Gosod, cynnal a chadw a chael gwared ar gymorth cloddio dros dro
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod, cynnal a chadw a chael gwared ar gymorth cloddio dros dro, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 Dehongli gwybodaeth K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn |
Meini Prawf Perfformiad 2 K4 deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a phryd i'w defnyddio K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol |
Meini Prawf Perfformiad 3 K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain |
Meini Prawf Perfformiad 4 K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn |
Meini Prawf Perfformiad 5 K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar |
Meini Prawf Perfformiad 6 K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**Meini Prawf Perfformiad 1** 1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud |
**Meini Prawf Perfformiad 2** 2. osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am bump o'r canlynol 2.1 dulliau gweithio 2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel 2.3 gweithio gyda gwasanaethau cyfleustodau ac o'u cwmpas, gan gynnwys treiddio'r tir 2.4 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 2.5 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel 2.6 risgiau penodol i iechyd |
**Meini Prawf Perfformiad 3** 3. dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun 3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau 3.2 offer a chyfarpar |
**Meini Prawf Perfformiad 4** 4. diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5. cynnal lle gweithio clir a thaclus 6. gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol |
**Meini Prawf Perfformiad 5** 7. dangos sgiliau mesur, marcio allan, paratoi, gosod, lleoli, ffitio, cefnogi, rhoi'n sownd, sicrhau, datgysylltu a thynnu 8. defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer 9. gosod, cynnal a chadw a chael gwared ar gymorth cloddio dros dro yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir sy'n ymwneud ag o leiaf un o'r canlynol 9.1 system berchnogol 9.2 systemau cefnogi agored a chaeedig 9.3 systemau gosod seilbyst 9.4 systemau cymorth pwrpasol |
**Meini Prawf Perfformiad 6** 10. cwblhau’ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu’r cleient |
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
- cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Diffoddwyr tân
- dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau
Peryglon
- y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr, ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
**
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 system awyru a gwacáu leol
5.3 cyfarpar diogelu personol
5.4 cyfarpar diogelu anadlol
Gwybodaeth
- lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ysgrifenedig ac ar lafar, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â gosod, cynnal a chadw a chael gwared ar gymorth cloddio dros dro
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
- cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw
- gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer
Dulliau gweithio
cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 adnabod mathau o gymorth dros dro ar gyfer cloddiadau
9.2 bodloni gofynion y cytunwyd arnynt
9.3 cynllunio, paratoi a gosod deunyddiau allan ar gyfer gosod y cymorth cloddio a diogelu'r ymylon
9.4 symud cyrsiau arwyneb, gwaith haearn, cydrannau modiwlaidd, dodrefn stryd a strwythurau o dan yr wyneb
9.5 adnabod newidiadau yn amodau'r tir, amodau dŵr daear, mathau o bridd a sefydlogrwydd y cloddiadau
9.6 nodi peryglon llwythi a strwythurau wrth ymyl ffosydd a gloddiwyd
9.7 canfod a lleoli gwasanaethau cyfleustodau, cloddio o gwmpas gwasanaethau a diogelu
9.8 adnabod y meini prawf archwilio a phrofi ar gyfer systemau cynnal cloddiadau
9.9 darparu mynedfa ac allanfa diogel i'r gwaith cloddio ac o amgylch y gwaith cloddio dros dro
9.10 amddiffyn a monitro strwythurau cyfagos
9.11 cloddio â llaw i osod, cynnal a chadw a chael gwared â'r cymorth cloddio
9.12 adeiladu, codi a gosod gwaith cloddio dros dro wrth i'r gwaith cloddio fynd rhagddo ac ar ôl ei gwblhau, gan gynnwys:
- systemau perchnogol sy'n cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny: blwch llusgo, blwch ffos a thwll caead
- systemau cefnogi agored a chaeedig
- systemau gosod seilbyst sy'n cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny: wal ddiaffram, dalennau ffosydd, dalennau seilbyst, cymorth secant a chymorth cyffiniol
- systemau cymorth pwrpasol
9.13 monitro a sicrhau cywirdeb ar ddechrau'r gwaith, yn ystod y gwaith ac ar ôl iddo gael ei gwblhau
9.14 gweithio gyda pheiriannau, gan gynnwys cyfarpar codi, yn ogystal â gweithio o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
9.15 archwilio a chynnal cadernid a diogelwch y strwythurau cymorth dros dro
9.16 datgysylltu a thynnu'r strwythur cymorth cloddio
9.17 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
9.18 defnyddio offer llaw a phŵer
9.19 gweithio ar uchder ac mewn mannau cyfyng
9.20 defnyddio cyfarpar mynediad
10. gwaith tîm a chyfathrebu
11. anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod, cynnal a chadw a chael gwared ar gymorth cloddio dros dro
Problemau
12. y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13. mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
14. y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
15. gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
16. diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
Adnoddau
17. deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol
17.1 systemau perchnogol
17.2 systemau cefnogi agored a chaeedig
17.3 systemau gosod seilbyst
17.4 systemau cymorth pwrpasol
17.5 dyfeisiau gosod
17.6 offer llaw a phŵer
18. ffyrdd o gadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
19. dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod, cynnal a chadw a chael gwared ar gymorth cloddio dros dro
Gweithdrefnau diogelwch
20. safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Gweithio'n ddiogel: ystyried eich diogelwch eich hun a'r bobl o'ch cwmpas, herio ymddygiad anniogel
Cyfathrebu'n effeithiol: ar lafar, yn ysgrifenedig, yn electronig, gwrando, iaith y corff, cyflwyno
Parch: cymhwyso egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth ddelio ag eraill
Gweithio fel tîm: gweithio'n effeithiol ac yn ddiogel gydag eraill heb lawer o oruchwyliaeth
Gweithio'n annibynnol: cymryd cyfrifoldeb am gwblhau'ch gwaith eich hun yn ddiogel
Meddwl yn rhesymegol: meddwl mewn ffordd glir a dilys wrth wneud penderfyniadau er mwyn dilyn y cyfarwyddiadau gwaith yn ddiogel
Gweithio'n effeithiol: gwneud y gwaith mewn ffordd ddibynadwy, diogel a chynhyrchiol
Rheoli amser: defnyddio'ch amser eich hun yn effeithiol er mwyn cwblhau'r gwaith mewn pryd, cymryd yr amser i fod yn ddiogel
Bod â'r gallu i addasu: gallu addasu i newidiadau i'r cyfarwyddiadau gweithio, rhoi diogelwch yn gyntaf