Ffurfio a gorffen cloddiadau â llaw

URN: COSVR373
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 31 Awst 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â ffurfio a gorffen cloddiadau â llaw, gan gynnwys cloddio o gwmpas gwasanaethau, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1   dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2   cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3   dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4   cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas

P5   cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion

P6   cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel

K4   deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso

K5   pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a phryd i'w defnyddio

K6   sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7   beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10  sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau

K11  beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12  sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14  pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod

K15  sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16  pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract

K17  sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18  sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd

K19  beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

**Meini Prawf Perfformiad 1** 1   dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
**Meini Prawf Perfformiad 2** 2   osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am bump o'r canlynol:         2.1   dulliau gweithio         2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel         2.3   gweithio gyda gwasanaethau cyfleustodau ac o'u cwmpas, gan gynnwys treiddio'r tir         2.4   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel         2.5   defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel         2.6   risgiau penodol i iechyd
**Meini Prawf Perfformiad 3** 3   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun:         3.1   deunyddiau a chydrannau         3.2   offer a chyfarpar
**Meini Prawf Perfformiad 4** 4   diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5   cynnal lle gweithio clir a thaclus 6   gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
**Meini Prawf Perfformiad 5** 7   dangos sgiliau gwirio, lleoli, mesur, marcio allan, cloddio a sicrhau 8   defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer 9   ffurfio a gorffen cloddiadau â llaw yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
**Meini Prawf Perfformiad 6** 10   cwblhau’ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu’r cleient

Gwybodaeth Cwmpas


Gwaredu gwastraff

1   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

        2.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau

        2.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân

3   dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau


Peryglon

4   y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr, ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

**

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol:

        5.1   mesurau diogelu ar y cyd

        5.2   system awyru a gwacáu leol

        5.3   cyfarpar diogelu personol

        5.4   cyfarpar diogelu anadlol


Gwybodaeth

6   lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ysgrifenedig ac ar lafar, brasluniau, data electronig, trwyddedau, deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol sy’n gysylltiedig â ffurfio a gorffen cloddiadau â llaw


Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7   cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol


Cynnal a chadw

8   gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer 

Dulliau gweithio

9   cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

        9.1  lleoli, gosod, nodi a chadarnhau math o gyfansoddiad yr arwyneb a'r is-wyneb, gan gynnwys dŵr daear

        9.2  bodloni gofynion y cytunwyd arnynt

        9.3  cynllunio, paratoi, gosod allan a marcio cloddiadau

        9.4   symud cyrsiau arwyneb, dodrefn stryd a strwythurau o dan yr wyneb

        9.5   amddiffyn a monitro strwythurau cyfagos

        9.6   cloddio, ffurfio a gorffen tir â llaw

        9.7   adnabod newidiadau yn amodau'r tir, amodau dŵr daear, mathau o bridd a sefydlogrwydd y cloddiadau

        9.8   nodi peryglon llwythi a strwythurau wrth ymyl ffosydd a gloddiwyd

        9.9   canfod a lleoli gwasanaethau cyfleustodau, cloddio o gwmpas gwasanaethau a diogelu

        9.10  monitro a sicrhau cywirdeb wrth i'r gwaith gael ei wneud ac ar ôl iddo gael ei gwblhau

        9.11  adnabod y meini prawf archwilio a phrofi ar gyfer cloddiadau

        9.12  nodi a storio deunyddiau sydd wedi cael eu cloddio ac y mae modd eu hailddefnyddio

        9.13  cadarnhau bod deunyddiau na ellir eu defnyddio yn cael eu gwaredu

        9.14  adnabod bod angen gosod, sicrhau a chael gwared ar gymorth cloddio

        9.15  darparu mynedfeydd ac allanfeydd

        9.16  gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

        9.17  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

        9.18  defnyddio offer llaw a phŵer

        9.19  defnyddio cyfarpar mynediad

        9.20  gweithio ar uchder

10   gwaith tîm a chyfathrebu

11   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â ffurfio a gorffen cloddiadau â llaw


Problemau

12   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio:

        12.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

        12.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad


Rhaglen

13   mathau o dargedau cynhyrchiant, amserlenni

14   y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif

15   gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith


Diogelu gwaith

16   diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

17   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol:

        17.1  cyfarpar cloddio

        17.2  offer llaw a phŵer

18   ffyrdd o gadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

19   dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd, cyfaint a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer ffurfio a gorffen cloddiadau â llaw


Gweithdrefnau diogelwch

20   safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Gweithio'n ddiogel: ystyried eich diogelwch eich hun a'r bobl o'ch cwmpas, herio ymddygiad anniogel

Cyfathrebu'n effeithiol: ar lafar, yn ysgrifenedig, yn electronig, gwrando, iaith y corff, cyflwyno

  1. Parch: cymhwyso egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth ddelio ag eraill

Gweithio fel tîm: gweithio'n effeithiol ac yn ddiogel gydag eraill heb lawer o oruchwyliaeth

  1. Gweithio'n annibynnol: cymryd cyfrifoldeb am gwblhau'ch gwaith eich hun yn ddiogel

Meddwl yn rhesymegol: meddwl mewn ffordd glir a dilys wrth wneud penderfyniadau er mwyn dilyn y cyfarwyddiadau gwaith yn ddiogel

  1. Gweithio'n effeithiol: gwneud y gwaith mewn ffordd ddibynadwy, diogel a chynhyrchiol

Rheoli amser: defnyddio'ch amser eich hun yn effeithiol er mwyn cwblhau'r gwaith mewn pryd, cymryd yr amser i fod yn ddiogel

  1. Bod â'r gallu i addasu: gallu addasu i newidiadau i'r cyfarwyddiadau gweithio, rhoi diogelwch yn gyntaf


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Medi 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR373

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu, Adeiladu Ffyrdd

Cod SOC

8142, 8149

Geiriau Allweddol

Strwythurau dan yr wyneb; Cyfarpar cloddio; Cloddiadau; Cymorth cloddio