Gweithio gyda pheiriannau i dderbyn a chludo llwythi

URN: COSVR391
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Adeiladu a Gwasanaethau Peirianneg Sifil,Ffensio,Dymchwel,Gweithrediadau Pyst Sylfaen (Adeiladu),Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu),Galwedigaethau Gwaith Isadeiledd (Adeiladu),Gweithrediadau Twnnel (Adeiladu) ,Gweithrediadau Logisteg Safleoedd (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau a chyfarpar ar gyfer gweithrediadau offer neu beiriannau, gosod, gweithredu a diffodd offer neu beiriannau i dderbyn a chludo llwythi o ddeunyddiau mewn swp

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol i weithredu offer neu beiriannau sy'n derbyn ac yn cludo llwythi o ddeunyddiau mewn swp, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1  dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a 
      chadarnhau ei pherthnasedd

P2  trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith

P3  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau
      statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a gweithdrefnau'r
      sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach

P4  gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu offer 
      er   mwyn cwblhau'r rhaglen waith

P5  dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r
      gweithrediadau i'w cyflawni

P6  cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod
      i'r   gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P7  cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith
      yn  effeithlon yn unol â'r gofynion

P8  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen
      waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1  pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am
      wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u
      cywiro, a  sut i'w gweithredu
K2  pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut
      i'w  dehongli
K3  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r 
      wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill

K4 sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd
K5 sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a wnaed
     yn  y gwaith
K6 pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith

Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel

K7   faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio
       â'r  ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer
       cymeradwy a  chanllawiau swyddogol
a sut i'w chymhwyso
K8   sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K9   beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer
       peiriannau,  offer, cyfarpar ac eiddo personol
K10 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy
       sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a
       diogelwch

K12 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn
       bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau
       swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 4
Gwneud cais am adnoddau

K13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul
       ac  adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
Dewis adnoddau

K14 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd,
       cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro
       diffygion
K15 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw
       broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K16 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam
        y  cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K17 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau *gweithio
      *
a sut i  ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 6
Lleihau'r risg o ddifrod

K18 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K19 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7
Bodloni gofynion y contract

K20  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i
        adrodd am broblemau
K21  sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

*
Meini Prawf Perfformiad 8
*
Amser a neilltuwyd

K22 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser 
       amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau
       amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg a
   gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â'r gweithrediadau
   peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2 trefnu'ch gwaith eich hun
3 cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud i
   aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill

Meini Prawf Perfformiad 3
4 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch
   sy'n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol
   4.1 dulliau gweithio
   4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
   4.3 defnyddio a storio offer neu beiriannau yn ddiogel
   4.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
   4.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 4
5  dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau
    traul, deunyddiau ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
6 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
   6.1 offer llaw a chyfarpar ategol a/neu ategolion
*
Meini Prawf Perfformiad 6
*
7 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
8 atal difrod a chynnal lle gweithio glân
9 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

**

Meini Prawf Perfformiad 7**
10 dangos sgiliau gwirio, addasu, cyfathrebu, symud, lleoli, derbyn,
     cludo a gollwng
11 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a/neu
     ategolion
12 gweithredu offer neu beiriannau i dderbyn a chludo llwythi o 
     ddeunyddiau mewn swp yn unol â chyfarwyddiadau gweithio a 
     roddir mewn perthynas ag un o'r categorïau canlynol
     12.1 pympiau concrit
     12.2 dadlwythwyr sy'n tipio am ymlaen
     12.3 tractorau gyda chyfarpar sy'n cael ei dynnu
     12.4 offer a chyfarpar twnelu
     12.5 tryciau dadlwytho
     12.6 bowserau
     12.7 tryc cyfeintiol
13 diffodd a diogelu offer neu beiriannau

Meini Prawf Perfformiad 8
14 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a
     neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r
     cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu
1  trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio

Gwaredu gwastraff
2  cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad,
    gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a
    chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
3  ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol
    a sgiliau personol
    3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
    3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
4  y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau 
    risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng
    ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau
    statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5  y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd
    galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math,
    sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
    5.1 mesurau diogelu ar y cyd
    5.2 system awyru a gwacáu leol
    5.3 cyfarpar diogelu personol
    5.4 cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth
6  lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, 
    gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud
    â gweithredu offer neu beiriannau i dderbyn a chludo llwythi

Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol
7  mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau
    posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle,
    o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar
    ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau,
    codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw
8  gofal y gweithiwr am offer, peiriannau, offer llaw a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio
9  cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau
    gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r 
    deunyddiau a ddefnyddir i
    9.1  adnabod nodweddion yr offer a'r peiriannau a ddefnyddir ar
           gyfer gweithrediadau derbyn a chludo
    9.2  cynnal gwiriadau swyddogaethol i dderbyn a chludo llwythi
    9.3  adnabod nodweddion, math a chyfaint y llwythi i'w derbyn a'u
           cludo
    9.4  cynnal archwiliadau cyn gweithredu ar rwystrau, sefydlogrwydd, 
           diogelwch a sicrwydd y gwaith a'r ardal o'i gwmpas
    9.5  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a
           gwybodaeth benodol
     9.6  derbyn, sicrhau a chydbwyso llwythi i'w cludo
     9.7  cludo a danfon llwythi
     9.8  teithio ar briffyrdd cyhoeddus
     9.9  diffodd a diogelu offer a pheiriannau
     9.10 defnyddio offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion
10  gwaith tîm a chyfathrebu
11  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu
      offer a pheiriannau ar gyfer derbyn a chludo llwythi

Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
    12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
    12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
13  mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd
      amcangyfrifedig
14  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a
      fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol
     yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd,
     ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o
     16.1 deunyddiau traul, ireidiau, tanwyddau
     16.2 atodiadau a gorchuddion llwythi
     16.3 offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion
17 nodi pwysau, swm, gwasgedd, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig
     â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu offer a pheiriannau i
     dderbyn a chludo llwythi o ddeunyddiau mewn swp

Gweithdrefnau diogelwch
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Sgiliau
19 eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r
     gwaith


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR391

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrru a Gweithredu Peiriannau Symudol

Cod SOC

8229

Geiriau Allweddol

Pympiau concrit; Dadlwythwyr sy’n tipio am ymlaen; Tractorau; Cyfarpar a dynnir; Offer twnelu; Tryciau dadlwytho; Bowserau; Tryc cyfeintiol