Uniadu strwythurau bric a bloc
Trosolwg
Mae'r safon hon ynglŷn â dehongli gwybodaeth, defnyddio arferion gwaith iach a diogel, dethol deunyddiau, cydrannau a chyfarpar ac uniadu a phwyntio strwythurau bric a bloc
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol a roddwyd i wneud eich gwaith a chadw arferion gwaith iach a diogel
P2 Dethol faint o adnoddau ac ansawdd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y dulliau gwaith
P3 Cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol i leihau’r risg o ddifrod i’r gwaith a’r ardal o amgylch
P4 Cydymffurfio â’r wybodaeth gontract a roddwyd i wneud y gwaith yn effeithlon i’r fanyleb ofynnol
P5 Cwblhau’r gwaith o fewn yr amser a glustnodwyd, yn unol â’r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Maen Prawf Perfformiad 1
*
*Arferion gwaith diogel
*
G1 Y mathau o *w*ybodaeth*
G2 Lefel y ddealltwriaeth y mae’n rhaid i weithwyr ei chael am ddeddfwriaeth berthnasol, cyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i’w defnyddio
G3 Sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
G4 Gweithdrefnau diogelu’r sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
G5 Y drefn ar gyfer gwneud adroddiad am ddamwain a phwy sy’n gyfrifol am wneud yr adroddiad
G6 Pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
Maen Prawf Perfformiad 2
*
*Dethol adnoddau
G7 Nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yn gysylltiedig gyda’r adnoddau
G8 Sut y dylid defnyddio’r adnoddau a sut yr adroddir ar unrhyw broblemau yn gysylltiedig gyda’r adnoddau
G9 Y peryglon yn gysylltiedig gyda’r adnoddau a’r dulliau gwaith
Maen Prawf Perfformiad 3
Lleihau’r risg o ddifrod
G10 Sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a diben diogelu
G11 Pam y dylid cael gwared â gwastraff yn ddiogel
Maen Prawf Perfformiad 4
Gwybodaeth gontract a roddwyd
*
G12 Sut y gwneir y *dulliau gwaith a gwneud adroddiad am broblemau
G13 Sut i gynnal-a-chadw offer a chyfarpar
Maen Prawf Perfformiad 5
Amser a glustnodwyd
*
G14 *Beth yw’r rhaglen ar gyfer y gwaith i’w wneud a pham y dylid cadw at amserlenni
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Maen Prawf Perfformiad 1
1 Osgoi risg drwy gydymffurfio â’r wybodaeth a roddwyd yn ymwneud â’r dilynol:
1.1 dulliau gwaith
1.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
1.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
1.4 defnyddio a storio deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
1.5 risgiau penodol i iechyd
Maen Prawf Perfformiad 2
2 Dethol adnoddau yn gysylltiedig â’ch gwaith eich hun:
2.1 deunyddiau
2.2 offer a chyfarpar
Maen Prawf Perfformiad 3
3 Diogelu’r gwaith a’r ardal o amgylch rhag difrod
4 Lleihau difrod a chadw gofod gwaith glân
5 Cael gwared â gwastraff yn unol â deddfwriaeth
Maen Prawf Perfformiad 4
6 Arddangos sgiliau gwaith i fesur, marcio allan, glanhau allan, cymysgu ac uniadu.
7 Defnyddio a chynnal-a-chadw offer llaw.
8 Uniadu a phwyntio strwythurau gwaith maen i gyfarwyddiadau gwaith a roddwyd ar gyfer o leiaf un o’r dilynol:
8.1 bricwaith neu flocwaith newydd
8.2 bricwaith neu flocwaith presennol
Maen Prawf Perfformiad 5
9 Cwblhau eich gwaith eich hun o fewn yr amser a ganiateir
Gwybodaeth Cwmpas
*Cael gwared â gwastraff
*
1 Cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau sefydliadol, gwybodaeth gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 Ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol â chaniatâd sefydliadol a sgiliau personol wrth ymwneud â
2.1 tanau, arllwysiadau, anafiadau
2.2 argyfyngau’n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
3 Y peryglon a ddynodir gan asesiad risg, dull gwaith, gwybodaeth dechnegol gwneuthurwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 Dynodir gan egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau a diben pob math, sefyllfaoedd gwaith ac amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu torfol
4.2 cyfarpar diogelu personol (PPE)
4.3 cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
4.4 awyriad ecsôst lleol (LEV)
Gwybodaeth
5 Gwybodaeth gwneuthurwyr, llafar/ysgrifenedig a brasluniau
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 Mae hyn yn cyfeirio at gyfrifoldebau’r gweithiwr am ddamweiniau a pheryglon iechyd posibl wrth weithio yn y gweithle, ar uchder, gydag offer a chyfarpar, gyda deunyddiau a sylweddau, wrth symud/storio deunyddiau ac wrth godi a chario â llaw ac yn fecanyddol
Cynnal-a-chadw
7 Gofal y gweithiwr o offer llaw a chyfarpar ategol
Dulliau gwaith
8 Defnyddio gwybodaeth ar gyfer arferion gwaith iach a diogel, gweithdrefnau a sgiliau yn ymwneud â’r dull/ardal waith a’r deunyddiau a ddefnyddir i:
8.1 ffurfio gorffeniadau uniad mewn gwaith maen newydd
8.2 glanhau allan a ffurfio gorffeniadau wedi’u pwyntio mewn gwaith maen presennol
8.3 cymysgu deunyddiau uniadu/pwyntio
8.4 defnyddio offer llaw a chyfarpar
8.5 gweithio gydag offer a pheiriannau
8.6 gweithio ar uchder
8.7 defnyddio cyfarpar mynediad.
9 Gwaith tîm a chyfathrebu
10 Anghenion galwedigaethau eraill yn gysylltiedig ag uniadu strwythurau bricwaith a blocwaith
Problemau
11 Problemau’n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gwaith
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni
11.2 gweithdrefnau adrodd sefydliadol
Rhaglen
12 Amserau a gytunwyd ar gyfer cychwyn a gorffen
Diogelu gwaith
13 Diogelu gwaith rhag difrod o weithgareddau cyffredinol y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd anffafriol
Adnoddau
14 Deunyddiau, cydrannau a chyfarpar yn ymwneud â mathau, swm, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol y dilynol:
14.1 cymysgeddau uniadu/pwyntio, tywod, sment, morter calch ac ychwanegion
14.2 offer llaw a chyfarpar
15 Dulliau o gyfrif swm, hyd, arwynebedd a gwastraff yn gysylltiedig gyda’r dull/gweithdrefn i uniadu strwythurau bric a bloc
Trefniadau diogelwch
16 Safle, gweithle, cwmni a gweithiwr