Gosod cyrbiau a sianeli ffurf barod

URN: COSVR368
Sectorau Busnes (Suites): Adeiladu a Chynnal a Chadw Ffyrdd
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, paratoi ar gyfer gosod ac adfer cyrbiau ffurf barod (carreg naturiol wedi’i chastio a’i pharatoi ymlaen llaw), sianeli a systemau cyrbiau a draenio cyfun

 

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd, a gweithrediadau adeiladu a pheirianneg sifil, a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1   dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2   cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3   dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4   cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas

P5   cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion

P6   cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

 Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1   pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2   pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith dioge

K4   faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5   sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6   beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7   beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8   pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9   sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau

K10   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod

K14   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract

K16   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd

K18   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

**Meini Prawf Perfformiad 1** 1      dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
**Meini Prawf Perfformiad 2** 2      osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol         2.1   dulliau gweithio         2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel         2.3   defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel         2.4   risgiau penodol i iechyd         2.5   pobl eraill y mae'r gwaith yn effeithio arnynt
**Meini Prawf Perfformiad 3** 3      dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun         3.1   deunyddiau a chydrannau         3.2   offer a chyfarpar
**Meini Prawf Perfformiad 4** 4      diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod 5      cynnal lle gweithio clir a thaclus 6      gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
**Meini Prawf Perfformiad 5** 7      dangos sgiliau mesur, marcio allan, torri, lleoli, lefelu, alinio, cywasgu, selio a gorffen 8      defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol 9      gosod cyrbiau a/neu sianeli a/neu systemau cyrbiau a draenio cyfun yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
**Meini Prawf Perfformiad 6** 10   cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient

Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

  1.   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

*
*

Argyfyngau

  1.   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

            2.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau

            2.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

*
*

Peryglon

  1.   y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

  1.   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

            4.1   mesurau diogelu ar y cyd

            4.2   cyfarpar diogelu personol

            4.3   cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth**

  1.   lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau llafar, ysgrifenedig a graffigol, a rheoliadau cyfredol ar gyfer gosod cyrbiau a sianeli ffurf barod

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

  1.   mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy godi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

  1.   gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio

  1.   cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

            8.1   cadarnhau ardal a lleoliad y gwaith, y gweithrediadau, y gofynion diogelwch, gan gynnwys rheoli traffig dros dro a diogelu'r ardal ar unwaith

            8.2   nodi gwahanol fathau o gyrbiau, sianeli a systemau cyrbiau a draenio cyfun

            8.3   bodloni gofynion y cytunwyd arnynt

            8.4   gosod yr ardal allan a pharatoi'r is-haen a'r sylfaen ar gyfer gosod cyrbiau, sianeli a systemau cyrbiau a draenio cyfun

            8.5   gosod ac alinio cyrbiau, sianeli a systemau cyrbiau a draenio cyfun yn unol â'r gofynion angenrheidiol

            8.6   marcio a thorri cyrbiau, sianeli a systemau cyrbiau a draenio cyfun

            8.7   gweithio o gwmpas dodrefn stryd a gwaith haearn

            8.8   diogelu gwaith gorffenedig ar gyfer y broses galedu

            8.9   delio â phobl eraill y mae'r gwaith yn effeithio arnynt

            8.10  dychwelyd seilwaith i statws gweithredol

            8.11  nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

            8.12  defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar

  2.   gwaith tîm a chyfathrebu

10.  anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod cyrbiau, sianeli a systemau cyrbiau a draenio cyfun wedi'u ffurfio'n barod

Problemau

11.  y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

        11.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

        11.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

12.  mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni

13.  y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif

14.  gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

15.  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

16.  deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol:

        16.1  tywod, sment, agregau, ychwanegion, deunyddiau selio a resinau

        16.2  cyrbiau, sianeli a systemau cyrbiau a draenio cyfun

        16.3  offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol

17.  nodi drwy gyfrifo nifer, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod cyrbiau, sianeli a systemau cyrbiau a draenio wedi'u ffurfio'n barod

Gweithdrefnau diogelwch

18.  safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR368

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu, Adeiladu Ffyrdd

Cod SOC

8142, 8149

Geiriau Allweddol

Cyrbiau; Sianeli; Systemau cyrbiau a draenio cyfun