Gweithredu peiriannau i ddatgysylltu a/neu ddymchwel strwythurau

URN: COSVR385
Sectorau Busnes (Suites): Dymchwel
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Ion 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi, gweithredu a diffodd peiriannau ar gyfer datgysylltu a/neu ddymchwel strwythurau a gwneud gwaith gwahanu, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig a dewis a/neu ddefnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar ar gyfer gweithredu peiriannau

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol dymchwel a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1     dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a chadarnhau ei pherthnasedd

 
P2     trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith

P3     cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, dogfennau statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol a gweithdrefnau’r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach

P4     gofyn am adnoddau i gynnal peiriannau i gwblhau’r rhaglen waith

P5     dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a’r gweithrediadau i'w cyflawni

P6     cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas

P7     cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion

P8     cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth

K1     pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2     pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3     beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Trefnu gydag eraill
K4     sut mae aelodau'r tîm yn cyfleu syniadau i'w gilydd
K5     sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd a wnaed yn y gwaith

*
*

Meini Prawf Perfformiad 3
Arferion gwaith diogel
K6     faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K7     sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K8     pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
K9     beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol
K10   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar diogelu personol

K12   sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 4

Gofyn am adnoddau
K13   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer archebu deunyddiau traul ac adnoddau eraill

**

Meini Prawf Perfformiad 5**

Dewis adnoddau
K14   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K15   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K16   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K17   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 6

Lleihau'r risg o ddifrod
K18   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K19   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7

Bodloni gofynion y contract
K20   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K21   sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar

* *

Meini Prawf Perfformiad 8

Amser a neilltuwyd
K22   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

**Meini Prawf Perfformiad 1** 1      dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, trwyddedau gwaith, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a gofynion y sefydliad sy'n gysylltiedig â gweithredu peiriannau a'r gwaith sydd i'w wneud ** ** **Meini Prawf Perfformiad 2** 2      trefnu'ch gwaith eich hun 3      cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill ** ** **Meini Prawf Perfformiad 3** 4      osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol 4.1     dulliau gweithio 4.2     defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 4.3     defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 4.4     gwahanu deunyddiau ar ôl dymchwel strwythurau a'u storio'n ddiogel 4.5     defnyddio, storio a thrin peiriannau, deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel 4.6     risgiau penodol i iechyd ** ** **Meini Prawf Perfformiad 4** 5      beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer archebu deunyddiau traul, deunyddiau ac adnoddau eraill ** ** **Meini Prawf Perfformiad 5** 6      dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 6.1     atodion, offer a chyfarpar ** ** **Meini Prawf Perfformiad 6** 7      diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 8      cynnal lle gweithio clir a thaclus 9      gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol ** ** ** Meini Prawf Perfformiad 7** 10    dangos sgiliau archwilio, addasu, cyfathrebu, manwfro, lleoli, datgysylltu, dymchwel, gwahanu, pentyrru, symud a llwytho 11    defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar a/neu ategolion 12    cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig, gweithredu peiriannau i ddatgysylltu a/neu ddymchwel strwythurau a gwahanu, pentyrru, symud a llwytho deunyddiau'n unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir 13    diffodd a sicrhau peiriannau ** ** **Meini Prawf Perfformiad 8** 14    cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient

Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu

1       trafodaethau, brasluniau a briffiau

*
*

Gwaredu gwastraff (deilliannau gwastraff a rwbel)

2       cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

*
*

Argyfyngau

3       ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

3.1    tanau, gollyngiadau ac anafiadau

3.2    argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

*
*

Diffoddwyr tân

4        dŵr, CO₂, ewyn a phowdr a'u defnyddiau

*
*

Peryglon

5        y rhai hynny a nodir drwy asesiadau risg ac asesiadau Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

*
*

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

6       y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

6.1    mesurau diogelu ar y cyd

6.2    cyfarpar diogelu personol

6.3    cyfarpar diogelu anadlol

6.4    system awyru a gwacáu leol

*
*

Gwybodaeth

7       lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, trwyddedau gwaith, hyfforddiant cynefino ar y safle, cyflwyniadau, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â gweithredu peiriannau i ddatgysylltu a dymchwel strwythurau

*
*

Deddfwriaeth, Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol

8       mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

*
*

Cynnal a chadw

9       dulliau'r gweithiwr o archwilio peiriannau, offer llaw, cyfarpar a deunyddiau traul a'i ofal amdanynt

Dulliau gweithio

10     cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

10.1        nodi nodweddion y peiriannau sy'n addas ar gyfer dymchwel strwythurau a gwneud gwaith gwahanu

10.2        cadarnhau sut mae peiriannau'n perfformio wrth ddymchwel strwythurau a gwneud gwaith gwahanu

10.3        nodi'r strwythur i'w ddatgysylltu a'i ddymchwel

10.4        cynnal ardaloedd gwaharddedig sefydledig a mannau     dynodedig

10.5        cadarnhau pa rwystrau sydd i'w cael a sut i ddiogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas cyn gweithredu peiriannau

10.6        archwilio cyflwr y tir i sicrhau na fydd peiriannau'n ansad wrth ddatgysylltu a dymchwel strwythurau

10.7        osgoi difrod i strwythurau a chyfleustodau cwmpasol

10.8        datgysylltu a dymchwel strwythurau

10.9        gwahanu deunyddiau a'u symud yn ddiogel i bentyrrau a/neu gynwysyddion

10.10      rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu

10.11      nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

10.12      nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol

10.13      gweithio gyda gweithwyr a pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

10.14      cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu

10.15      diffodd a sicrhau peiriannau

10.16      ffitio a thynnu atodion drwy ddefnyddio cyplyddion cyfeiriadol a chyflym

11     sicrhau gwaith tîm a chyfathrebu

12     anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu peiriannau i ddatgysylltu a dymchwel strwythurau

*
*

Problemau

13     y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

13.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

13.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

*
*

Rhaglen

14     mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni

15     y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif

16     gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

*
*

Diogelu gwaith

17     diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

*
*

**

Adnoddau**

18     deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o

18.1  deunyddiau traul, ireidiau a thanwydd

18.2  citiau arllwysiadau

18.3  peiriannau dymchwel ac atodion

18.4  offer, cyfarpar a deunyddiau traul ar gyfer dymchwel

19     cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

20     dulliau o amcangyfrif pwysau, niferoedd, hyd ac arwynebedd sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gweithredu peiriannau i ddatgysylltu a dymchwel strwythurau a gwahanu, pentyrru, symud a llwytho cydrannau a deunyddiau

*
*

Gweithdrefnau diogelwch

21     prosiect, safle, gweithle, cwmni, gweithiwr, cerbydau, offer a pheiriannau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR385

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrru a Gweithredu Peiriannau Symudol

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Archwilio; Paratoi; Dymchwel; Gwahanu; Pentyrru; Llwytho