Gosod gorchuddion waliau ar arwynebau cymhleth
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod gorchuddion waliau ar nodweddion pensaernïol cymhleth a heriol, diogelu'r man gweithio, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis, paratoi a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar cysylltiedig.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
*Meini Prawf Perfformiad 1
*
**Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am **wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
*Meini Prawf Perfformiad 2
*
**Arferion gwaith diogel
K4 faint o **wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol **a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
*
*Dewis adnoddau
K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr **adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
*
Meini Prawf Perfformiad 5
*
**Bodloni gofynion y contract
K17 sut i ymgymryd â **dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
*Meini Prawf Perfformiad 6
*
**Amser a neilltuwyd
K19 beth yw'r **rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
*Meini Prawf Perfformiad 1
*
1 dehongli lluniadau, gofynion, rheoliadau cyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
**Meini Prawf Perfformiad 2
**2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
**Meini Prawf Perfformiad 3
**3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau
3.2 offer a chyfarpar
**Meini Prawf Perfformiad 4
**4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal man gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
**Meini Prawf Perfformiad 5
**7 dangos sgiliau cysgodi, mesur, cydweddu, torri, cymysgu a defnyddio adlynion, plygu, gosod, trimio a glanhau
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
9 cadarnhau pwyntiau dechrau a gorffen a gosod gorchuddion waliau sylfaen neu orchuddion waliau gorffennu sy'n hir iawn ar o leiaf dri o'r arwynebau dilynol, gan gynnwys gorchudd wal patrymog cydwedd ar o leiaf un o'r dilynol, yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 nenfydau ar oleddf
9.2 colofnau a/neu bileri sy'n sefyll ar eu pen eu hunain
9.3 tyllau grisiau
9.4 nenfydau (lletach na'r cyffredin)
9.5 alcofau a/neu gloerau a/neu fwâu
9.6 nodweddion waliau strwythurol cymhleth gan gynnwys onglau mewnol ac allanol
10 gweithio o gwmpas ffitiadau trydanol a pheipiau
**Meini Prawf Perfformiad 6
**11 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
*Gwaredu gwastraff
*
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
**Argyfyngau
**2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
**Diffoddwyr tân
**3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr
**Peryglon
**4 y rhai hynny a nodir drwy asesiadau risg, mewn datganiadau dull, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
**Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
**5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 cyfarpar diogelu personol
5.3 cyfarpar diogelu anadlol
5.4 system awyru a gwacáu leol
**Gwybodaeth
**6 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gofynion galwedigaethol
**Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
**7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd, pobl a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
**Cynnal a chadw
**8 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
**Dulliau gweithio
**9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 cadarnhau gofynion mynediad
9.2 sicrhau bod arwynebau'n addas i'w gorchuddio
9.3 paratoi pastau ac adlynion
9.4 paratoi gorchuddion waliau patrymog cydwedd a'u gosod ar nenfydau (lletach na'r cyffredin)
9.5 paratoi a gosod gorchuddion waliau sylfaen a gorchuddion waliau gorffennu gweadog a/neu gerfweddol a phatrymog
9.6 paratoi gorchuddion waliau a'u gosod ar nenfydau ar oleddf, colofnau a/neu bileri sy'n sefyll ar eu pen eu hunain, tyllau grisiau, nodweddion strwythurol cymhleth gan gynnwys onglau mewnol ac allanol, nenfydau lletach na'r cyffredin, alcofau, cloerau a bwâu
9.7 gweithio o gwmpas ffitiadau trydanol a pheipiau
9.8 rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu
9.9 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
9.10 nodi a dilyn cyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr
9.11 gweithio o gwmpas peiriannau ac yn agos iawn atynt
9.12 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu
9.13 archwilio a defnyddio cyfarpar mynediad
9.14 gweithio ar uchder
9.15 defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod gorchuddion waliau ar arwynebau cymhleth
**Problemau
**12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
**Rhaglen
**13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
**Diogelu gwaith
**15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill, y cyhoedd a thywydd garw
**Adnoddau
**16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu
arbenigol o
16.1 deunyddiau paratoi arwynebau
16.2 pastau ac adlynion
16.3 gorchuddion waliau
16.4 gorchuddion diogelu
16.5 cynwysyddion a/neu fagiau gwastraff
16.6 peiriannau a chyfarpar mynediad
16.7 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
17 dulliau o gyfrifo niferoedd a hyd, gan gynnwys gwastraff, sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer gosod gorchuddion waliau ar arwynebau cymhleth
18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
**Gweithdrefnau diogelwch
**19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau