Defnyddio offer neu beiriannau i adeiladu neu ffurfio

URN: COSVR390
Sectorau Busnes (Suites): Dymchwel,Gweithrediadau Pyst Sylfaen (Adeiladu),Gweithrediadau Peiriannau (Adeiladu),Gweithrediadau Twnnel (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau a chyfarpar ar gyfer gweithrediadau offer neu beiriannau, gweithredu a diffodd offer neu beiriannau ar gyfer gwaith adeiladu neu ffurfio

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm i weithredu offer neu beiriannau i adeiladu neu ffurfio, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1   dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a
       chadarnhau ei pherthnasedd

P2   trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith

P3   cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau
       statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a
       gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach

P4   gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu offer
       er mwyn cwblhau'r rhaglen waith

P5   dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r 
       gweithrediadau i'w cyflawni

P6   cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r
       gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P7   cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith
       yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P8   cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen
       waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am
       wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u
       cywiro, a sut i'w gweithredu

K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut
       i'w dehongli

K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r
       wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn


Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill

K4   sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd

K5   sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a
       wnaed yn y gwaith

K6   pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith

*
*

Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel

K7    faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio
        â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer 
        cymeradwy a chanllawiau swyddogol
a sut i'w chymhwyso

K8    sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K9    beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer
        peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol

K10  beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy
        sy'n gyfrifol am wneud hynny

K11  pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a
        diogelwch

K12  sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn
        bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau
        swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 4
Gwneud cais am adnoddau

K13   gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul
         ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
Dewis adnoddau

K14   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, 
         cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro
         diffygion

K15   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw
         broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K16   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam
          y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K17   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio
          a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 6
Lleihau'r risg o ddifrod

K18  sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K19  pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7
Bodloni gofynion y contract

K20  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i
        adrodd am broblemau

K21  sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 8
Amser a neilltuwyd

K22  beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser 
        amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau
        amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1   dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg a
     gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â'r
     gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2   trefnu'ch gwaith eich hun

3   cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud i
     aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill

Meini Prawf Perfformiad 3

4   osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch
     sy'n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol

        4.1   dulliau gweithio

        4.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

        4.3   defnyddio a storio offer neu beiriannau yn ddiogel

        4.4   defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel

        4.5   risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 4

5   dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau
     traul, deunyddiau ac adnoddau eraill

Meini Prawf Perfformiad 5

6   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

        6.1   offer llaw a chyfarpar ategol a/neu ategolion

Meini Prawf Perfformiad 6

7   diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

8   atal difrod a chynnal lle gweithio glân

9   gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 7

10   dangos sgiliau gwirio, addasu, cyfathrebu, symud, lleoli, adeiladu
       neu ffurfio

11   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a/neu
       ategolion

12   gweithredu offer neu beiriannau i adeiladu neu ffurfio yn unol â
       chyfarwyddiadau gweithio a roddir mewn perthynas ag un o'r 
       categorïau canlynol

        12.1   graddwyr

        12.2   rigiau gosod seilbyst

        12.3   rigiau drilio

        12.4   teirw dur

        12.5   offer a chyfarpar twnelu

        12.6   rig ffurfwaith (llithr-ffurf, dringo, neidio)

13   diffodd a diogelu offer neu beiriannau

*
*

Meini Prawf Perfformiad 8

14  cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a
      neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r
      cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu

1   trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio

Gwaredu gwastraff

2   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth
     gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

3   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad
     sefydliadol a sgiliau personol

        3.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau

        3.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

4   y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau risg a
      Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng ngwybodaeth
      dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a
      chanllawiau swyddogo
l

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd
     galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math,
     sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

        5.1   mesurau diogelu ar y cyd

        5.2   system awyru a gwacáu leol

        5.3   cyfarpar diogelu personol

        5.4   cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth

6   lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg,
     gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n
     ymwneud â gweithredu offer a pheiriannau ar gyfer adeiladu neu 
     ffurfio

Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol

7   mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau
     posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle,
     o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar
     ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau,
     codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

8   gofal y gweithiwr am offer a pheiriannau, offer llaw, cyfarpar ategol
     ac ategolion

Dulliau gweithio

9  cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau
    gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r
    deunyddiau a ddefnyddir i

        9.1   adnabod nodweddion yr offer a'r peiriannau ar gyfer
                gweithrediadau adeiladu a ffurfio

        9.2   cynnal gwiriadau swyddogaethol ar gyfer y gwaith adeiladu
                a ffurfio

        9.3   nodi'r ardal ar gyfer y gwaith adeiladu a ffurfio

        9.4   nodi newidiadau daearegol, amgylcheddol a sylweddol ac
                adrodd ar hynny

        9.5   cynnal archwiliadau cyn gweithredu ar rwystrau,
                sefydlogrwydd, diogelwch a sicrwydd y gwaith a'r ardal
                o'i gwmpas

        9.6   gwirio i osgoi difrod i strwythurau a chyfarpar gwasanaeth
                cyfleustodau

        9.7   nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a
                gwybodaeth benodol

        9.8   cwblhau gwaith adeiladu a ffurfio

        9.9   teithio ar briffyrdd cyhoeddus

        9.10  diffodd a diogelu offer a pheiriannau

        9.11  defnyddio offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion

10  gwaith tîm a chyfathrebu

11  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu offer
      a pheiriannau ar gyfer gwaith adeiladu neu ffurfio

Problemau

12  y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

        12.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

        12.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13  mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd
      amcangyfrifedig

14  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd
      yn effeithio ar y rhaglen waith

*
*

Diogelu gwaith

15  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol
       yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

16   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd,
       ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol
       o

        16.1   deunyddiau traul, ireidiau, tanwyddau

        16.2   atodiadau a chymhorthion ar gyfer gwaith adeiladu neu
                  ffurfio

        16.3   offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion

17   nodi pwysau, swm, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r 
       dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu offer a pheiriannau a
       ddefnyddir i wneud gwaith adeiladu a ffurfio

Gweithdrefnau diogelwch

18  safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Sgiliau

19  eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r 
      gwaith


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Adeiladu: rhoi sylweddau neu rannau at ei gilydd yn systematig er mwyn gwneud neu adeiladu (adeilad, pont, ac ati), cydosod, (rhywbeth sydd wedi’i ffurfio neu ei adeiladu’n systematig)


Ffurfio

rhoi siâp i rywbeth, neu ddod â rhywbeth i fodolaeth, ei wneud neu ei adeiladu




Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR390

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrru a Gweithredu Peiriannau Symudol

Cod SOC

8229

Geiriau Allweddol

Graddwyr; Rigiau gosod seilbyst; Rigiau drilio; Teirw dur; Offer twnelu; Llithr-ffurf; Rig ddringo; Rig neidio