Gosod brics a blociau’n unol â llinell

URN: COSVR37
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Trywel (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod brics a blociau'n unol â llinell, gorffen uniadau, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau
Trywel a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.



Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K9 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K10 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K11 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw
broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K12 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K13 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K14 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K15 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K16 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K17 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K18 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal lle gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, lefelu, plymio a gosod
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
9 gosod o leiaf ddau o'r dilynol yn unol â llinell a gorffen uniadau yn ôl yr angen yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 gwaith brics
9.2 gwaith blociau
9.3 gwaith blociau uniad tenau
9.4 deunyddiau lleol

Meini Prawf Perfformiad 6

10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon

3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
4.1 mesurau diogelu ar y cyd
4.2 cyfarpar diogelu personol
4.3 cyfarpar diogelu anadlol
4.4 system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

5 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n gysylltiedig â gosod brics, blociau a deunyddiau lleol yn unol â llinell

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer a chyfarpar

Dulliau gweithio

8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
8.1 gosod brics cyffredin, brics wynebu, blociau a gwaith blociau uniad tenau'n unol â llinell
8.2 gosod deunyddiau lleol yn unol â llinell
8.3 nodi mathau o frics a blociau
8.4 lleoli a gosod rhwystrau atal lleithder, systemau clogyn a hambyrddau ceudod
8.5 ffurfio ceudodau a chynnal eu cyfanrwydd
8.6 lleoli, bondio a thapio deunyddiau inswleiddio
8.7 lleoli a sicrhau clymau waliau, gan gynnwys eu gwahanu, yn enwedig o gwmpas agoriadau a chwyddgymalau
8.8 ffurfio a gosod tyllau diferu a fentiau
8.9 gorffen uniadau, gan gynnwys defnyddio systemau pwyntio
mecanyddol
8.10 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
8.11 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod
8.12 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
8.13 defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
8.14 gweithio ar uchder
8.15 defnyddio cyfarpar mynediad
9 gwaith tîm a chyfathrebu
10 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod brics, blociau a deunyddiau lleol yn unol â llinell

Problemau

11 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
11.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
11.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

12 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni
13 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu
arbenigol o
16.1 brics, blociau, morter, cymysgiadau uniad tenau, clymau waliau, cyrsiau a philenni atal lleithder, systemau clogyn, hambyrddau ceudod a deunydd inswleiddio
16.2 ffitiadau a gosodiadau
16.3 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar
17 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
18 dulliau o gyfrifo nifer, swm, hyd ac arwynebedd y deunyddiau, yn ogystal â'r deunyddiau a fydd yn cael eu gwastraffu, mewn cysylltiad â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod brics, blociau a deunyddiau lleol yn unol â llinell

Gweithdrefnau diogelwch

19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Construction Skills

URN gwreiddiol

COSVR37

Galwedigaethau Perthnasol

Gosod Brics a Saernïo

Cod SOC

5312

Geiriau Allweddol

Brics cyffredin; Brics wynebu; Cyrsiau atal lleithder; Pilenni atal lleithder; Uniad tenau; Morter; Clymau waliau; Gorffen uniadau