Defnyddio offer neu beiriannau i echdynnu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau a chyfarpar ar gyfer gweithrediadau offer neu beiriannau, gosod, gweithredu a diffodd offer neu beiriannau ar gyfer gwneud gwaith echdynnu
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio'n annibynnol i weithredu offer neu beiriannau i gloddio tir, wyneb a deunyddiau neu nwyddau rhydd, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a
chadarnhau ei pherthnasedd
P2 trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith
P3 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau
statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a
gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach
P4 gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu offer
er mwyn cwblhau'r rhaglen waith
P5 dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r
gweithrediadau i'w cyflawni
P6 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r
gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P7 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith
yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P8 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen
waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am
wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u
cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut
i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r
wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill
K4 sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd
K5 sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a
wnaed yn y gwaith
K6 pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith
*
*
Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel
K7 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio
â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer
cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K8 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K9 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer
peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol
K10 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy
sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a
diogelwch
K12 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn
bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau
swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 4
Gwneud cais am adnoddau
K13 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau traul
ac adnoddau eraill
Meini Prawf Perfformiad 5
Dewis adnoddau
K14 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd,
cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro
diffygion
K15 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw
broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K16 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam
y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K17 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r *dulliau gweithio
* a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 6
Lleihau'r risg o ddifrod
K18 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K19 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 7
Bodloni gofynion y contract
K20 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i
adrodd am broblemau
K21 sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 8
Amser a neilltuwyd
K22 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser
amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau
amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg a
gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n ymwneud â'r
gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud
*
*
Meini Prawf Perfformiad 2
2 trefnu'ch gwaith eich hun
3 cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud i
aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill
Meini Prawf Perfformiad 3
4 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am ddiogelwch
sy'n ymwneud ag o leiaf bedwar o'r canlynol
4.1 dulliau gweithio
4.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
4.3 defnyddio a storio offer neu beiriannau yn ddiogel
4.4 defnyddio a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
4.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 4
5 dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau
traul, deunyddiau ac adnoddau eraill
Meini Prawf Perfformiad 5
6 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
6.1 atodiadau, offer llaw a chyfarpar ategol
Meini Prawf Perfformiad 6
7 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
8 atal difrod a chynnal lle gweithio glân
9 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 7
10 dangos sgiliau gwirio, addasu, cyfathrebu, symud, lleoli, echdynnu,
ffurfio, symud a llwytho
11 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a/neu
ategolion
12 gweithredu offer neu beiriannau i echdynnu tir, wyneb a deunyddiau
neu nwyddau rhydd yn unol â chyfarwyddiadau gweithio a roddir
mewn perthynas ag un o'r categorïau canlynol
12.1 peiriannau cloddio
12.2 rhawiau llwytho
12.4 llwythwyr sglefr-lywio
12.4 sgrafellwyr â moduron
12.5 peiriannau cloddio ffosydd
12.6 tyrchwyr
12.7 teirw dur
13 diffodd a diogelu offer neu beiriannau
*
*
Meini Prawf Perfformiad 8
14 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a
neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r
cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Cyfathrebu
1 trafodaethau, brasluniau, data electronig a sesiynau briffio
Gwaredu gwastraff
2 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth
gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
3 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad
sefydliadol a sgiliau personol
3.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
3.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Peryglon
4 y rhai hynny a nodir fel rhan o ddull gweithio, mewn asesiadau
risg/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, yng
ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn
rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd
galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math,
sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 system awyru a gwacáu leol
5.3 cyfarpar diogelu personol
5.4 cyfarpar diogelu anadlol
Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg,
gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a rheoliadau cyfredol sy'n
ymwneud â gweithredu offer a pheiriannau i echdynnu
Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau
posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle,
o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar
ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi
a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw
8 gofal y gweithiwr am offer a pheiriannau, offer llaw, cyfarpar ategol
ac ategolion
Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau
gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r
deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 adnabod nodweddion yr offer a'r peiriannau a ddefnyddir ar
gyfer gweithrediadau echdynnu
9.2 cynnal gwiriadau swyddogaethol ar gyfer gwaith echdynnu
9.3 nodi'r ardal i'w hechdynnu
9.4 cynnal archwiliadau cyn gweithredu ar rwystrau,
sefydlogrwydd, diogelwch a sicrwydd y gwaith a'r ardal
o'i gwmpas
9.5 nodi newidiadau daearegol, amgylcheddol a sylweddol ac
adrodd ar hynny
9.6 gwirio i osgoi difrod i strwythurau a chyfarpar gwasanaeth
cyfleustodau
9.7 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a
gwybodaeth benodol
9.8 echdynnu, symud a llwytho deunyddiau a nwyddau yn saff
a diogel
9.9 ffurfio a thynnu cyflenwadau
9.10 teithio ar briffyrdd cyhoeddus
9.11 diffodd a diogelu offer a pheiriannau
9.12 defnyddio offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu offer
neu beiriannau i echdynnu pridd, deunyddiau a nwyddau rhydd
Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd
amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd
yn effeithio ar y rhaglen waith
*
*
Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol
yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd,
ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol
o
16.1 deunyddiau traul, ireidiau, tanwyddau
16.2 atodiadau a chymhorthion echdynnu
16.3 offer llaw, cyfarpar ategol ac ategolion
17 nodi pwysau, cynhaliad, gwasgedd, swm, hyd ac arwynebedd sy'n
gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu offer a
pheiriannau i echdynnu tir a deunyddiau rhydd
Gweithdrefnau diogelwch
18 safle, gweithle, cwmni a gweithiwr
Sgiliau
19 eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig â'r
gwaith