Defnyddio offer neu beiriannau i osod a thaenu

URN: COSVR393
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu),Galwedigaethau Gwaith Isadeiledd (Adeiladu),Gweithrediadau Concrit Arbenigol (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau a chyfarpar ar gyfer gweithrediadau offer neu beiriannau, gosod, gweithredu a diffodd offer neu beiriannau ar gyfer gwneud gwaith gosod a thaenu Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm i weithredu offer neu beiriannau i osod a thaenu deunyddiau, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a
     chadarnhau ei pherthnasedd

P2 trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith

P3 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau
     statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a gweithdrefnau'r
     sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach

P4 gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu offer
     er mwyn cwblhau'r rhaglen waith

P5 dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r
     gweithrediadau i'w cyflawni

P6 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r
     gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P7 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith
     yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P8 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen
      waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am
     wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u
     cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut
      i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r
     wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill

K4 sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd
K5 sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a wnaed
     yn y gwaith
K6 pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith

Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel

K7    faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio
        â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer
        cymeradwy a chanllawiau swyddogol
a sut i'w chymhwyso
K8    sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K9    beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer
        peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol
K10  beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy
        sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11  pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a
        diogelwch

K12  sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er
        mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a
        chanllawiau swyddogol

**

Meini Prawf Perfformiad 4**
Gwneud cais am adnoddau

K13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul
       ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
Dewis adnoddau

K14 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd,
       cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro
       diffygion
K15 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw
       broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K16 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau,
       pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K17 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a
       sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 6
Lleihau'r risg o ddifrod

K18 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K19 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7
Bodloni gofynion y contract

K20 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i
       adrodd am broblemau
K21 sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 8
Amser a neilltuwyd

K22 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser
       amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau
       amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau
   risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â'r
   gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2 trefnu'ch gwaith eich hun
3 cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud i
   aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill

Meini Prawf Perfformiad 3
4 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch
   sy'n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol
   4.1 dulliau gweithio
   4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
   4.3 defnyddio a storio offer neu beiriannau yn ddiogel
   4.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
   4.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 4
5 dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau
   traul, deunyddiau ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
6 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
   6.1 offer llaw a chyfarpar ategol a/neu ategolion

Meini Prawf Perfformiad 6
7 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
8 atal difrod a chynnal lle gweithio glân
9 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

**

Meini Prawf Perfformiad 7**
10 dangos sgiliau gwirio, addasu, cyfathrebu, symud, lleoli, cymysgu,
     gosod, taenu a chywasgu
11 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a/neu
     ategolion
12 gweithredu offer neu beiriannau i osod a thaenu yn unol â
     chyfarwyddiadau gweithio a roddir mewn perthynas ag o leiaf un
     o'r categorïau canlynol
     12.1 sefydlogyddion pridd
     12.2 peiriannau gwasgaru glynwyr
     12.3 sgrafellwyr â moduron
     12.4 sgrafellwyr sy'n cael eu tynnu
     12.5 teirw dur
     12.6 peiriannau sgridio laser
     12.7 peiriannau gwasgaru haen uchaf
13 diffodd a diogelu offer neu beiriannau

Meini Prawf Perfformiad 8
14 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a
     neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r 
     cleient*
*


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu
1 trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio

Gwaredu gwastraff
2 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth
   gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
3 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol
   a sgiliau personol
   3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
   3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
4 y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau
   risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng
   ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau
   statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd
   galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math,
   sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
   5.1 mesurau diogelu ar y cyd
   5.2 system awyru a gwacáu leol
   5.3 cyfarpar diogelu personol
   5.4 cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg,
   gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud
   â gweithredu offer a pheiriannau ar gyfer gwaith gosod a thaenu

**

Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol**
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau
   posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle,
   o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar
   ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi
   a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw
8 gofal y gweithiwr am offer, peiriannau, offer llaw a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau
   gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r 
   deunyddiau a ddefnyddir i
   9.1     adnabod nodweddion yr offer a'r peiriannau ar gyfer 
             gweithrediadau gosod a thaenu
   9.2     cynnal gwiriadau swyddogaethol ar gyfer y gwaith gosod
             a thaenu
   9.3     nodi'r ardal ar gyfer y gwaith gosod a thaenu
   9.4     cynnal archwiliadau cyn gweithredu ar rwystrau,
             sefydlogrwydd, diogelwch a sicrwydd y gwaith a'r ardal
             o'i gwmpas
   9.5     cadarnhau nodweddion deunyddiau
   9.6     gosod a thaenu deunyddiau mewn patrymau gosod
   9.7     nodi newidiadau daearegol, amgylcheddol a sylweddol  
             ac adrodd ar hynny
   9.8     gwirio i osgoi difrod i strwythurau a chyfarpar gwasanaeth
             cyfleustodau
   9.9     nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a
             gwybodaeth benodol
   9.10   cwblhau gwaith gosod a thaenu
   9.11   teithio ar briffyrdd cyhoeddus
   9.12   diffodd a diogelu offer a pheiriannau
   9.13   defnyddio offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu offer
     a pheiriannau ar gyfer gwaith gosod a thaenu

Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd
     amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd
     yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol
     yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd,
     ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac
     arbenigol o
     16.1 deunyddiau traul, ireidiau, tanwyddau
     16.2 atodiadau, cymhorthion gosod a thaenu
     16.3 offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion
17 nodi pwysau, swm, gwasgedd, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig
     â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gwneud gwaith gosod a thaenu

Gweithdrefnau diogelwch
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Sgiliau
19 eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r
     gwaith


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR393

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrru a Gweithredu Peiriannau Symudol

Cod SOC

8229

Geiriau Allweddol

Sefydlogyddion pridd; Peiriannau gwasgaru glynwyr; Sgrafellwyr â moduron; Sgrafellwyr sy'n cael eu tynnu; Teirw dur; Peiriannau sgridio laser; Peiriannau gwasgaru haen uchaf