwystrau atal lleithder, systemau clogyn, siliau, copinau, capiau, linteli, gosodiadau a chlymau
16.2 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
17 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
18 dulliau o gyfrifo nifer, hyd ac arwynebedd y deunyddiau, yn ogystal â'r deunyddiau a fydd yn cael eu gwastraffu, mewn cysylltiad â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod strwythurau wedi'u gwneud o frics a blociau
**Gweithdrefnau diogelwch
**19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau