Gweithredu offer ffordd a rheilffordd

URN: COSVR398
Sectorau Busnes (Suites): Ffensio,Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, defnyddio offer neu beiriannau, offer llaw a chyfarpar ategol, gosod, gweithredu a diffodd offer neu beiriannau ar gyfer gwaith ar draciau

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm i weithredu offer ffyrdd a rheilffyrdd ar gyfer adeiladu, trwsio a chynnal a chadw traciau rheilffyrdd a'r ardaloedd o'u cwmpas, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a chadarnhau ei pherthnasedd

P2 trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith

P3 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau
statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a gweithdrefnau’r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach

P4 gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu offer er mwyn cwblhau’r rhaglen waith

P5 dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a’r gweithrediadau i'w cyflawni

P6 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas

P7 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion

P8 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â’u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i’w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill

K4 sut mae aelodau’r tîm yn cyfleu syniadau i’w gilydd
K5 sut mae adnoddau’n cael eu trefnu i gyd-fynd â’r cynnydd a wnaed yn y gwaith
K6 pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith

Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel

K7 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut i’w chymhwyso
K8 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K9 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol
K10 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K12 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol


*


Meini Prawf Perfformiad 4*
Gwneud cais am adnodda*u

K13 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul ac *adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
Dewis adnoddau

K14 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K15 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K16 beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i’w defnyddio
K17 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â’r rhain

Meini Prawf Perfformiad 6
Lleihau'r risg o ddifrod

K18 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K19 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7
Bodloni gofynion y contract

K20 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni’r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K21 sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 8
Amser a neilltuwyd

K22 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1   dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, cynlluniau pecynnau gwaith, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2      trefnu’ch gwaith eich hun
3      cyfleu’r gweithrediadau peirianyddol a’r gwaith sydd i'w wneud i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill

Meini Prawf Perfformiad 3
4      osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch sy’n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol
4.1        dulliau gweithio
4.2        defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
4.3        defnyddio a storio offer a pheiriannau yn ddiogel
4.4        defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel
4.5        risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 4
5      dilyn gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul, deunyddiau ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
6      dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
6.1     atodiadau, offer llaw a chyfarpar ategol

Meini Prawf Perfformiad 6
7      diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod
8      atal difrod a chynnal lle gweithio glân
9      gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

*







Meini Prawf Perfformiad 7*
10   dangos sgiliau paratoi, symud, ffurfweddu, lleoli, teithio, negodi, gosod, gweithredu a symud
11   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, atodiadau cyfarpar ategol a/neu ategolion
12   gweithredu offer ffordd a rheilffordd yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio a roddir ar gyfer o leiaf un o'r canlynol
12.1     codi, cario a/neu drosglwyddo
12.2     echdynnu
12.3     cloddio
12.4     adeiladu a/neu ffurfio
12.5     derbyn a/neu gludo
12.6     cyrraedd fel llwyfan gwaith
12.7     gosod a/neu ddosbarthu
12.8     cywasgu
12.9     dymchwel a/neu brosesu
13   diffodd a diogelu offer neu beiriannau

Meini Prawf Perfformiad 8
14   cwblhau’ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu’r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu
1      trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio

Gwaredu gwastraff
2      cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
3      ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
3.1        tanau, gollyngiadau ac anafiadau
3.2        argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
4      y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5      y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a’r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1        mesurau diogelu ar y cyd
5.2        system awyru a gwacáu leol
5.3        cyfarpar diogelu personol
5.4        cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth
6      lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, cynlluniau codi, cynlluniau pecynnau gwaith, asesiadau risg, ardystiadau a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr ar gyfer gweithredu peiriannau ffordd a rheilffordd

Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol
7      mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw
8      gofal y gweithiwr am offer llaw, offer a pheiriannau, a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio
9      cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1        adnabod nodweddion yr offer neu’r peiriannau ar gyfer gweithrediadau rheilffyrdd
9.2        gweithredu, cynnal a chadw, diffodd a diogelu offer a pheiriannau ffordd a rheilffordd
9.3        nodi'r dogfennau a'r gofynion ardystio ar gyfer offer, peiriannau, cyfarpar ac atodiadau ffordd a rheilffordd
9.4        defnyddio setiau radio
9.5        adnabod systemau signalau cyfredol sy’n cael eu defnyddio ar gyfer peiriannau ffordd a rheilffordd
9.6        gosod yr offer a'r peiriant ar y cledrau ac oddi arnynt
9.7        nodi’r meini prawf ar gyfer symud o fewn meddiannau
9.8        adnabod ac osgoi difrod i ddyfeisiau cyfrif echelau, trosi grym a mesur cyflymiad
9.9        osgoi difrod i isadeiledd gan gynnwys cyfarpar ar y trac, ar ochr y lein ac o dan y trac sy’n cefnogi strwythurau, llwybrau ceblau a gwasanaethau
9.10     gweithio ar oleddfau a graddiant
9.11     negodi pwyntiau a chroesfannau
9.12     symud peiriannau sydd wedi methu
9.13     nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth benodol
9.14     teithio ar briffyrdd cyhoeddus
9.15     diffodd a diogelu offer a pheiriannau
9.16     defnyddio offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion
10   gwaith tîm a chyfathrebu
11   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu peiriannau ffordd a rheilffordd

Problemau
12   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1     eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2     gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
13   mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14   gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
15   diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
16   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o
16.1     deunyddiau traul, ffitiadau, tanwyddau, olewau, ireidiau
16.2     ategolion
16.3     offer llaw a chyfarpar ategol
17   dulliau o gyfrifo pwysau, swm, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu offer ffordd a rheilffordd

Gweithdrefnau diogelwch
18   safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Sgiliau
19   eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r gwaith


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR398

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrru a Gweithredu Peiriannau Symudol

Cod SOC

8229

Geiriau Allweddol

Traciau; Systemau signalau; Gweithredu rheilffyrdd; Pwyntiau; Croesfannau