Paratoi arwynebau drwy eu glanhau â deunydd sgrafellog
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a glanhau arwynebau â deunydd sgrafellog a chynnal a chadw'r cyfarpar, diogelu'r man gweithio, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
**
Meini Prawf Perfformiad 6**
Amser a neilltuwyd
K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, rheoliadau cyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd gan gynnwys risgiau a berir gan blwm a deunyddiau cotio diwydiannol eraill sy'n bresennol
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal man gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau cydosod, paratoi, llwytho, cyfathrebu, lleoli, proffilio, llenwi, edrych, ffitio, gosod, diffodd, diogelu a glanhau â deunydd sgrafellog
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer, cyfarpar glanhau â deunydd sgrafellog a chyfarpar ategol
9 gosod cyfarpar glanhau â deunydd sgrafellog
10 gweithredu cyfarpar glanhau â deunydd sgrafellog drwy wneud y canlynol i gyrraedd y safonau gofynnol a nodir yn y cyfarwyddiadau gweithio a roddir
10.1 paratoi'r deunydd sgrafellog
10.2 llwytho'r system
10.3 monitro a chynnal y cyflenwad
11 paratoi'r arwynebau dilynol drwy ddefnyddio dau fath o ddeunydd sgrafellog ar gyfer pob un i sicrhau'r proffil a nodir
11.1 arwynebau metel
11.2 arwynebau bricwaith
12 diffodd a glanhau cyfarpar glanhau â deunydd sgrafellog
13 datgysylltu cyfarpar glanhau â deunydd sgrafellog
Meini Prawf Perfformiad 6
14 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
Diffoddwyr tân
3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr
Peryglon
4 y rhai hynny a nodir drwy asesiadau risg, mewn datganiadau dull, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 cyfarpar diogelu personol
5.3 cyfarpar diogelu anadlol
5.4 system awyru a gwacáu leol
Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gofynion galwedigaethol
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd, pobl a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw
8 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer, cyfarpar glanhau â deunydd sgrafellog a chyfarpar ategol
Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 cadarnhau gofynion mynediad
9.2 cadarnhau amodau atmosfferig addas
9.3 cadarnhau gofynion goleuo
9.4 masgio arwynebau
9.5 cydosod cydrannau
9.6 nodi a pharatoi deunyddiau sgrafellog
9.7 trefnu bod gweithwyr a'r cyhoedd wedi'u diogelu rhag gweithrediadau glanhau â deunydd sgrafellog
9.8 paratoi, llwytho, gweithredu, cynnal (tra bydd yn cael ei ddefnyddio) a monitro cyfarpar glanhau â deunydd sgrafellog
9.9 monitro effaith deunydd sgrafellog ar arwyneb er mwyn cyrraedd safonau paratoi, proffilio a glanhau gofynnol
9.10 cael gwared â haenau gwenwynig a haenau diwenwyn ar arwynebau
9.11 monitro cyfanrwydd cyfarpar diogelu personol/cyfarpar diogelu anadlol wrth weithio
9.12 gwerthuso halogyddion ar arwynebau sydd newydd gael eu glanhau â deunydd sgrafellog a/neu ddirywiad arwynebau o'r fath a deall y cyfyngiadau amser sy'n gysylltiedig â defnyddio paentiau preimio
9.13 diffodd, datgysylltu, glanhau a storio cyfarpar
9.14 rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu
9.15 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
9.16 nodi gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol (cyn 1919) ac arwyddocâd hanesyddol
9.17 nodi a dilyn cyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr
9.18 gweithio o gwmpas peiriannau ac yn agos iawn atynt
9.19 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu
9.20 archwilio a defnyddio cyfarpar mynediad
9.21 gweithio ar uchder
9.22 defnyddio offer llaw a chyfarpar ategol
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â pharatoi arwynebau drwy eu glanhau â deunydd sgrafellog
Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill, y cyhoedd a thywydd garw
Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu
arbenigol o
16.1 deunyddiau sgrafellog
16.2 goleuadau ac arwyddion
16.3 gorchuddion diogelu a deunyddiau masgio
16.4 cyfarpar glanhau â deunydd sgrafellog
16.5 peiriannau a chyfarpar mynediad
16.6 offer llaw, offer pŵer, cyfarpar profi proffil arwyneb, cyfarpar glanhau â deunydd sgrafellog a chyfarpar ategol
17 dulliau o gyfrifo faint o ddeunyddiau sydd eu hangen, gan gynnwys faint o'r deunyddiau hynny a fydd yn cael eu gwastraffu, mewn cysylltiad â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer paratoi arwynebau drwy eu glanhau â deunydd sgrafellog
18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
**
Gweithdrefnau diogelwch**
19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau