Cyfarwyddo ac arwain symudiad cerbydau, offer neu beiriannau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar ategol i gyfarwyddo ac arwain y gwaith o symud cerbydau, offer neu beiriannau wedi'u llwytho a'u dadlwytho, paratoi ar gyfer symudiadau cerbydau, offer neu beiriannau wedi'u llwytho a'u dadlwytho, eu cyfarwyddo a'u harwain
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol neu mewn tîm i gyfarwyddo ac arwain symudiadau cerbydau, offer neu beiriannau wedi'u llwytho a'u dadlwytho, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a chadarnhau ei pherthnasedd
P2 trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith
P3 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach
P4 dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r gweithrediadau i'w cyflawni
P5 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P6 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P7 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill
K4 sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd
K5 sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a wnaed yn y gwaith
K6 pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith
Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel **
K7 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K8 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K9 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol
K10 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K12 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol **a chanllawiau swyddogol
**
*
*
*
*
*
*
Meini Prawf Perfformiad 4
Dewis adnoddau
K13 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K14 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K15 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K16 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 5
Lleihau'r risg o ddifrod
K17 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K18 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 6
Bodloni gofynion y contract
K19 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K20 sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 7
Amser a neilltuwyd
K21 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, cynlluniau symud offer a cherbydau a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â symud cerbydau, offer neu beiriannau
Meini Prawf Perfformiad 2
2 trefnu’ch gwaith eich hun
3 cyfathrebu ag aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill am symudiad cerbydau, offer neu beiriannau a't gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 3
4 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch sy’n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol
4.1 dulliau gweithio
4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
4.3 defnyddio a storio offer yn ddiogel
4.4 defnyddio a storio cyfarpar yn ddiogel
4.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 4
5 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
5.1 offer llaw a chyfarpar ategol
5.2 cyfarpar signalu a chyfathrebu
Meini Prawf Perfformiad 5
6 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
7 atal difrod a chynnal lle gweithio glân
8 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
Meini Prawf Perfformiad 6
9 dangos sgiliau mesur, dogni, amcangyfrif, dehongli, beirniadu, esbonio, paratoi, gorchymyn, cyfarwyddo, arwain, dangos, rhoi cyfarwyddyd, arwyddo, lleoli, symud, sicrhau, signalu a throsglwyddo
10 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a signalu a chyfarpar mynediad
11 cyfarwyddo ac arwain symudiadau cerbydau wedi'u llwytho a'u dadlwytho, gan gynnwys cerbydau cymalog ac offer neu beiriannau (ag olwynion neu draciau) yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir, mewn perthynas â'r canlynol
11.1 arwyddion llaw
11.2 cyfarpar signalu â llaw
11.3 offer cyfathrebu llafar ac electronig
Meini Prawf Perfformiad 7
12 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Cyfathrebu
1 trafodaethau, brasluniau, data electronig, sesiynau briffio, signalu a chyfathrebu ar radio
**
Gwaredu gwastraff
2 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
3 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
4 y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 system awyru a gwacáu leol
5.3 cyfarpar diogelu personol
5.4 cyfarpar diogelu anadlol
Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, cynlluniau symud offer a cherbydau, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a Chodau Ymarfer ar gyfer cyfarwyddo ac arwain cerbydau, offer a pheiriannau
*
*
*
*
Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw
8 gofal y gweithiwr am offer llaw, cyfarpar ategol, cyfarpar signalu a chyfathrebu
**
Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 nodi'r gwahaniaethau rhwng cyfarwyddo ac arwain symudiadau, cyfarwyddo ac arwain gweithrediadau a slingio a signalau
9.2 dehongli cynllun rheoli gwaith a chynllun symud cerbydau
9.3 nodi hierarchaeth mesurau rheoli traffig a gwahanu cerddwyr
9.4 trefnu a sicrhau bod mannau dal, llwybrau, ardaloedd gwaharddedig, marcwyr ac arwyddion yn cael eu cynnal a'u cadw
9.5 asesu a phennu symudiadau cerbydau, offer a pheiriannau, gan gynnwys ei safle ei hun o ran diogelwch, gwelededd, cyflwr a nodweddion y tir, peryglon agosrwydd a chyfyngiadau pwysau
9.6 adnabod ac ymateb i amodau newidiol, tir, amgylchedd, tywydd, golau, niferoedd a mathau o gerbydau, offer a pheiriannau
9.7 cysylltu â gyrwyr a gweithredwyr, cyfleu gwybodaeth iddynt chasglu gwybodaeth ganddynt
9.8 nodi a defnyddio cymhorthion symud (camerâu, drychau, rhybuddion sain a gweledol, ac ati)
9.9 nodi mannau dall, parthau mathru posibl a phethau eraill sy'n cyfyngu ar allu'r gyrrwr i weld
9.10 nodi'r gofynion o ran cyfarwyddo ac arwain symudiadau cerbydau, offer a pheiriannau ar briffyrdd cyhoeddus ac oddi arnynt
9.11 adnabod gofynion gweithio ar briffyrdd cyhoeddus
9.12 cyfarwyddo ac arwain cerbydau o wahanol fathau a meintiau e.e. uchder, hyd pwysau, lled, traciau, olwynion a chymalog
9.13 asesu a phenderfynu ar symudiadau llwythi, gan gynnwys gofynion dadlwytho, gollwng a llwytho
9.14 cyfarwyddo ac arwain cerbydau, offer a pheiriannau ar draws tir garw neu anwastad
9.15 gwirio cadernid y offer sy'n diogelu llwythi a sefydlogrwydd y llwythi, cyn dechrau symud ac ar ôl cyrraedd, cyn eu rhyddhau
9.16 arwyddo a chyfathrebu gan ddilyn trefniadau gweithredol cydnabyddedig a chytunedig
9.17 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth benodol
9.18 defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chyfarwyddo ac arwain symudiad cerbydau, offer a pheiriannau
*
Problemau*
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
*
Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o
16.1 cyfarpar signalu a chyfathrebu
16.2 rhwystrau, conau, arwyddion
16.3 cyfarpar goleuo
16.4 offer llaw a chyfarpar ategol
17 nodi gwasgeddau cynnal/pwysau, nifer, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer cyfarwyddo ac arwain symudiad cerbydau, offer a pheiriannau
**
Gweithdrefnau diogelwch
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr
Sgiliau
19 eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r gwaith