Trefnu a diogelu offer neu beiriannau i'w cludo
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau a chyfarpar i drefnu a diogelu offer neu beiriannau, paratoi, trefnu a diogelu offer neu beiriannau
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol neu mewn tîm sy'n trefnu a diogelu offer neu beiriannau a'u hoffer cysylltiedig fel llwythau cyn eu cludo, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a chadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i’w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae’n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i’w chymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Dewis adnoddau
K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i’w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â’r rhain
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Bodloni gofynion y contract
K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni’r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau’n ddiogel
2.5 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
2.6 risgiau penodol i iechyd
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
3.3 ategolion codi a chyfarpar dal llwythi yn eu lle
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod
5 atal difrod a chynnal lle gweithio glân
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol, ategolion codi a chyfarpar dal llwythi yn eu lle
9 trefnu offer, peiriannau neu gyfarpar cysylltiedig ar gyfer eu cludo yn unol â chyfarwyddiadau gweithio a roddir, gan ddefnyddio o leiaf ddau o'r dulliau canlynol a sicrhau eu bod yn symud yn ddiogel
9.1 gyrru a gweithredu’r mathau canlynol o offer; peiriannau ar olwynion, peiriannau â thraciau a rholio peiriannau ar y cludiant (gweithgareddau anweithredol)
9.2 llwythi crog drwy slingio a signalau; o leiaf dri o’r canlynol: cytbwys, anghytbwys, llac, wedi bwndelu, cynwysyddion, drymiau (slingio a signalau)
9.3 drwy gyfarwyddo ac arwain gweithrediadau peiriannau codi eraill (e.e. tryc codi, cloddiwr)
9.4 cyfarwyddo ac arwain gweithredwyr peiriannau (symudiad)
9.5 gyrru cludiant i mewn i offer neu beirianwaith ar goesau jac hydrolig neu’n crogi o nenbont
10 cwblhau’ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu’r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
**1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
3 y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a’r amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 system awyru a gwacáu leol
4.3 cyfarpar diogelu personol
4.4 cyfarpar diogelu anadlol
5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, cynlluniau codi, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud â threfnu a diogelu offer neu beiriannau i'w cludo
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
7 gofal y gweithiwr am offer llaw, cyfarpar ategol, ategolion codi a chyfarpar dal llwythi yn eu lle
Dulliau gweithio
8.1 pennu beth yw capasiti’r cerbyd
8.2 pennu pwysau a meintiau (uchder, hyd, lled) offer a pheiriannau i'w llwytho
8.3 archwilio ardaloedd llwytho a dadlwytho
8.4 nodi'r gofynion o ran gyrru a gweithredu offer a pheiriannau ar gyfer llwytho a dadlwytho o dan amodau dim llwyth
8.5 nodi'r y gofynion i slingio llwythi a signalu llwythi ar gyfer eu cludo
8.6 nodi'r gofynion ar gyfer cyfarwyddo ac arwain gweithrediadau offer neu beiriannau ar gyfer llwytho a dadlwytho
8.7 nodi’r gofynion o ran cyfarwyddo ac arwain symudiadau cerbydau, offer a pheiriannau ar gyfer llwytho a dadlwytho
8.8 nodi’r gofynion ar gyfer llwytho cyfarpar gan ddefnyddio jacs hydrolig ac offer cynnal
8.9 sicrhau bod llwyth yn cael ei baratoi ar gyfer ei gludo, ei storio’n ddiogel, ei ddal yn ei le, ei atal rhag symud, bod systemau hydrolig wedi’u cloi, a systemau cymalog a throi wedi’u cloi
8.10 gwahaniaethu rhwng cyfarpar dal llwythi yn eu lle ac ategolion codi
8.11 adnabod peryglon agosrwydd
8.12 dewis a defnyddio cyfarpar dal llwythi yn eu lle ac ategolion codi addas
8.13 trefnu a diogelu llwythi
8.14 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth benodol
8.15 cadarnhau cydbwysedd, sefydlogrwydd a dosbarthiad pwysau cywir
8.17 llwytho a dadlwytho ar briffordd gyhoeddus
8.18 nodi a marcio bargodion
8.19 symud a storio ategolion codi a chyfarpar dal llwythi yn eu lle ar ôl gorffen llwytho a dadlwytho
8.20 defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol
8.21 gweithio ar uchder
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â threfnu a diogelu offer, peiriannau a chyfarpar i'w cludo
11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
12 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
13 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
14 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
15 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o
15.1 ategolion codi a chyfarpar dal llwythi yn eu lle, rhaff gwifren ddur, cadwyn, defnydd, gwe, bachau, gefynnau, clampiau, rhwydi a gorchuddion
15.2 offer llaw a chyfarpar ategol
16 nodi pwysau, cynhaliad, gwasgedd, swm, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer trefnu a diogelu offer, peiriannau a chyfarpar i’w cludo
17 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Trefnu: lleoli, gosod a threfnu ar y cerbyd cludo
Diogel: wedi'i roi'n sownd yn gadarn ac yn sefydlog