Defnyddio atodiadau offer neu beiriannau

URN: COSVR399
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, defnyddio offer, peiriannau, deunyddiau, cydrannau, offer llaw a chyfarpar ategol, gosod, gweithredu, diffodd a thynnu atodiadau

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol neu mewn tîm i osod, gweithredu a thynnu atodiadau ar gyfer offer neu beiriannau, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1    dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a chadarnhau ei pherthnasedd
P2    trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith
P3    cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a gweithdrefnau’r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach
P4    gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu offer er mwyn cwblhau’r rhaglen waith
P5    dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a’r gweithrediadau i'w cyflawni
P6    cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P7    cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P8    cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â’u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i’w dehongli
K3   beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
 

Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill

K4   sut mae aelodau’r tîm yn cyfleu syniadau i’w gilydd
K5   sut mae adnoddau’n cael eu trefnu i gyd-fynd â’r cynnydd a wnaed yn y gwaith
K6   pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith
 

Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel

K7   faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut i’w chymhwyso
K8   sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K9   beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol
K10   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11   pam, pryd a sut y dylid defnyddio c*yfarpar rheoli iechyd a diogelwch*
K12   sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol



Meini Prawf Perfformiad 4
Gwneud cais am adnoddau

K13   gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
Dewis adnoddau

K14   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K15   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K16   beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i’w defnyddio
K17   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â’r rhain

Meini Prawf Perfformiad 6
Lleihau'r risg o ddifrod

K18   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K19   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7
Bodloni gofynion y contract

K20   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni’r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K21   sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 8
Amser a neilltuwyd

K22   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1   dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2   trefnu’ch gwaith eich hun
3   cyfleu’r gweithrediadau peirianyddol a’r gwaith sydd i'w wneud i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill

Meini Prawf Perfformiad 3
4      osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch sy’n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol
4.1   dulliau gweithio
4.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
4.3   defnyddio a storio offer neu beiriannau yn ddiogel
4.4   defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
4.5   risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 4
5   dilyn gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul, deunyddiau ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
6    dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
6.1   atodiadau, offer llaw a chyfarpar ategol

Meini Prawf Perfformiad 6
7   diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod
8   atal difrod a chynnal lle gweithio glân
9   gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

*








Meini Prawf Perfformiad 7*
10   dangos sgiliau amlwg o ran paratoi, ffurfweddu, alinio, ffitio, cysylltu, cau, addasu, sicrhau, gwirio, symud, gweithredu, datgysylltu, symud a storio
11   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a/neu ategolion
12   ffitio, gweithredu a thynnu atodiadau offer yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer o leiaf un o'r canlynol
12.1   codi a throsglwyddo
12.2   torri neu hollti neu drychu
12.3   tyllu neu ddrilio
12.4   gyrru
12.5   morthwylio
12.6   dirgrynu
12.7   tynnu
12.8   cywasgu neu lefelu
12.9   cymysgu
12.10   cyrraedd fel llwyfan gwaith
12.11   dymchwel neu brosesu

Meini Prawf Perfformiad 8
13   cwblhau’ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu’r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu

**1   trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio

Gwaredu gwastraff
2   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
3   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
3.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau
3.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
4   y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a’r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1   mesurau diogelu ar y cyd
5.2   system awyru a gwacáu leol
5.3   cyfarpar diogelu personol
5.4   cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth
6   lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag atodiadau offer a pheiriannau

Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol
7   mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
*
Cynnal a chadw*
8   gofal y gweithiwr am offer, peiriannau, offer llaw, atodiadau a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio
9   cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1   nodi dogfennau perthnasol atodiadau
9.2   dewis atodiad sy’n gydnaws â’r offer a’r peiriannau ar gyfer: codi, trosglwyddo, torri, hollti, trychu, tyllu, drilio, gyrru, morthwylio, tynnu, cywasgu, lefelu, cael mynediad, dymchwel a phrosesu
9.3   ffurfweddu peiriannau ac offer i dderbyn atodiadau
9.4   gosod atodiadau
9.5   gweithredu, cynnal a chadw, symud, diffodd a diogelu offer a pheiriannau atodiad
9.6   nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth benodol
9.7   adnabod arwyddion a roddir i osod a thynnu atodiadau
9.8   datgysylltu atodiadau
9.9   tynnu atodiadau a symud offer a pheiriannau
9.10   diogelu a storio atodiadau
9.11   cludo atodiadau
9.12   defnyddio offer llaw a chyfarpar
10   gwaith tîm a chyfathrebu
11   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â defnyddio atodiadau offer a pheiriannau

Problemau
12   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1   eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2   gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
13   mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14   gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
*

Diogelu gwaith*
15   diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
16   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o
16.1   ffitiadau, tanwyddau, olewau, ireidiau
16.2   atodiadau
16.3   ategolion
16.4   offer llaw a chyfarpar ategol
17   nodi pwysau, swm, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu atodiadau offer a pheiriannau

Gweithdrefnau diogelwch
18   safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Sgiliau
19   eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r gwaith


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ategol: darparu'r gefnogaeth angenrheidiol i'r gweithrediad

Atodiad: y weithred o atodi rhywbeth neu'r cyflwr o fod wedi'i atodi, fel cwlwm, band, dolen, harnais neu gaewr sy'n cysylltu rhywbeth â rhywbeth arall, rhan ychwanegol neu estyniad sydd wedi'i atodi, neu y mae modd ei atodi, i rywbeth er mwyn cyflawni swyddogaeth benodol, dyfais ategol neu ychwanegol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR399

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrru a Gweithredu Peiriannau Symudol

Cod SOC

8229

Geiriau Allweddol

Cyfarpar offer; Atodiadau offer