Gweithredu offer neu beiriannau a ddefnyddir fel llwyfannau gwaith

URN: COSVR392
Sectorau Busnes (Suites): Insiwleiddio Thermol (Adeiladu),Ffensio,Dymchwel,Gweithrediadau Cyrraedd a Rigio (Adeiladu),Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu),Galwedigaethau Gwaith Isadeiledd (Adeiladu),Gwaredu Gwastraff Peryglus a Gwastraff nad yw’n Beryglus (Adeiladu),Gweithrediadau Logisteg Safleoedd (Adeiladu),Codi Concrid wedi'i Rag-gastio (Adeiladu),Gosodiadau Arbenigol (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau a chyfarpar gyda gweithrediadau offer neu beiriannau, gosod, gweithredu a diffodd offer neu beiriannau a ddefnyddir fel llwyfannau gwaith

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm i weithredu offer neu beiriannau a ddefnyddir fel llwyfannau gwaith, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1   dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau
       a chadarnhau ei pherthnasedd

P2   trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith

P3   cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol,
       dogfennau statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol
       a gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach

P4   gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu
       offer er mwyn cwblhau'r rhaglen waith

P5   dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r
       gweithrediadau i'w cyflawni

P6   cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod
       i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P7   cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith
       yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P8   cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen
       waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am
     wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u
     cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a
     sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau
    * â'r *wybodaeth
a pham mae'n bwysig eu dilyn

*
Meini Prawf Perfformiad 2
*
Trefnu gydag eraill

K4 sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd
K5 sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a wnaed
     yn y gwaith
K6 pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith

*
Meini Prawf Perfformiad 3
*
Arferion gwaith diogel

K7   faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio
       â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer 
       cymeradwy a chanllawiau swyddogol
a sut i'w chymhwyso
K8   sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K9   beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer peiriannau,
       offer, cyfarpar ac eiddo personol
K10 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy
       sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a
       diogelwch

K12 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn
       bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau
       swyddogol

*
Meini Prawf Perfformiad 4
*
Gwneud cais am adnoddau

K13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau
       traul ac adnoddau eraill

*
Meini Prawf Perfformiad 5
*
Dewis adnoddau

K14  beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd,
        cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro
        diffygion
K15  sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw 
        broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K16  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau,
        pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K17  pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau *gweithio
       *
a sut i ddelio â'r rhain

*
Meini Prawf Perfformiad 6
*
Lleihau'r risg o ddifrod

K18 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K19 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7
Bodloni gofynion y contract

K20  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i
         adrodd am broblemau
K21  sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

*
Meini Prawf Perfformiad 8
*
Amser a neilltuwyd

K22 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser
       amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau 
       amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau
   risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â'r
   gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2 trefnu'ch gwaith eich hun
3 cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud i
   aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill

Meini Prawf Perfformiad 3
4 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch
   sy'n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol
   4.1 dulliau gweithio
   4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
   4.3 defnyddio a storio offer neu beiriannau yn ddiogel
   4.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel 
   4.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 4
5 dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau
   traul, deunyddiau ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
6 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
   6.1 offer llaw a chyfarpar ategol a/neu ategolion

Meini Prawf Perfformiad 6
7 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
8 atal difrod a chynnal lle gweithio glân
9 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

**

Meini Prawf Perfformiad 7**
10 dangos sgiliau gwirio, gosod, addasu, cyfathrebu, symud, lleoli,
     cyrraedd a rhoi i lawr
11 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a/neu
     ategolion
12 gweithredu offer neu beiriannau a ddefnyddir fel llwyfannau gwaith
     yn unol â chyfarwyddiadau gweithio a roddir mewn perthynas ag
     un o'r categorïau canlynol
     12.1 platfformau gweithio uchel symudol
     12.2 llwyfannau gwaith dringo mastiau
13 diffodd a diogelu offer neu beiriannau

Meini Prawf Perfformiad 8
14 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a
     neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r
     cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu
1 trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio

Gwaredu gwastraff
2 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth
   gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
3 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol
   a sgiliau personol
   3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
   3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
   3.3 cynlluniau achub

Peryglon
4 y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau
   risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng
   ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau
   statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd
   galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math,
   sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
   5.1 mesurau diogelu ar y cyd
   5.2 system awyru a gwacáu leol
   5.3 cyfarpar diogelu personol
   5.4 cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, 
   gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud
   â gweithredu offer a pheiriannau

**

Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol**
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau
   posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle,
   o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, gweithio mewn mannau cyfyng,
   ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth
   symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi 
   mecanyddol

*
Cynnal a chadw
*
8 gofal y gweithiwr am offer, peiriannau, offer llaw, cyfarpar ategol

Dulliau gweithio
9  cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau
    gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r 
    deunyddiau a ddefnyddir i
    9.1    adnabod nodweddion yr offer a'r peiriannau a ddefnyddir
             fel llwyfannau gwaith
    9.2    nodi tystysgrifau dilys ar gyfer cynnal a chadw, arolygu
             ac archwilio'n drylwyr
    9.3    cynnal gwiriadau swyddogaethol ar gyfer gwaith cyrraedd
    9.4    cynnal archwiliadau cyn gweithredu ar rwystrau, sefydlogrwydd
             a chyflwr y tir yn effeithio ar y gwaith a'r ardal o'i gwmpas
    9.5    nodi a pharhau i fod yn ymwybodol y gallai'r ardal weithredu
             gynnwys sefyllfaoedd allai arwain at bobl yn cael eu dal yn
             sownd
    9.6    defnyddio offer atal cwympo
    9.7    gwirio i osgoi difrod i strwythurau a chyfarpar gwasanaeth
             cyfleustodau
    9.8    lleoli, gosod a sicrhau offer a pheiriannau ar gyfer
             gweithrediadau cyrraedd
    9.9    nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau
             a gwybodaeth benodol
    9.10  gweithredu, symud, lleoli, gosod a sicrhau
    9.11  gweithredu a theithio ar briffyrdd cyhoeddus
    9.12  diffodd a diogelu offer a pheiriannau
    9.13  defnyddio offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion

10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu offer
     a pheiriannau a ddefnyddir fel llwyfannau gwaith

Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
     12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
     12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
13  mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd
      amcangyfrifedig
14  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd
      yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol
     yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, 
     ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac 
     arbenigol o
     16.1 deunyddiau traul, ireidiau, tanwyddau
     16.2 atodiadau a chymhorthion mynediad
     16.3 offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion
17 nodi pwysau, cynhaliad, gwasgedd, swm, hyd ac arwynebedd sy'n
     gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu offer a
     pheiriannau a ddefnyddir fel llwyfannau gweithio

Gweithdrefnau diogelwch
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Sgiliau
19 eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r
     gwaith


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR392

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrru a Gweithredu Peiriannau Symudol

Cod SOC

8229

Geiriau Allweddol

Llwyfannau gweithio uchel symudol; MEWP; Llwyfannau gwaith dringo mastiau