Gweithredu a rheoli gweithrediadau peiriannau neu offer ffyrdd

URN: COSVR376
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu a Gwasanaethau Peirianneg Sifil,Gweithredu Offer
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Tach 2013

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gweithio diogel ac iach, dewis a/neu ddefnyddio deunyddiau a chyfarpar a/neu ategolion ar gyfer gweithredu peiriannau offer ar y ffyrdd a pharatoi, gweithredu, rheoli a diffodd gweithrediadau offer a pheiriannau.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithredu ac yn rheoli peiriannau neu offer ar y ffyrdd, gan weithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1     dehongli'r wybodaeth a roddir am ddefnyddio peiriannau a
         chadarnhau ei pherthnasedd

P2     trefnu gydag eraill ym mha drefn y dylid gwneud y gwaith

P3     cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol,
         dogfennau statws cyfreithiol arbennig, canllawiau swyddogol
         a gweithdrefnau'r sefydliad i gynnal arferion gwaith diogel ac iach

P4     gofyn am adnoddau i gynnal gweithrediadau peiriannau neu offer
         er mwyn cwblhau'r rhaglen waith

P5     dewis adnoddau peirianyddol ar gyfer y dulliau gweithio a'r
         gweithrediadau i'w cyflawni

P6     cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod
         i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P7     cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y
         gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P8     cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r
         rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
**Dehongli gwybodaeth

K1        pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am
            **wybodaeth
amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u
            cywiro, a sut i'w gweithredu

K2        pa fathau o wyb*odaeth* sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell
            a sut i'w dehongli

K3        beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau
           * â'r *wybodaeth
a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
**Trefnu gydag eraill

K4        sut mae aelodau'r tîm yn **cyfleu syniadau i'w gilydd

K5        sut mae adnoddau'n cael eu trefnu i gyd-fynd â'r cynnydd
             a wnaed yn y gwaith

K6        pa sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith

Meini Prawf Perfformiad 3
**Arferion gwaith diogel

K7        faint o **wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i
            gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol,
            Codau Ymarfer cymeradwy a chanllawiau swyddogol a
            sut i'w chymhwyso

K8        sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K9        beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer
            peiriannau, offer, cyfarpar ac eiddo personol

K10      beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a
            phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K11      pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd *a
         *
  **diogelwch

**

K12     sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er
           mwyn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth gyfredol a
 *          *chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 4
**Gwneud cais am adnoddau

K13        gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau
              traul ac **adnoddau
eraill

Meini Prawf Perfformiad 5
**Dewis adnoddau

K14        beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd,
              cyfyngiadau a diffygion yr **adnoddau
a sut y dylid cywiro
              diffygion

K15        sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw
              broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K16        beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau,
              pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K17        pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau
             * *gweithio
a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 6
**Lleihau'r risg o ddifrod

K18        sut i *ddiogelu gwaith* rhag difrod a phwrpas diogelu

K19        pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 7
**
Bodloni gofynion y contract

K20        sut i ymgymryd â *dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i
              adrodd am broblema
u*

K21        sut i gynnal a chadw peiriannau, offer a chyfarpar 

Meini Prawf Perfformiad 8
**
Amser a neilltuwyd

K22        beth yw'r **rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser
              amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau
              amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1      dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg,
        datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n
        ymwneud â'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w
        wneud


Meini Prawf Perfformiad 2

2      trefnu'ch gwaith eich hun

3      cyfleu'r gweithrediadau peirianyddol a'r gwaith sydd i'w wneud
        i aelodau'r tîm a galwedigaethau cysylltiedig eraill


Meini Prawf Perfformiad 3

4      osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

    4.1  dulliau gweithio

    4.2  defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

    4.3  defnyddio a storio offer neu beiriannau, offer llaw a
           chyfarpar yn ddiogel

    4.4  risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 4

5      dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer gwneud cais am nwyddau
        traul, deunyddiau ac adnoddau eraill


Meini Prawf Perfformiad 5

6      dewis adnoddau ar gyfer ei waith ei hun sy'n gysylltiedig â'r
        gweithrediadau peiriannau ac offer

    6.1  offer llaw, cyfarpar ategol a/neu ategolion


Meini Prawf Perfformiad 6

7      diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

8      lleihau difrod a chynnal man gweithio glân

9      gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol



Meini Prawf Perfformiad 7

10     dangos sgiliau gwirio, sefydlu, addasu, cyfathrebu, gweithredu,
         rheoli, sicrhau, gosod, stripio, cywasgu, marcio, lefelu a gorffen

11     defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, cyfarpar ategol a/neu
         ategolion

12     gweithredu, rheoli gweithrediadau a diffodd peiriannau neu offer
         yn unol â chyfarwyddiadau gweithio a roddir mewn perthynas ag
         un o'r meysydd canlynol

12.1   palmant bitwminaidd: ar gyfer o leiaf un o'r canlynol –
          sgriwman (gweithredwr sgrîd) gyrrwr peiriant palmantu,
          gyrrwr rholer, gyrrwr peiriant graean, gyrrwr peiriant 
          llwytho/cywasgu, gweithredwr peiriant sgubo, gweithredwr
          tancer/chwistrellydd, geo-synthetig (pilen, rhwyll), gosod,
          cyweirio gyda chwistrell, trwsio thermol

12.2   palmantu concrit: fel gweithredwr peiriant palmant concrit,
          peiriant gwasgaru/lleoli, peiriant llithr-ffurf, y peiriant 
          gweadu/caledu

12.3   slyri/microwynebu: fel gweithredwr o leiaf un o'r canlynol – 
          taenwr, tancer, crafanc godi, sgubwr, rholiwr

12.4   llyfnu'r wyneb: fel gweithredwr o leiaf un o'r canlynol – 
          tancer, peiriant graean, bar chwistrellu, tancer a pheiriant
          graen cyfun, rholer, llwythwr, peiriant tywallt clymedig,
          sgubwr

12.5   gosod wyneb ffrithiant uchel: fel gweithredwr o leiaf un o'r
          canlynol – tancer, bar chwistrellu, peiriant graean, sgubwr

12.6   gweithrediadau plaenio: fel gweithredwr o leiaf un o'r
          canlynol – hyd at 500 mm heb beiriant codi;
          500 mm – 1 m gyda pheiriant codi; dros 1 m gyda pheiriant
          codi

12.7   ailgylchu ffyrdd: fel gweithredwr

12.8   sefydlogi pridd: fel gweithredwr

12.9   ailweadu wyneb: fel gweithredwr o leiaf un o'r canlynol -
          ailweadu mecanyddol, atgyweirio mecanyddol, ffustio,
          jet pwysedd uchel, llifanu, sgubwr

12.10  marcio palmentydd: fel llywiwr/gweithredwr cerbyd llinellu
           gwyn

         12.11  draenio priffyrdd: fel gweithredwr o leiaf un o'r canlynol - 
                    peiriant gwagio cwteri, peiriant sgubo

Meini Prawf Perfformiad 8

13      cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a
          neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r
          cleient



Gwybodaeth Cwmpas

Cyfathrebu

1      trafod, brasluniau a briffio

Gwaredu gwastraff

2      cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad,
        gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a 
        chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

3      ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad
        sefydliadol a sgiliau personol

    3.1  tanau, gollyngiadau ac anafiadau

    3.2  argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol


Peryglon

4      y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg/asesiad Rheoliadau Rheoli
        Sylweddau Peryglus i Iechyd, fel rhan o ddull gweithio, yng
        ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau
        statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5      y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion diogelu ar gyfer defnydd
        galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math,
        sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

    5.1  mesurau diogelu ar y cyd

    5.2  cyfarpar diogelu personol

    5.3  cyfarpar diogelu anadlol

    5.4   system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

6      lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg,
        gwybodaeth y sefydliad a gwneuthurwyr a rheoliadau cyfredol a
        chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â gweithredu peiriannau
        neu offer


Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7      mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am
        ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth
        weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, ar uchder, ag offer a 
        chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio
        deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi
        mecanyddol

Cynnal a chadw

8      gofal y gweithiwr am offer llaw, peiriannau neu offer a chyfarpar
        ategol

Dulliau gweithio

9   cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

        9.1   nodi gofynion y gwaith a'ch rôl alwedigaethol

        9.2   nodi'r math o offer neu beiriannau sydd eu hangen

        9.3   cadarnhau ardal a lleoliad y gwaith, y gweithrediadau, y gofynion diogelwch

        9.4   paratoi, sefydlu a chynnal archwiliadau ar berfformiad yr offer neu'r peiriannau wedi'u cyflawni

        9.5   cyflawni a rheoli gweithrediadau yn unol â'ch rôl a pherfformiad gofynnol offer neu beiriannau

        9.6   stopio, diffodd gweithrediadau a diogelu offer neu beiriannau

        9.7   defnyddio cyfarpar a/neu ategolion 

10   gwaith tîm a chyfathrebu

11   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu a rheoli offer neu beiriannau


Problemau

12      y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

    12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

    12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad


Rhaglen

13      mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd
          amcangyfrifedig

14      gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a
          fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

15      diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau
          cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

16      deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd,
          ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu
          arbenigol o

    16.1 deunyddiau traul, ireidiau, tanwyddau

    16.2 atodiadau

    16.3 deunyddiau palmantu (bitwminaidd; concrit; agregau,
            resinau, pilenni, bocsit calchog, catalydd, cyfryngau
            dopio, ffibrau, pigmentau, resinau, paent preimio)

    16.4 deunyddiau ailgylchu

    16.5 deunyddiau marcio palmentydd

    16.6 cyfarpar/ategolion

17      dulliau o gyfrifo pwysau, swm, hyd ac arwynebedd sy'n
          gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gweithredu a rheoli
          offer neu beiriannau

Gweithdrefnau diogelwch

18      safle, gweithle, cwmni a gweithiwr

Sgiliau

19      eich galwedigaeth eich hun a galwedigaethau sy'n gysylltiedig
          â'r gwaith


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Tach 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR376

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr adeiladu Ffyrdd

Cod SOC

8229

Geiriau Allweddol

Palmant bitwmen; Palmant concrit; Slyri; Microwynebu; Llyfnu wyneb; Gosod wyneb ffrithiant uchel; Ailgylchu ffyrdd; Sefydlogi pridd; Ailweadu wyneb; Marcio palmant; Draenio priffyrdd