Defnyddio offer neu beiriannau i brosesu

URN: COSVR395
Sectorau Busnes (Suites): Dymchwel,Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau a chyfarpar ar gyfer gweithrediadau offer neu beiriannau, gosod, gweithredu a diffodd offer neu beiriannau ar gyfer gwneud gwaith prosesu

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol i weithredu offer neu beiriannau i brosesu, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1  dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a
      chadarnhau ei pherthnasedd

P2  trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith

P3  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau
      statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a
      gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach

P4  gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu offer er
      mwyn cwblhau'r rhaglen waith

P5  dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r
      gweithrediadau i'w cyflawni

P6  cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r
      gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P7  cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith
      yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P8  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen
      waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1  pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am
      wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u
      cywiro, a sut i'w gweithredu

K2  pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a
      sut i'w dehongli

K3  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r 
      wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2

Trefnu gydag eraill

K4  sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd

K5  sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a wnaed
      yn y gwaith

K6  pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith

Meini Prawf Perfformiad 3

Arferion gwaith diogel **

K7    faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i
        gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, 
        Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a
        sut i'w chymhwyso

K8    sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K9    beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer
        peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol

K10  beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a
        phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K11  pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a
         diogelwch

K12  sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn
        bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol **a chanllawiau
        swyddogol

**

Meini Prawf Perfformiad 4

Gwneud cais am adnoddau

K13  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul
        ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5

Dewis adnoddau

K14  beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, 
        cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro
        diffygion

K15  sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw 
        broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K16  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau,
        pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K17  pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r *dulliau gweithio
       *
a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 6

Lleihau'r risg o ddifrod

K18  sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K19  pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7

Bodloni gofynion y contract

K20  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i
        adrodd am broblemau

K21  sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 8

Amser a neilltuwyd

K22  beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser
        amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau
        amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1  dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg a
    gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â'r
    gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2  trefnu’ch gwaith eich hun
3  cyfleu’r gweithrediadau peirianyddol a’r gwaith sydd i'w wneud i
    aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill

Meini Prawf Perfformiad 3
4  osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch
    sy’n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol
    4.1 dulliau gweithio
    4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
    4.3 defnyddio a storio offer neu beiriannau yn ddiogel
    4.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
    4.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 4

5  dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau
    traul, deunyddiau ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5

6  dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

    6.1 offer llaw a chyfarpar ategol a/neu ategolion

Meini Prawf Perfformiad 6

7  diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

8  atal difrod a chynnal lle gweithio glân

9  gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
*
Meini Prawf Perfformiad 7
*

10  dangos sgiliau gwirio, addasu, cyfathrebu, symud, lleoli a phrosesu

11  defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a/neu
      ategolion

12  gweithredu offer neu beiriannau ar gyfer gweithrediadau prosesu
      yn unol â chyfarwyddiadau gweithio a roddir mewn perthynas ag
      o leiaf un o'r categorïau canlynol

      12.1 peiriannau gwasgu

      12.2 sgrinwyr

      12.3 offer crynhoi

13  diffodd a diogelu offer neu beiriannau

Meini Prawf Perfformiad 8

14  cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a
      neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r
      cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu

1  trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio

*

Gwaredu gwastraff

2  cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth
    gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

3  ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol
    a sgiliau personol

    3.1  tanau, gollyngiadau ac anafiadau

    3.2  argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

4  y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau
    risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng 
    ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau
    statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5  y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd
    galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math,
    sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

    5.1  mesurau diogelu ar y cyd

    5.2  system awyru a gwacáu leol

    5.3  cyfarpar diogelu personol

    5.4  cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth

6  lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg,
    gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n
    ymwneud â gweithredu offer a pheiriannau ar gyfer gwneud gwaith
    proseu

Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol

7  mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau
    posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle,
    o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar
    ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi
    a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

8 gofal y gweithiwr am offer a pheiriannau, offer llaw a chyfarpar ategol 
   ac ategolion

*

Dulliau gweithio

9  cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau
    gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r 
    deunyddiau a ddefnyddir i

    9.1    adnabod nodweddion yr offer neu'r peiriannau ar gyfer 
             gweithrediadau prosesu

    9.2    cynnal gwiriadau swyddogaethol ar gyfer gweithrediadau
             prosesu

    9.3    nodi'r ardal ar gyfer y gwaith prosesu

    9.4    cynnal archwiliadau cyn gweithredu ar rwystrau,
             sefydlogrwydd, diogelwch a sicrwydd y gwaith a'r ardal
             o'i gwmpas

    9.5    nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau
             a gwybodaeth benodol

    9.6    gwneud y gwaith prosesu

    9.7    delio â rhwystrau cyn, yn ystod ac ar ôl cwblhau gweithdrefnau

    9.8    danfon deunyddiau wedi'u prosesu

    9.9    teithio ar briffyrdd cyhoeddus

    9.10  diffodd a diogelu offer a pheiriannau

    9.11  defnyddio offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion

10  gwaith tîm a chyfathrebu

11  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu 
      offer a pheiriannau ar gyfer gwaith prosesu

*

Problemau

12   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

       12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

       12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13  mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd
      amcangyfrifedig

14  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd
      yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

15  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol
      yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

16  deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd,
      ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac
      arbenigol o

      16.1 deunyddiau traul, ireidiau, tanwyddau

      16.2 atodiadau, cymhorthion prosesu

      16.3 offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion

17  nodi pwysau, cynhaliad, gwasgedd, swm, hyd ac arwynebedd sy'n
      gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu offer a 
      pheiriannau i wneud gwaith prosesu

*

Gweithdrefnau diogelwch

18  safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Sgiliau

19  eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig 
      â'r gwaith


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Prosesu: dull o wneud neu gynhyrchu rhywbeth, trosi swmp o ddeunyddiau crai yn ffurf ymarferol, gweithgareddau sy'n cynhyrchu gwasanaeth neu gynnyrch penodol i gwsmeriaid


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR395

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrru a Gweithredu Peiriannau Symudol

Cod SOC

8229

Geiriau Allweddol

Peiriannau gwasgu; Sgrinwyr; Offer crynhoi