Gosod gorchuddion waliau nad ydynt o led safonol

URN: COSVR337
Sectorau Busnes (Cyfresi): Galwedigaethau Gorffen Addurnol a Pheintio Diwydiannol (Adeiladu)
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gosod gorchuddion waliau llydan ar arwynebau, diogelu’r man gweithio, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar mewn sefyllfaoedd diwydiannol a/neu anniwydiannol.

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

*Meini Prawf Perfformiad 1
*

**Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am **wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu

K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli

K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
*
Meini Prawf Perfformiad 2
*

**Arferion gwaith diogel

K4 faint o **wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso

K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio

K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb

K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol

K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny

K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol **a chanllawiau swyddogol


Meini Prawf Perfformiad 3
*
*
Dewis adnoddau

K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr **adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion

K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw

K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio

K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu

K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
*
Meini Prawf Perfformiad 5
*

Bodloni gofynion y contract
*
K17 sut i ymgymryd â *
dulliau gweithio
i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau

K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
**
Meini Prawf Perfformiad 6


Amser a neilltuwyd
**
K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod

*Meini Prawf Perfformiad 1
*

1 dehongli lluniadau, gofynion, rheoliadau cyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

*Meini Prawf Perfformiad 2
*

2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol

2.1 dulliau gweithio

2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel

2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel

2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel

2.5 risgiau penodol i iechyd

**Meini Prawf Perfformiad 3

**3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun

3.1 deunyddiau

3.2 offer a chyfarpar

**Meini Prawf Perfformiad 4

**4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod

5 cynnal man gweithio clir a thaclus

6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

**Meini Prawf Perfformiad 5

**7 dangos sgiliau cysgodi, mesur, torri, cymysgu, defnyddio, plygu, gosod, trimio a glanhau

8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig

9 cadarnhau pwyntiau dechrau a gorffen, cynllunio, torri gorchuddion waliau llydan a'u gosod yn eu trefn ar arwynebau sy'n cynnwys waliau llydan ag onglau mewnol ac allanol, ciliau a nodweddion a chadarnhau cyfarwyddiadau gweithio a/neu gyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr

**Meini Prawf Perfformiad 6

**10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

*Gwaredu gwastraff
*

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

**Argyfyngau

**2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol

2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau

2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

*Diffoddwyr tân
*

3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr

*Peryglon
*

4 y rhai hynny a nodir drwy asesiadau risg, mewn datganiadau dull, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

**Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

**5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol

5.1 mesurau diogelu ar y cyd

5.2 cyfarpar diogelu personol

5.3 cyfarpar diogelu anadlol

5.4 system awyru a gwacáu leol

*Gwybodaeth
*

6 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gofynion galwedigaethol

**Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

**7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd, pobl a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

**Cynnal a chadw

*8 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
*

Dulliau gweithio
**
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i

9.1 cadarnhau gofynion mynediad

9.2 sicrhau bod arwynebau a baratowyd yn flaenorol yn addas

9.3 paratoi'r paent preimio, y seliwr a'r adlynion priodol

9.4 paratoi gorchuddion waliau nad ydynt o led safonol a'u gosod ar arwynebau

9.5 darllen cyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr a ffurfio uniadau priodol drwy ddefnyddio torrwr uniadau neu stribedi diogelu, cyllell ac ymyl syth

9.6 ymdrin ag arwynebau sy'n cynnwys waliau llydan â chiliau ac onglau mewnol ac allanol

9.7 gweithio o gwmpas ffitiadau trydanol a pheipiau

9.8 cadw'r deunydd ac arwynebau cyfagos yn lân

9.9 rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu

9.10 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol

9.11 nodi a dilyn cyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr

9.12 gweithio o gwmpas peiriannau ac yn agos iawn atynt

9.13 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu

9.14 archwilio a defnyddio cyfarpar mynediad

9.15 gweithio ar uchder

9.16 defnyddio offer a chyfarpar cysylltiedig

10 gwaith tîm a chyfathrebu

11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithrediadau papuro
*
Problemau
*

12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio

12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa

12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
*
Rhaglen
*

13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig

14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

**Diogelu gwaith

**15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill, y cyhoedd a thywydd garw

**Adnoddau

**16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu

arbenigol o

16.1 paentiau preimio a selwyr

16.2 adlynion

16.3 gorchuddion waliau nad ydynt o led safonol

16.4 gorchuddion diogelu

16.5 cynwysyddion a/neu fagiau gwastraff

16.6 cyfarpar mynediad

16.7 offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig

17 dulliau o gyfrifo faint o ddeunyddiau, gan gynnwys gwastraff, sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer papuro

18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

*Gweithdrefnau diogelwch
*

19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CITB

URN gwreiddiol

VR337

Galwedigaethau Perthnasol

Paentio ac Addurno

Cod SOC

5323

Geiriau Allweddol

Gorchuddion waliau; Cefn ffabrig; Cefn papur; Cydweddu patrymau; Pastio; Trimio