Torri, drilio a siapio deunyddiau cysylltiedig ag adeiladu

URN: COSVR361
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 01 Rhag 2020

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â thorri, drilio a siapio’r deunyddiau adeiladu canlynol: deunyddiau cyfansawdd, plastig, gwaith maen, clai gwydrog, metel, pren a deunyddiau seiliedig ar bren, deunyddiau smentaidd, deunyddiau bitwminaidd a geodecstiliau, fel unigolyn neu aelod o dîm, gan ddehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar 

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol Gweithrediadau Adeiladu a Pheirianneg Sifil a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1   dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2   cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a            chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3   dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4   cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas

P5   cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y        gwaith yn effeithlon yn unol â’r gofynion

P6   cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
*
Dehongli gwybodaeth*

K1    pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am
        wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â’u
        cywiro, a sut i'w gweithredu
K2    pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut
         i’w dehongli
K3    beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r
        wybodaeth a pham mae’n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
*
K4    *deddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut cânt
        eu cymhwyso
K5    pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i’w
        defnyddio
K6    sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K7    beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer,
        cyfarpar ac eiddo personol
K8    beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a
        phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9    pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a
        diogelwch
K10  sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er
        mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau
        swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
*
K11   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd,
         cyfyngiadau a diffygion yr *
adnoddau
a sut y dylid cywiro diffygion
K12   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw
         broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K13   beth yw gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau,
         pam y cawsant eu datblygu a sut i’w defnyddio
K14   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dul*l*iau gweithio
         a sut i ddelio â’r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
*
K15   sut i *ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K16   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K17   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni’r gofynion a sut
         i adrodd am broblemau
K18   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
*
K19   beth yw'r *rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser
         amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau
         amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1    dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg,datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2    osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am o leiaf bedwar o'r canlynol

        2.1   dulliau gweithio

        2.2   defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

        2.3   defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel 

        2.4   defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

        2.5   risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3   dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

        3.1   deunyddiau, cydrannau a gosodiadau 

        3.2   offer a chyfarpar 

Meini Prawf Perfformiad 4

4    diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod

5    cynnal lle gweithio clir a thaclus

6    gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7    dangos sgiliau mesur, marcio allan, lleoli, sicrhau, trychu, torri, drilio a siapio

8     defnyddio a chynnal a chadw offer llaw a phŵer 

9     dewis offer i dorri, drilio a siapio o leiaf bedwar o’r deunyddiau canlynol ar gyfer llinellu neu farcio yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

        9.1   deunyddiau cyfansawdd

        9.2   plastig

        9.3   gwaith maen

        9.4   clai gwydrog

        9.5   metel

        9.6   pren a deunyddiau seiliedig ar bren

        9.7   deunyddiau smentaidd 

        9.8   deunyddiau bitwminaidd

        9.9   geodecstiliau

** ** **Meini Prawf Perfformiad 6** 10    cwblhau’ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a         neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu’r         cleient

Gwybodaeth Cwmpas

​Gwaredu gwastraff

1   cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau’r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
*
*

Argyfyngau

2   ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

        2.1   tanau, gollyngiadau ac anafiadau

        2.2   argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân

3   dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau

Peryglon

4   y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr, ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5   y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a’r amgylchedd gwaith cyffredinol

        5.1   mesurau diogelu ar y cyd

        5.2   system awyru a gwacáu leol

        5.3   cyfarpar diogelu personol

        5.4   cyfarpar diogelu anadlol

**Gwybodaeth** 6   lluniadau, gofynion, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, trwyddedau, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, cyfarwyddiadau ysgrifenedig ac ar lafar, brasluniau, data electronig, canllawiau swyddogol sy'n ymwneud â thorri, drilio a siapio deunyddiau cysylltiedig ag adeiladu **Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol**

7    cyfrifoldebau gweithiwr o ran damweiniau posibl, peryglon iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol 

Cynnal a chadw

8    gofal y gweithiwr am offer llaw a phŵer 

**Dulliau gweithio** 9   cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i wneud y canlynol         9.1   cynllunio, marcio a gosod allan ar gyfer torri, trychu, drilio a siapio         9.2   bodloni gofynion y cytunwyd arnynt         9.3   torri, drilio, siapio a pharatoi deunyddiau cyfansawdd, plastig, gwaith maen, clai gwydrog, pren a deunyddiau seiliedig ar bren, deunyddiau smentaidd, deunyddiau bitwminaidd a geodecstiliau i'w defnyddio         9.4   defnyddio offer torri, drilio a siapio safonol ac arbenigol         9.5   newid llafnau ac ebillion torri, drilio a siapio         9.6   atal a rheoli llwch, mygdarth a gweddillion         9.7   monitro a sicrhau cywirdeb wrth i'r gwaith gael ei wneud ac ar ôl iddo gael ei gwblhau         9.8   adnabod peryglon sydd heb eu nodi o'r blaen wrth dorri, drilio a siapio         9.9   nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol         9.10  defnyddio offer llaw a phŵer          9.11  gweithio ar uchder         9.12  defnyddio cyfarpar mynediad 10   gwaith tîm a chyfathrebu 11   anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â thorri, drilio a siapio deunyddiau cysylltiedig ag adeiladu **Problemau** 12   y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio         12.1   eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa         12.2   gweithdrefnau adrodd y sefydliad
**Rhaglen** 13    mathau o dargedau cynhyrchiant ac amserlenni 14    y ffordd y mae amseroedd yn cael eu hamcangyfrif 15    gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a         fydd yn effeithio ar y rhaglen waith **Diogelu gwaith** 16    diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw **Adnoddau** 17   deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol ac arbenigol o'r canlynol         17.1   deunyddiau cyfansawdd, plastig, gwaith maen, clai gwydrog, metel, pren, deunyddiau seiliedig ar bren, deunyddiau smentaidd, deunyddiau bitwminaidd a geodecstiliau          17.2   jigiau a chlampiau         17.3   llafnau ac ebillion         17.4   offer llaw a phŵer 18   ffyrdd o gadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion 19   dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer torri, drilio a siapio deunyddiau cysylltiedig ag adeiladu **Gweithdrefnau diogelwch** 20   safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau

Gwerthoedd


Ymddygiadau

1   Gweithio’n ddiogel: ystyried eich diogelwch eich hun a’r bobl o’ch
     cwmpas, herio ymddygiad anniogel

2   Cyfathrebu’n effeithiol: ar lafar, yn ysgrifenedig, yn electronig,
     gwrando, iaith y corff, cyflwyno

3   Parch: cymhwyso egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a
     chynhwysiant wrth ddelio ag eraill

4   Gweithio fel tîm: gweithio’n effeithiol ac yn ddiogel gydag eraill heb
     lawer o oruchwyliaeth

5   Gweithio’n annibynnol: cymryd cyfrifoldeb am gwblhau’ch gwaith
     eich hun yn ddiogel

6   Meddwl yn rhesymegol: meddwl mewn ffordd glir a dilys wrth
     wneud penderfyniadau er mwyn dilyn y cyfarwyddiadau gwaith yn
     ddiogel

7   Gweithio’n effeithiol: gwneud y gwaith mewn ffordd ddibynadwy,
     diogel a chynhyrchiol

8   Rheoli amser: defnyddio’ch amser eich hun yn effeithiol er mwyn
     cwblhau’r gwaith mewn pryd, cymryd yr amser i fod yn ddiogel

9   Bod â’r gallu i addasu: gallu addasu i newidiadau i’r
     cyfarwyddiadau gweithio, rhoi diogelwch yn gyntaf


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Rhag 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR361

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Adeiladu Elfennol

Cod SOC

9120

Geiriau Allweddol

Deunyddiau cyfansawdd; Gwaith maen; Clai gwydrog; Deunyddiau smentaidd; Metel; Deunyddiau bitwminaidd; Pren; Geodecstiliau