Gosod cydosodiadau drysau pren a setiau drysau sy’n gwrthsefyll tân

URN: COSVR358
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Coed (Adeiladu),Galwedigaethau Gwasanaethau Diwydiannol Cysylltiedig (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 29 Meh 2016

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar a pharatoi a gosod cydosodiadau drysau pren a setiau drysau sy'n gwrthsefyll tân

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes galwedigaethol diogelwch tân goddefol a choed a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis nifer yr adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr
 adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Meini Prawf Perfformiad 1
*Dehongli gwybodaeth*

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r
 wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

**

Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel**

K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K6 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K7 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K8 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K9   sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r d*deddfwriaeth* gyfredol a chanllawiau swyddogol

*
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
*

K10   beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K11   sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K12   beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K13   pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

*
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
*

K14   sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K15   pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

*
Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
*

K16   sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K17   sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

**

Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd**

K18   beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, cyfarwyddiadau gweithio, dogfennaeth/tystysgrifau perfformiad tân a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

2.1 dulliau gweithio

2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio'n ddiogel

2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1    deunyddiau, cydrannau a gosodiadau

3.2    offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5 cynnal lle gweithio glân

6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau mesur, marcio allan, drilio, gosod, selio, torri, ffitio, gosod, gorffen, lleoli a sicrhau

8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

9 paratoi a gosod cydosodiadau drysau pren a setiau drysau sy'n gwrthsefyll tân yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir a'r gofynion

Meini Prawf Perfformiad 6
10  cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Peryglon
3 y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
4 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

4.1 mesurau diogelu ar y cyd

4.2 system awyru a gwacáu leol

4.3 cyfarpar diogelu personol

4.4 cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth
5 lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, cyfarwyddiadau gweithio, dogfennaeth/tystysgrifau perfformiad tân, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol, rheoliadau adeiladu cyfredol, Codau Ymarfer a dogfennau canllaw

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
6 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau, codi a chario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw
7 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol
* *

Dulliau gweithio
8 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

8.1 sicrhau cydymffurfiaeth â dogfennaeth/tystysgrifau perfformiad tân
8.2 sicrhau nad oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud a all effeithio ar dystysgrif tân y drws
8.3 sicrhau bod yr adeiladwaith o gwmpas yn bodloni'r gofynion
8.4 sicrhau bod yr holl gydrannau heb eu difrodi
8.5 gosod fframiau drws â gosodiadau a seliau diffiniedig yn unol â'r gofynion
8.6 paratoi a gosod cydosodiadau drysau pren a setiau drysau sy'n gwrthsefyll tân yn unol â'r gofynion
8.7 llenwi gwagleoedd (waliau a fframiau) â diogelwch chwyddedig yn unol â'r gofynion
8.8 gosod dalennau â gosodiadau a seliau diffiniedig yn unol â'r gofynion
8.9 gosod seliau mwg oer yn unol â'r gofynion
8.10 gosod seliau chwyddedig yn unol â'r gofynion
8.11 cadarnhau bod y diogelwch chwyddedig a nodwyd wedi'i osod ar waith haearn/dodrefn
8.12 ffitio'r gwaith haearn/dodrefn a nodwyd gan sicrhau eu bod yn cael eu gosod mewn ffordd sy'n cydymffurfio
8.13 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
8.14 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt
8.15 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
8.16 gweithio ar uchder
8.17 defnyddio cyfarpar mynediad/platfformau gweithio
9  dealltwriaeth o oblygiadau gosod yn anghywir
10 dealltwriaeth o ofynion gwrthsefyll tân
11 gwaith tîm a chyfathrebu
12 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod cydosodiadau drysau pren a setiau drysau sy'n gwrthsefyll tân

Problemau
13  y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

13.1  eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

13.2  gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen
14 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith
16  diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau
17  deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

17.1 gwybodaeth gosod gan weithgynhyrchwyr
17.2 drysau tân
17.3 fframiau drysau tân
17.4 gosodiadau, gwaith haearn a dodrefn
17.5 seliau chwyddedig a seliau mwg oer
17.6 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar
18 cymharu'r holl ddeunyddiau a chydrannau â'r ddogfennaeth/tystysgrifau perfformiad tân
19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gosod cydosodiadau drysau pren a setiau drysau sy'n gwrthsefyll tân 

Gweithdrefnau diogelwch
20  safle, gweithle, cwmni a gweithiwr


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Meh 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR358

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr adeiladu Ffyrdd

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Setiau drysau sy’n gwrthsefyll tân; Dalennau; Seliau mwg oer; Seliau chwyddedig; Yn gwrthsefyll tân; Gwaith haearn