Gweithredu cyfarpar chwistrellu paent
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dewis a defnyddio cydrannau, offer a chyfarpar i gydosod, gosod, glanhau a chynnal a chadw'r cyfarpar chwistrellu paent, dehongli gwybodaeth, paratoi deunyddiau a mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol.
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas
P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**
Meini Prawf Perfformiad 1
Dehongli gwybodaeth
K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn
Meini Prawf Perfformiad 2
Arferion gwaith diogel
K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol
Meini Prawf Perfformiad 3
Dewis adnoddau
K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain
Meini Prawf Perfformiad 4
Lleihau'r risg o ddifrod
K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn
Meini Prawf Perfformiad 5
Bodloni gofynion y contract
K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 6
Amser a neilltuwyd
K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Meini Prawf Perfformiad 1
1 dehongli lluniadau, gofynion, rheoliadau cyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud
Meini Prawf Perfformiad 2
2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd
Meini Prawf Perfformiad 3
3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau
3.2 offer a chyfarpar
Meini Prawf Perfformiad 4
4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal man gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Meini Prawf Perfformiad 5
7 dangos sgiliau cydosod, paratoi, llwytho, diogelu a chyfathrebu
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer, cyfarpar cyflenwi deunyddiau a chyfarpar ategol
9 gosod, addasu a gweithredu'r cyfarpar chwistrellu paent drwy wneud y canlynol yn unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir
9.1 paratoi deunyddiau cotio
9.2 llwytho'r system
9.3 monitro a chynnal y cyflenwad
10 diffodd y cyfarpar chwistrellu paent a'i lanhau
10.1 gweithredu gweithdrefnau diffodd
10.2 diffodd y cyfarpar am gyfnod dros dro
10.3 diffodd, glanhau a chynnal a chadw'r cyfarpar ar ôl gwneud y gwaith
Meini Prawf Perfformiad 6
11 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth Cwmpas
Gwaredu gwastraff
1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Argyfyngau
2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol (gan gynnwys anafiadau chwistrellu aer a hylif)
Diffoddwyr tân
3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr
Peryglon
4 y rhai hynny a nodir drwy asesiadau risg, mewn datganiadau dull, yng ngwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr ac mewn rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol
Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 cyfarpar diogelu personol
5.3 cyfarpar diogelu anadlol
5.4 system awyru a gwacáu leol
Gwybodaeth
6 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â chyfarwyddiadau chwistrellu paent a gofynion galwedigaethol
Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol
7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd, pobl a'r amgylchedd wrth weithio
yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
Cynnal a chadw
8 gofal y gweithiwr am offer llaw, offer pŵer, cyfarpar cyflenwi deunyddiau a chyfarpar ategol
Dulliau gweithio
9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 cadarnhau gofynion mynediad
9.2 cydosod cydrannau'r cyfarpar chwistrellu paent
9.3 paratoi deunyddiau cotio (systemau un pecyn a dau becyn)
9.4 llwytho cynwysyddion â deunyddiau
9.5 gosod a thynnu deunyddiau masgio i gynnal cyfanrwydd y gwaith
9.6 gweithredu, monitro a chynnal (tra bydd yn cael ei ddefnyddio) y cyfarpar chwistrellu paent
9.7 rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu
9.8 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
9.9 nodi a dilyn cyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr
9.10 gweithio o gwmpas peiriannau ac yn agos iawn atynt
9.11 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu
9.12 archwilio a defnyddio cyfarpar mynediad
9.13 gweithio ar uchder
9.14 defnyddio offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
9.15 diffodd, glanhau a storio cyfarpar
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gweithredu cyfarpar chwistrellu paent ac aelodau o'r cyhoedd y gellid effeithio arnynt
Problemau
12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad
Rhaglen
13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith
Diogelu gwaith
15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill, y cyhoedd a thywydd garw
Adnoddau
16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu
arbenigol o
16.1 deunyddiau cotio a gludir gan ddŵr a deunyddiau cotio a gludir gan hydoddydd
16.2 deunyddiau masgio (tâp masgio, papur masgio a gorchuddion)
16.3 deunyddiau cotio dau becyn (seiliau, actifadyddion a hydoddyddion)
16.4 gorchuddion diogelu
16.5 peiriannau a chyfarpar mynediad
16.6 offer llaw, cyfarpar chwistrellu paent a chyfarpar ategol
17 dulliau o gyfrifo faint o ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer chwistrellu paent, gan gynnwys faint o'r deunyddiau hynny a fydd yn cael eu gwastraffu
18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion
* *
Gweithdrefnau diogelwch
19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau