Dodi, gosod neu ddefnyddio deunyddiau cysylltiedig ag adeiladu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dodi, gosod neu ddefnyddio’r deunyddiau adeiladu canlynol: uwchbridd neu is-bridd, llenwad gronynnog, llenwad glynol, concrit, deunyddiau smentaidd, deunyddiau bitwminaidd a geodecstiliau, fel unigolyn neu aelod o dîm, gan ddehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Meini Prawf Perfformiad 1 Dehongli gwybodaeth K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn |
Meini Prawf Perfformiad 2 K4 deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt eu cymhwyso K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a phryd i'w defnyddio K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol |
** Meini Prawf Perfformiad 3** K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain |
Meini Prawf Perfformiad 4 K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn |
Meini Prawf Perfformiad 5 K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar |
Meini Prawf Perfformiad 6 K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser |
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r canlynol:
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun:
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal lle gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau gosod allan, dodi, cywasgu, lefelu a gorffen
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer
9 dodi, gosod neu ddefnyddio o leiaf dri o'r deunyddiau adeiladu canlynol ar eich pen eich hun neu gydag eraill yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir:
9.1 uwchbridd neu is-bridd
9.2 llenwad gronynnog
9.3 llenwad glynol
9.4 concrit
9.5 deunyddiau smentaidd
9.6 deunyddiau bitwminaidd
9.7 geodecstiliau
Meini Prawf Perfformiad 6
10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff 1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
* 2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol 2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau 2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol |
* 3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau |
* 4 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr, ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol |
* 5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol: 5.1 mesurau diogelu ar y cyd 5.2 system awyru a gwacáu leol 5.3 cyfarpar diogelu personol 5.4 cyfarpar diogelu anadlol |
* 6 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ysgrifenedig ac ar lafar, brasluniau, data electronig, rheoliadau cyfredol a chanllawiau swyddogol sy'n ymwneud â dodi, gosod neu ddefnyddio deunyddiau cysylltiedig ag adeiladu |
* 7 cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol |
* 8 gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer |
* 9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i 9.1 cynllunio, gosod allan, dodi, gosod, defnyddio, cywasgu a gorffen y deunyddiau canlynol: uwchbridd ac isbridd, llenwad gronynnog, llenwad glynol, concrit, deunyddiau smentaidd, deunyddiau bitwminaidd a geodecstiliau |
* 12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio: 12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa 12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad |
* 13 mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni 14 y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif 15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith |
* 16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw |
* 17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol: 17.1 concrit, sgrîd, is-sylfaen, agreg, deunyddiau bitwminaidd a geodecstiliau 17.2 offer llaw a phŵer 18 ffyrdd o gadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion 19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd, cyfaint a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer dodi, gosod neu ddefnyddio deunyddiau cysylltiedig ag adeiladu |
* 20 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau |
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1 Gweithio'n ddiogel: ystyried eich diogelwch eich hun a'r bobl o'ch cwmpas, herio ymddygiad anniogel
2 * Cyfathrebu'n effeithiol:* ar lafar, yn ysgrifenedig, yn electronig, gwrando, iaith y corff, cyflwyno
3 * Parch:* cymhwyso egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth ddelio ag eraill
4 * Gweithio fel tîm:* gweithio'n effeithiol ac yn ddiogel gydag eraill heb lawer o oruchwyliaeth
5 * Gweithio'n annibynnol:* cymryd cyfrifoldeb am gwblhau'ch gwaith eich hun yn ddiogel
6 * Meddwl yn rhesymegol:* meddwl mewn ffordd glir a dilys wrth wneud penderfyniadau er mwyn dilyn y cyfarwyddiadau gwaith yn ddiogel
7 * Gweithio'n effeithiol:* gwneud y gwaith mewn ffordd ddibynadwy, diogel a chynhyrchiol
8 * Rheoli amser:* defnyddio'ch amser eich hun yn effeithiol er mwyn cwblhau'r gwaith mewn pryd, cymryd yr amser i fod yn ddiogel
9 * Bod â'r gallu i addasu:* gallu addasu i newidiadau i'r cyfarwyddiadau gweithio, rhoi diogelwch yn gyntaf