Defnyddio offer neu beiriannau i gloddio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau a chyfarpar ar gyfer gweithrediadau offer neu beiriannau, gosod, gweithredu a diffodd offer neu beiriannau ar gyfer gwneud gwaith cloddio
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol i weithredu offer neu beiriannau i gloddio tir â deunyddiau rhydd, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a
chadarnhau ei pherthnasedd
P2 trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith
P3 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau
statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a
gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach
P4 gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu offer
er mwyn cwblhau'r rhaglen waith
P5 dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r
gweithrediadau i'w cyflawni
P6 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r
gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P7 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith
yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P8 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen
waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am
wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u
cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut
i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r
wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill
K4 sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd
K5 sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a
wnaed yn y gwaith
K6 pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith
*
*
Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel
K7 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio
â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer
cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K8 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K9 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer
peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol
K10 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy
sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a
diogelwch
K12 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn
bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau
swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 4
Gwneud cais am adnoddau
K13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul
ac adnoddau eraill
Meini Prawf Perfformiad 5
Dewis adnoddau
K14 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd,
cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K15 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw
broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K16 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam
y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K17 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r *dulliau gweithio
* a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 6
Lleihau'r risg o ddifrod
K18 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K19 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 7
Bodloni gofynion y contract
K20 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i
adrodd am broblemau
K21 sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 8
Amser a neilltuwyd
K22 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser
amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau
amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg a
gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â'r
gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud
*
*
Meini Prawf Perfformiad 2
2 trefnu'ch gwaith eich hun
3 cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud i
aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill
Meini Prawf Perfformiad 3
4 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch
sy'n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol
4.1 dulliau gweithio
4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
4.3 defnyddio a storio offer neu beiriannau yn ddiogel
4.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
4.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 4
5 dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau
traul, deunyddiau ac adnoddau eraill
Meini Prawf Perfformiad 5
6 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
6.1 atodiadau, offer llaw a chyfarpar ategol
Meini Prawf Perfformiad 6
7 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
8 atal difrod a chynnal lle gweithio glân
9 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 7
10 dangos sgiliau gwirio, addasu, cyfathrebu, gweithredu, symud, lleoli,
cloddio, mesur a symud
11 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a/neu
ategolion
12 gweithredu offer neu beiriannau i gloddio tir a deunyddiau rhydd yn
unol â chyfarwyddiadau gweithio a roddir mewn perthynas ag un o'r
categorïau canlynol
12.1 peiriannau cloddio
12.2 peiriannau cloddio ffosydd
12.3 teirw dur
12.4 rhawiau llwytho
13 diffodd a diogelu offer neu beiriannau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 8
14 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a
neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r
cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Cyfathrebu
1 trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio
Gwaredu gwastraff
2 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth
gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
3 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad
sefydliadol a sgiliau personol
3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
4 y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau
risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng
ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau
statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd
galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math,
sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 system awyru a gwacáu leol
5.3 cyfarpar diogelu personol
5.4 cyfarpar diogelu anadlol
Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg,
gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n
ymwneud â gweithredu offer a pheiriannau ar gyfer gwaith cloddio
Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau
posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle,
o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar
ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau,
codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw
8 gofal y gweithiwr am offer a pheiriannau, offer llaw, cyfarpar ategol
ac ategolion
Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau
gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r
deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 adnabod nodweddion yr offer neu'r peiriannau ar gyfer
gweithrediadau cloddio
9.2 cynnal gwiriadau swyddogaethol ar gyfer gwaith cloddio
9.3 nodi ardal i'w chloddio
9.4 cynnal archwiliadau cyn gweithredu ar rwystrau,
sefydlogrwydd, diogelwch a sicrwydd y gwaith a'r ardal
o'i gwmpas
9.5 nodi newidiadau daearegol, amgylcheddol a sylweddol ac
adrodd ar hynny
9.6 gwirio i osgoi difrod i strwythurau a chyfarpar gwasanaeth
cyfleustodau
9.7 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a
gwybodaeth benodol
9.8 cloddio'n gywir yn unol â'r llinell a'r lefel
9.9 defnyddio cyfarpar i fesur a dogni
9.10 teithio ar briffyrdd cyhoeddus
9.11 cloddio deunyddiau'n saff a diogel
9.12 diffodd a diogelu offer a pheiriannau
9.13 defnyddio offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu offer
a pheiriannau i gloddio tir a deunyddiau rhydd
Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd#
amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd
yn effeithio ar y rhaglen waith
*
*
Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol
yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd,
ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol
o
16.1 deunyddiau traul, ireidiau, tanwyddau
16.2 atodiadau a chymhorthion cloddio
16.3 offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion
17 Nodi pwysau, swm, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r
dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu offer a pheiriannau i gloddio
tir a deunyddiau rhydd
Gweithdrefnau diogelwch
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr
Sgiliau
19 eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r
gwaith