Cotio arwynebau drwy ddefnyddio brwshys a rholeri

URN: COSVR333
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Cynnal-a-chadw, Atgyweirio Aml-Grefft ac Adnewyddu Adeiladau,Gweithrediadau Cyrraedd a Rigio (Adeiladu),Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol (Adeiladu),Adeiladu gan Ddefnyddio Cydosodiadau wedi’u Gweithgynhyrchu oddi ar y Safle
Datblygwyd gan: Construction Skills
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chotio arwynebau mewn sefyllfaoedd diwydiannol a/neu anniwydiannol â deunyddiau cotio a gludir gan ddŵr a/neu ddeunyddiau cotio a gludir gan hydoddydd drwy ddefnyddio brwshys a/neu roleri, diogelu'r man gweithio, dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol a dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar.

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes Galwedigaethau Gorffen Addurniadol a Phaentio Diwydiannol a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio.



Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​P1 dehongli'r wybodaeth a roddir am y gwaith a'r adnoddau i gadarnhau ei pherthnasedd

P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a phenodol a chanllawiau swyddogol i wneud eich gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach

P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau hynny ar gyfer y dulliau gweithio

P4 cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas

P5 cydymffurfio â'r wybodaeth a roddir yn y contract i wneud y gwaith yn effeithlon yn unol â'r gofynion

P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a neilltuwyd yn unol â'r rhaglen waith


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**

Meini Prawf Perfformiad 1

Dehongli gwybodaeth

K1 pa weithdrefnau a ddatblygwyd gan y sefydliad i adrodd am wybodaeth amhriodol ac adnoddau anaddas, yn ogystal â'u cywiro, a sut i'w gweithredu
K2 pa fathau o wybodaeth sydd ar gael, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli
K3 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer datrys problemau â'r wybodaeth a pham mae'n bwysig eu dilyn

Meini Prawf Perfformiad 2

Arferion gwaith diogel

K4 faint o wybodaeth y mae'n rhaid i weithwyr ei deall i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol a chanllawiau swyddogol a sut i'w chymhwyso
K5 pa fathau o ddiffoddwyr tân sydd ar gael a sut a phryd i'w defnyddio
K6 sut y dylid ymateb i argyfyngau a phwy ddylai ymateb
K7 beth yw gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol
K8 beth yw'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K9 pam, pryd a sut y dylid defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch
K10 sut i weithredu arferion gwaith sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau swyddogol

Meini Prawf Perfformiad 3

Dewis adnoddau

K11 beth yw nodweddion, ansawdd, defnyddiau, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion yr adnoddau a sut y dylid cywiro diffygion
K12 sut y dylid defnyddio'r adnoddau a sut i adrodd am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â nhw
K13 beth yw gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam y cawsant eu datblygu a sut i'w defnyddio
K14 pa beryglon sy'n gysylltiedig â'r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut i ddelio â'r rhain

Meini Prawf Perfformiad 4

Lleihau'r risg o ddifrod

K15 sut i ddiogelu gwaith rhag difrod a phwrpas diogelu
K16 pam y dylid gwaredu gwastraff yn ddiogel a sut i wneud hyn

Meini Prawf Perfformiad 5

Bodloni gofynion y contract

K17 sut i ymgymryd â dulliau gweithio i fodloni'r gofynion a sut i adrodd am broblemau
K18 sut i gynnal a chadw offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 6

Amser a neilltuwyd

K19 beth yw'r rhaglen i'r gwaith gael ei wneud o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

*

Meini Prawf Perfformiad 1

1 dehongli lluniadau, gofynion, rheoliadau cyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull a gwybodaeth gweithgynhyrchwyr sy'n gysylltiedig â'r gwaith sydd i'w wneud

Meini Prawf Perfformiad 2

2 osgoi risg drwy gydymffurfio â'r wybodaeth a roddir am y dilynol
2.1 dulliau gweithio
2.2 defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
2.3 defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
2.4 defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
2.5 risgiau penodol i iechyd

Meini Prawf Perfformiad 3

3 dewis adnoddau sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun
3.1 deunyddiau, cydrannau a gosodiadau
3.2 offer a chyfarpar

Meini Prawf Perfformiad 4

4 diogelu'r gwaith a'r ardal o'i gwmpas rhag difrod
5 cynnal man gweithio clir a thaclus
6 gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol

Meini Prawf Perfformiad 5

7 dangos sgiliau cydweddu, cymysgu, arllwys, gwanedu, llwytho, rhag-baentio, unffurfio a phaentio ymylon
8 defnyddio a chynnal a chadw offer llaw, offer pŵer a chyfarpar cysylltiedig
9 cotio trimiau, waliau llydan a gwaith strwythurol a phensaernïol yn fewnol a/neu'n allanol mewn sefyllfaoedd diwydiannol a/neu anniwydiannol â deunyddiau cotio a gludir gan ddŵr a/neu ddeunyddiau cotio a gludir gan hydoddydd drwy ddefnyddio brwshys a/neu roleri'n unol â'r cyfarwyddiadau gweithio a roddir

Meini Prawf Perfformiad 6

10 cwblhau'ch gwaith eich hun o fewn yr amser amcangyfrifedig a neilltuwyd i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient


Gwybodaeth Cwmpas

​​

*

Gwaredu gwastraff

1 cyfrifoldebau amgylcheddol, gweithdrefnau'r sefydliad, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Argyfyngau

2 ymateb y gweithiwr i sefyllfaoedd yn unol ag awdurdodiad sefydliadol a sgiliau personol
2.1 tanau, gollyngiadau ac anafiadau
2.2 argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol

Diffoddwyr tân

3 dŵr, CO2, ewyn a phowdr

Peryglon

4 nodi peryglon drwy ddefnyddio asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr, rheoliadau statudol a chanllawiau swyddogol

Cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch

5 y cyfarpar a nodir gan yr egwyddorion atal ar gyfer defnydd galwedigaethol, mathau o gyfarpar a phwrpas pob math, sefyllfaoedd gwaith a'r amgylchedd gwaith cyffredinol
5.1 mesurau diogelu ar y cyd
5.2 cyfarpar diogelu personol
5.3 cyfarpar diogelu anadlol
5.4 system awyru a gwacáu leol

Gwybodaeth

6 lluniadau, gofynion, deddfwriaeth gyfredol, amserlenni, asesiadau risg, datganiadau dull, gwybodaeth gweithgynhyrchwyr, canllawiau swyddogol a rheoliadau cyfredol sy'n ymwneud ag adeiladau ac yn gysylltiedig â gofynion galwedigaethol

Deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol

7 mae hyn yn ymwneud â chyfrifoldebau'r gweithiwr am ddamweiniau posibl, peryglon i iechyd, pobl a'r amgylchedd wrth weithio yn y gweithle, o dan lefel y tir, mewn lleoedd cyfyng, ar uchder, ag offer a chyfarpar ac â deunyddiau a sylweddau ac wrth symud a storio deunyddiau drwy eu codi a'u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol

Cynnal a chadw

8 gofal y gweithiwr am frwshys, rholeri ac offer a chyfarpar cysylltiedig

Dulliau gweithio

9 cymhwyso gwybodaeth i sicrhau arferion, gweithdrefnau a sgiliau gwaith diogel ac iach mewn perthynas â'r dull, y maes gwaith a'r deunyddiau a ddefnyddir i
9.1 cadarnhau gofynion mynediad
9.2 sicrhau bod arwynebau wedi'u haddurno neu eu paratoi'n flaenorol yn addas
9.3 paratoi deunyddiau cotio a gludir gan ddŵr, deunyddiau cotio a gludir gan hydoddydd a deunyddiau cotio dau becyn a chotio arwynebau â nhw drwy ddefnyddio brwshys a rholeri
9.4 cotio waliau llydan a nodweddion strwythurol a/neu bensaernïol
9.5 rhoi côt ychwanegol ar nodweddion yr arwyneb (amgylchedd diwydiannol)
9.6 profi trwch cotiau gwlyb a sych
9.7 nodi sut mae amodau atmosfferig yn effeithio ar ddeunyddiau cotio a'u defnydd
9.8 nodi oes waith a defnydd deunyddiau a baratowyd i'w defnyddio
9.9 rhoi gwybodaeth ar gyfer modelu gwybodaeth am adeiladu
9.10 nodi, penderfynu a rhoi gwybod pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol
9.11 nodi a dilyn cyfarwyddiadau gweithgynhyrchwyr
9.12 gweithio o gwmpas peiriannau ac yn agos iawn atynt
9.13 cyfarwyddo ac arwain peiriannau wrth iddynt symud a chael eu gweithredu
9.14 gweithio ar uchder
9.15 archwilio a defnyddio cyfarpar mynediad

9.16 defnyddio brwshys, rholeri ac offer a chyfarpar cysylltiedig sy'n briodol
10 gwaith tîm a chyfathrebu
11 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â chotio arwynebau drwy ddefnyddio brwshys a rholeri ac aelodau o'r cyhoedd y gellid effeithio arnynt

Problemau

12 y rhai hynny sy'n codi o wybodaeth, adnoddau a dulliau gweithio
12.1 eich awdurdod eich hun i unioni sefyllfa
12.2 gweithdrefnau adrodd y sefydliad

Rhaglen

13 mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd amcangyfrifedig
14 gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer adrodd am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith

Diogelu gwaith

15 diogelu gwaith rhag difrod a achosir gan weithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill, y cyhoedd a thywydd garw

Adnoddau

16 deunyddiau, cydrannau a chyfarpar mewn perthynas â niferoedd, ansawdd, meintiau a chynaliadwyedd mathau safonol a/neu
arbenigol o
16.1 deunyddiau cotio a gludir gan ddŵr a deunyddiau cotio a gludir gan hydoddydd
16.2 paentiau preimio, selwyr, deunyddiau cotio canolradd (cotiau isaf) a gorffeniadau (deunyddiau cotio un pecyn a dau becyn)
16.3 systemau un cynnyrch (e.e. emylsiynau, farneisiau a thriniaethau cadw pren)
16.4 deunyddiau cotio arbenigol
16.5 hydoddyddion a/neu deneuwyr
16.6 brwshys, rholeri a chyfarpar cysylltiedig arall sy'n briodol
16.7 gorchuddion diogelu a deunyddiau masgio
16.8 peiriannau a chyfarpar mynediad
16.9 offer llaw a chyfarpar cysylltiedig

17 dulliau o gyfrifo faint o ddeunyddiau sydd eu hangen, gan gynnwys faint o'r deunyddiau hynny a fydd yn cael eu gwastraffu, mewn cysylltiad â'r dull a'r weithdrefn ar gyfer cotio arwynebau drwy ddefnyddio brwshys a rholeri

18 cadarnhau bod yr adnoddau a'r deunyddiau'n bodloni'r gofynion

Gweithdrefnau diogelwch

19 safle, gweithle, cwmni, gweithiwr a cherbydau


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ConstructionSkills / SgiliauAdeiladu

URN gwreiddiol

VR333

Galwedigaethau Perthnasol

Paentio ac Addurno

Cod SOC

5323

Geiriau Allweddol

Cotio; Rhag-baentio; Preimio; Emylsiynau; Farneisiau; Côt ychwanegol; A gludir gan hydoddydd; A gludir gan ddŵr