Gosod nenfydau sy’n gwrthsefyll tân

URN: COSVR356
Sectorau Busnes (Suites): Galwedigaethau Gwasanaethau Diwydiannol Cysylltiedig (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 30 Meh 2017

Trosolwg

​​Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, paratoi a gosod nenfydau sy'n gwrthsefyll tân ac atgyweirio nenfydau o'r fath sydd wedi'u difrodi.

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes diogelwch tân goddefol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1  dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2  cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3  dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4  cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5  cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6  cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​​​​

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1  pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2  pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3  beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

K4  faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5  pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio

K6  sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7  beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8  beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9  pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Meini Prawf Perfformiad 1

1  dehongli lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, cyfarwyddiadau gweithio, dogfennaeth/tystysgrifau perfformiad tân a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2  osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

2.1 dulliau gweithio a rheoli diogelwch

2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3 defnyddio, storio a thrin cyfarpar mynediad, platfformau gweithio ac offer yn ddiogel

2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau'n ddiogel

2.5 risgiau penodol i iechyd a'r amgylchedd

Meini Prawf Perfformiad 3

3  dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau

3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4  diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5  cynnal lle gweithio glân

6  gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7  dangos sgiliau mesur, marcio allan, torri, ffitio, gorffen, gosod a sicrhau

8  defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

9  gosod nenfydau sy'n gwrthsefyll tân allan, gan gynnwys eu gosod a'u hatgyweirio, yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

Meini Prawf Perfformiad 6

10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

Gwaredu gwastraff

1  cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2  ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân

3  dŵr, CO2, ewyn a phowdr a'u defnyddiau

Peryglon

4  y rhai hynny a nodir drwy asesiad risg, fel rhan o ddull gweithio, yng

ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau

statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5  y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

5.1 mesurau diogelu ar y cyd

5.2 system awyru a gwacáu leol

5.3 cyfarpar diogelu personol

5.4 cyfarpar diogelu anadlol

Gwybodaeth

6  lluniadau, gofynion, amserlenni, datganiadau dull, asesiadau risg, cyfarwyddiadau gweithio, dogfennaeth/tystysgrifau perfformiad tân, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, Codau Ymarfer, dogfennau canllaw a rheoliadau/canllawiau cyfredol sy'n ymwneud â gosod nenfydau sy'n gwrthsefyll tân mewn adeiladau

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7  mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud/storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

8  gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar ategol

Dulliau gweithio

9  cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull/maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1 deall swyddogaeth nenfwd sy'n gwrthsefyll tân, pwyntiau methu cyffredin a goblygiadau gosod yn anghywir

9.2 nodi a bodloni gofynion ansawdd ar gyfer gosod

9.3 sicrhau cyfanrwydd ac addasrwydd yr is-haen

9.4 gosod nenfydau sy'n gwrthsefyll tân allan, gan gynnwys eu gosod a'u

sicrhau

9.5 atgyweirio nenfydau sy'n gwrthsefyll tân a ddifrodwyd

9.6 deall cydrannau penodol y system

9.7 deall effeithiau'r cysylltiadau generig rhwng mathau o systemau

9.8 darparu eitemau 'ail gam gosod'

9.9 deall sut i greu'r gorffeniad cywir i wrthsefyll tân

9.10 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

9.11 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol

9.12 gweithio gyda pheiriannau, o'u cwmpas ac yn agos iawn atynt

9.13 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu

9.14 defnyddio offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar a sicrhau bod prawf dyfeisiau cludadwy priodol wedi'i wneud ar gyfarpar trydanol

9.15 gweithio ar uchder

9.16 defnyddio cyfarpar mynediad

10 gofynion gwrthsefyll tân

11 gwaith tîm a chyfathrebu

12 anghenion gwaith arall sy'n cael ei wneud yn agos i'r man gweithio

Problemau

13 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

13.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

13.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

14 y gallu i gwblhau gwaith mewn pryd

15 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

16 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw

Adnoddau

17 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu arbenigol o

17.1 onglau a sianeli dur, systemau cynnal a stydiau

17.2 deunyddiau fframio, byrddau, deunydd inswleiddio, gosodiadau a

ffitiadau

17.3 offer llaw, offer pŵer cludadwy a chyfarpar

18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd, arwynebedd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull/gweithdrefn ar gyfer gosod nenfydau sy'n gwrthsefyll tân

Gweithdrefnau diogelwch

20 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr, cerbydau ac offer


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Awst 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

COSVR356

Galwedigaethau Perthnasol

Adeiladu

Cod SOC

8149

Geiriau Allweddol

Rhwystrau tân